Undeb Rygbi Cymru 'angen moderneiddio', medd cyn-aelod o'r bwrdd

  • Cyhoeddwyd
Amanda BlancFfynhonnell y llun, Aviva
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Amanda Blanc adael fel cadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol URC fis Tachwedd 2021

Mae un o benaethiaid Aviva wedi datgelu iddi adael bwrdd Undeb Rygbi Cymru am ei bod yn teimlo fod neb yn gwrando arni.

Dywedodd Amanda Blanc wrth raglen Wales Live ei bod hefyd yn teimlo fod problemau am lywodraethiant yr undeb.

Fe wnaeth hi adael fel cadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol URC fis Tachwedd 2021, wedi llai na dwy flynedd yn y rôl.

Doedd dim eglurhad am ei hymadawiad ar y pryd.

Dywedodd URC ei fod "wastad yn adolygu ein llywodraethiant".

'Newid angen digwydd'

Yn siarad am y tro cyntaf am ei hymadawiad, dywedodd Ms Blanc wrth Wales Live: "Ry'ch chi'n hoffi gwneud pethau ble chi'n cael impact.

"Os ydych chi'n teimlo nad ydy pobl yn gwrando arnoch chi, ry'ch chi'n symud ymlaen."

Ychwanegodd ei bod yn teimlo fod angen i lywodraethiant URC "foderneiddio", ac mai ei phenderfyniad hi yn unig oedd gadael.

"Rydw i yn credu fod newid angen digwydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amanda Blanc fod angen i lywodraethiant URC "foderneiddio"

Dywedodd hefyd ei bod yn teimlo fod angen cynrychioli'r gwahanol gymunedau sydd eisiau cymryd rhan mewn rygbi.

"Edrychwch ar gêm y menywod, er enghraifft - cymryd hynny o ddifrif a sicrhau ei bod yn cael y buddsoddiad sydd ei angen," meddai.

"Rwy'n credu fod hynny wir o fewn gallu Undeb Rygbi Cymru i'w drwsio."

Ychwanegodd fod "pawb yn gweld yr angen am newid".

Dywedodd llefarydd ar ran URC: "Rydym yn parhau i barchu Amanda ac yn diolch iddi am ei chyfraniad tra ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

"Mae pob elfen o fuddsoddiad URC mewn rygbi yn hynod bwysig, a bydd URC wastad yn adolygu ein llywodraethiant."

Bydd y cyfweliad llawn i'w weld ar Wales Live, BBC One Wales am 22:35 nos Fercher, ac ar iPlayer.