Dau yn yr ysbyty ar ôl mynd i drafferthion yn y môr

  • Cyhoeddwyd
Ynys y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Dydd Gwener yw'r diwrnod poethaf yng Nghymru hyd yn hyn eleni

Mae dau o bobl yn yr ysbyty ar ôl mynd i drafferthion tra'n padlfyrddio yn Ynys y Barri.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi'u galw i'r digwyddiad am 17:56 brynhawn Gwener.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau mai achubwyr bywyd yr RNLI oedd wedi rhoi gwybod am y digwyddiad ym Mae Whitmore.

"Anfonwyd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Ynys y Barri a bad achub RNLI Doc y Barri, ochr yn ochr â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu De Cymru," meddai.

"Cafodd y padlfyrddwyr eu hachub a'u dychwelyd i'r lan cyn cael eu rhoi yng ngofal y gwasanaeth ambiwlans."

Cafodd ddau berson eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Nid yw eu cyflwr yn glir ar hyn o bryd.

Roedd cannoedd o bobl wedi bod yn mwynhau'r heulwen ar y traeth, ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn hyd yma yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig