Cymunedau incwm isel â mwy o broblem llygredd aer

  • Cyhoeddwyd
Llygredd aerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl sydd â'r incwm isaf yng Nghymru yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd lle mae llygredd aer yn broblem, yn ôl ymchwil newydd.

Mae'r ardaloedd sydd â poblogaethau uwch o leiafrifoedd ethnig hefyd yn cael eu heffeithio'n anghymesur.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod y canfyddiadau "ysgytwol" yn dangos bod angen cyflymu'r gwaith ar ddeddfau aer glân newydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod iechyd a'r amgylchedd wrth wraidd ei phenderfyniadau a'i bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â ffynonellau sy'n llygru'r aer.

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi cymharu data llygredd fesul cymdogaeth gyda ffigyrau ar lefelau amddifadedd, ethnigrwydd, poblogaeth plant ac ysgolion a pherchnogaeth ceir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y dadansoddiad yn awgrymu bod ansawdd aer gwael yn cael effaith anghymesur ar incwm is ac ardaloedd mwy difreintiedig.

Roedd pobl o liw hefyd bum gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaeth â lefelau uchel o lygredd nitrogen deuocsid ac mewn ardaloedd â llygredd deunydd gronynnol mân uwch.

Ond roedd cartrefi mewn ardaloedd â'r llygredd aer gwaethaf yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar o gymharu â'r rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd â gwell ansawdd aer.

Yn ôl Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae'r ymchwil yn dangos bod llygredd aer wedi dod yn fater o "gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb".

"Mae'n effeithio fwyaf ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sydd, yn aml, yn cyfrannu leiaf at achosi llygredd aer," meddai.

"Os yw Cymru am fod yn genedl deg a chyfiawn, yn ogystal â bod yn genedl werdd, rhaid inni weithredu nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Y bobl sy'n cyfrannu leiaf at lygredd aer sydd fwyaf tebygol o ddioddef ei effaith, medd Haf Elgar

Dywedodd Joseph Carter, Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru bod canfyddiadau'r astudiaeth yn "ysgytwol ond ddim yn syndod".

"Er mwyn achub bywydau a diogelu ein hiechyd ni a'r amgylchedd, rhaid i ni gael Deddf Aer Glân i Gymru cyn gynted â phosibl," ychwanegodd.

Sefyllfa 'anghyfiawn'

Roedd Paula Dunster, mam o Gaerdydd, mor bryderus am lefelau llygredd ar ei theithiau cerdded dyddiol i'r ysgol yn ardal Llanedern, mi benderfynodd gynnal ei phrofion ansawdd aer ei hun.

"Mae'n rhaid i ni fynd dros yr A48 ac ar hyd ffordd brysur arall i'r ysgol felly dwi'n poeni am lefelau llygredd aer o'r holl draffig," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Paula Dunster gyda'i mab Ieuan

"Fe wnes i fy mhrofion fy hun am wythnos yn ôl ym mis Mawrth ac ar un diwrnod roedd y lefelau bum gwaith yn uwch na'r hyn sy'n cael ei argymell."

Mae hi eisiau gweld mwy o fonitro'n digwydd ac i'r wybodaeth gael ei chyhoeddi er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau pobl ynghylch sut i deithio.

"Oni bai eich bod chi'n gweld y data, mae'n hawdd anwybyddu llygredd aer," meddai.

Ychwanegodd fod canfyddiadau ymchwil Cyfeillion y Ddaear yn dangos bod y sefyllfa'n "anghyfiawn".

"Dyw hi ddim deg ar bobl - mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn i wneud yn siŵr bod pobl yn yr ardaloedd hyn yn gallu cadw'n iach a'u plant hefyd".

Disgrifiad o’r llun,

Jabeda Siddiqui a'i mab Tabshir

Wrth fynd i'r ysgol yn ardal Treganna, Caerdydd, dywedodd Jabeda Siddiqui a'i mab Tabshir fod y mwg o'r traffig yn eu poeni.

"Nid yw'r llygredd yn dda i'n plant a'n babanod. Byddai'n well i bobl gerdded neu feicio," meddai Ms Siddiqui.

Dywedodd Lisa Rees, oedd allan am dro gyda'i phlentyn: "Gallwch deimlo'r mwg yn eich taro chi ac mae'n glynu yn eich gwddf."

Roedd hi'n meddwl mai un ateb oedd lleihau costau trafnidiaeth gyhoeddus fel bod llai yn ddibynnol ar geir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mwg yn 'glynu yn eich gwddf', medd Lisa Rees

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo Deddf Aer Glân newydd i Gymru ers cyfnod ac mae'r syniad yn cael ei gefnogi'n drawsbleidiol yn y Senedd.

Fe gyflwynodd gweinidogion syniad o gynnwys y ddeddfwriaeth newydd fis Ionawr 2021, gan awgrymu y byddai gwaith o drafftio'r bil yn dechrau eleni.

Ond mae ymgyrchwyr aer glân wedi dadlau bod yr amserlen yn llawer rhy araf, gan arwain at fesurau a thargedau newydd fyddai ond yn dod i rym yn 2026.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer fel y risg amgylcheddol fwyaf i iechyd pobl, gan gyfrannu at rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders AS, fod yr oedi gan Lywodraeth Cymru'n effeithio ar y tlotaf mewn cymdeithas, sydd "yn gorfod anadlu aer llygredig".

'Gwenwyno ein plant'

Dywedodd llefarydd newid hinsawdd Plaid Cymru, Delyth Jewell AS: "Rydyn yn gwenwyno ein plant ac mae hyn yn fwy cyffredin mewn mannau lle mae pobl sydd eisoes yn wynebu mwy o anfanteision yn byw, mae'n rhaid cyflwyno mesur aer glân ar fyrder.

"Fe ddylen ni fod yn meddwl am hyn fel argyfwng cyfiawnder cymdeithasol - dylai fod ar flaen ac ar frig agenda'r llywodraeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn cyflwyno Bil Aer Glân i Gymru fydd yn cyflwyno targedau ansawdd aer sy'n dderbyniol gan Sefydliad Iechyd y Byd.

"Bydd mynd i'r afael ag ansawdd aer a newid hinsawdd gyda'n gilydd yn sicrhau canlyniadau cyflymach, a thecach i bobl, byd natur a'r blaned.

"Bydd hyn o fudd i bawb ac yn enwedig y bobl hynny sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig sy'n cael eu heffeithio'n anghymesur gan lygredd aer."

Pynciau cysylltiedig