Diwrnod poethaf o'r flwyddyn yng Nghymru hyd yn hyn

  • Cyhoeddwyd
Traeth Ynys Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Ynys Y Barri dan ei sang amser cinio ddydd Gwener

Dydd Gwener yw'r diwrnod poethaf yng Nghymru hyd yn hyn eleni wrth i'r Swyddfa Dywydd ddisgwyl i'r tymheredd gyrraedd 30C mewn rhannau o'r de.

Yn ôl rhagolygon fe allai'r gwres gyrraedd 34C yn ne-ddwyrain Lloegr, ond y disgwyl yng Nghymru yw mai rhwng 27C a 30C fydd yr uchafswm.

Erbyn ganol y prynhawn roedd tymheredd o 28C wedi ei gofnodi ym Mrynbuga, yn Sir Fynwy a 27 ym Mhenarlâg, yn Sir Y Fflint.

Ond nid dyna'r darlun ar hyd arfordir y gorllewin a'r gogledd ble mae'r tywydd yn fwy cymylog.

Yn Ynys y Barri brynhawn Gwener, cyrchfan boblogaidd iawn yn y de-ddwyrain, cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty ar ôl mynd i drafferthion tra'n padlfyrddio.

Rhybudd 'er y temtasiwn'

Mae Dŵr Cymru hefyd yn rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw o gronfeydd dŵr, er gymaint y "temtasiwn ar ddiwrnod fel heddiw", gan fod "rhyw 45 o bobl yn marw bob blwyddyn" wrth nofio ynddyn nhw.

"Rydan ni eisiau pobl ymweld, mwynhau'r dŵr a'r ardal o amgylch y dŵr ond rydym yn wirioneddol bryderus bod pobl yn deall mor nofio heb awdurdod mewn cronfeydd yn beth peryglus iawn i'w wneud," meddai'r Rheolwr Atyniadau Ymwelwyr, Kevin Burt.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cymryd gofal wrth nofio yn ystod tywydd cynnes, medd Kevin Burt

"Gall wyneb y dŵr fod yn gynnes ond mae'n oeri'n gyflym eithriadol ac mae'r cerrynt yn symud. Y lladdwr mwyaf yw sioc dŵr oer a gallai effeithio ar nofwyr cryf [hyd yn oed] mewn eiliadau."

Oherwydd y tywydd poeth mae rhybuddion wedi'u cyhoeddi hefyd ar gyfer perchnogion anifeiliaid anwes i'w cadw allan o'r haul, ac am yr oblygiadau iechyd i bobl yn ystod y gwres.

Er hynny does ddim disgwyl i'r tywydd tanbaid barhau, wrth i'r tymheredd ostwng eto dros y penwythnos.

Hwb i fusnesau

Gyda disgwyl i'r torfeydd heidio i draethau ac ardaloedd arfordirol er mwyn gwneud y mwyaf o'r haul, mae sawl busnes yn disgwyl diwrnod prysur.

Disgrifiad o’r llun,

Caitlin: "Mae'n neis gweld Ynys Y Barri mor brysur, yn enwedig wedi Covid"

Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Caitlin, sy'n gweithio yng nghaffi Marcos yn Ynys Y Barri: "Mae hi 'di bod yn brysur iawn heddiw a tydi'r diwrnod heb ddechrau eto.

"Mae hi wedi bod yn brysur a ni'n anghofio fod disgyblion blwyddyn 11 wedi gorffen ysgol a myfyrwyr wedi gorffen yn y brifysgol yn barod.

"Mae'n neis gweld Ynys Y Barri mor brysur, yn enwedig wedi Covid, a gweld pobl yn joio'r haul."

Un oedd yn gwneud y mwyaf o'r heulwen oedd Jess o Bontypridd.

Disgrifiad o’r llun,

Jess yn mwynhau ar draeth Ynys Y Barri fore Gwener

"Ni 'di cael y diwrnod off ysgol felly mae'n neis i gymryd amser gyda ffrindiau a joio'r haf," meddai.

"Chillio, mynd i'r môr os mae'n boeth, a hufen iâ!"

Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw mai de Cymru - ardaloedd fel Penarth ym Mro Morgannwg - fydd y llefydd twymaf

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd y cyflwynydd tywydd, Chris Jones: "Anghyffredin ac anarferol, ydy mae e rhywfaint, yn enwedig ar gyfer mis Mehefin.

"Ond mae 'na fisoedd Mehefin cynnes a phoeth wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf 'ma yn arbennig.

"Y tymheredd Mehefin uchaf ar gof a chadw yw nôl yn 1976 pan roedd hi'n 35.6C, felly mae hwnna yn uchel.

"Ond o ran beth sy'n achosi fe, yn syml iawn mae'n gyfuniad o wasgedd isel sefydlog sydd wedi bod dros Brydain yn ddiweddar, er yn dechrau symud i ffwrdd erbyn hyn... a wedyn y tywydd cynnes yma, y gwyntoedd cynnes lan o'r cyfandir."

Ffynhonnell y llun, Chris Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Chris Jones fod y tywydd twym yn "gyfuniad o wasgedd isel sefydlog sydd wedi bod dros Brydain yn ddiweddar, a'r gwyntoedd cynnes lan o'r cyfandir"

Ychwanegodd: "Yn sicr mae'n [newid hinsawdd] cyfrannu ac yn amlwg mae pethe yn cynhesu.

"I ba raddau, pwy a wŷr, ond digwydd bod mae'r Swyddfa Dywydd yn diffinio'r gwresdon yma fel tri diwrnod o 25C neu uwch, ond maen nhw ar fin newid y diffiniad o 25 i 26, 27 a hyd yn oed 28, felly byd llai o'r heatwaves 'ma yn cael eu cyhoeddi."

Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast oedd Billie-Jade Thomas o RSPCA Cymru, fu'n rhybuddio am effeithiau posib tywydd poeth ar anifeiliaid anwes.

"Pob haf mae'r RSPCA yn derbyn cannoedd o adroddiadau am gŵn mewn ceir ac mae'n hawdd i feddwl fod pawb yn gwybod erbyn hyn, ond mae o yn digwydd ac mae'n bryderus iawn," meddai.

Pynciau cysylltiedig