Glynebwy: 600 o swyddi newydd mewn ffatri poteli gwydr
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer ffatri cynhyrchu gwydr gwerth £390 miliwn wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Blaenau Gwent.
Mae disgwyl y bydd datblygiad cwmni CiNER Glass Ltd - sydd o Dwrci - yn creu dros 600 o swyddi parhaol.
Fe ddisgrifiwyd penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i gymeradwyo'r cynllun ddydd Iau fel "diwrnod gwych i Flaenau Gwent".
Bydd yn cael ei ddatblygu ar Stad Ddiwydiannol Rassau ar gyrion Glynebwy.
Swyddi ychwanegol
Mae disgwyl i'r prosiect greu tua 600 o swyddi parhaol - gan gynnwys gwyddonwyr a gwaith ymchwil a datblygu - ac hyd at 500 arall yn ystod y cyfnod adeiladu.
Ond, clywodd cynghorwyr gall y ffatri gefnogi 1,200 o swyddi ychwanegol fel rhan o'r gadwyn gyflenwi.
Bydd y broses yn cynnwys mewnforio tywod er mwyn creu gwydr newydd ac ailgylchu gwydr sydd eisoes wedi'i ddefnyddio.
Wedi'r cyfarfod dywedodd aelod o fwrdd gweithredol CiNER Glass Ltd, Didem Ciner eu bod yn "hynod o falch".
"Dyma'r cam cyntaf tuag at adeiladu cyfleuster o safon fyd-eang yng nghanol de Cymru ac ni allwn aros i ddechrau gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Blaenau Gwent."
Y gobaith yw y bydd y ffatri'n weithredol erbyn 2026.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020