'Gall newid hinsawdd fod mor niweidol â Covid'
- Cyhoeddwyd

Llifogydd yn Nantgarw wedi Storm Dennis yn 2020
Heb weithredu ar unwaith, gall newid hinsawdd fod yr un mor niweidiol i iechyd cyhoeddus rhai cymunedau â Covid, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.
Dywedodd Dr Syr Frank Atherton bod tymereddau cynyddol yn debygol o greu risg difrifol i iechyd y genedl.
Yn debyg i'r pandemig, fe rybuddiodd mai ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru fydd yn dioddef waethaf.
Mae yna gynllun i leddfu effeithiau gwaethaf newid hinsawdd ac i ddiogelu'r bobl fwyaf bregus, medd Llywodraeth Cymru.
"Rydyn ni'n gwybod bod y pandemig wedi effeithio ar ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru mewn ffordd anghyfartal o gymharu â gweddill y wlad ac wedi effeithio ar bobl hŷn yn enwedig," meddai Dr Atherton yn ei adroddiad blynyddol.
"Rhaid i ni wneud popeth y gallwn i sicrhau nad yw newid hinsawdd yn cael yr un effaith."

Roedd yna dân mynydd am rai dyddiau uwchben pentref Machen fis Ebrill y llynedd
Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio yn barod y bydd tywydd eithafol yn digwydd yn amlach yn y dyfodol o ganlyniad i newid hinsawdd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhai o gymunedau Cymru wedi wynebu Storm Dennis, Storm Arwen a Storm Christoph.
Y llynedd, roedd yna dân mawr hefyd uwchben pentref Machen, ger Caerffili, a losgodd am bump diwrnod.
Mae cynnydd yn y tymheredd hefyd yn achosi tân ar y tir i losgi'n hirach ac yn ei wasgaru dros ardal fwy eang.

Mae Baghitar Katavada yn poeni am effaith tanau gwair ar iechyd pobl
Mae tŷ teras Baghitar Katavada wrth droed mynydd Machen. Roedd y tân ar y mynydd, yn 2021, y gwaethaf yn yr ardal am dros bedwar deg o flynyddoedd, meddai.
"Roedd rhai pobl yn pryderu'n fawr ond roeddwn i'n gallu gweld bod y fflamau yn bell i fyny'r mynydd, ond roedd y mwg yn wael.
"Roedd rhai pobl hŷn sy'n byw'n lleol yn ofni y byddai'r mwg yn effeithio ar eu hiechyd achos mae gan rai ohonyn nhw asthma."
'Paratoi i fod yn wydn fel cymunedau'
Dywedodd Dr Atherton wrth BBC Cymru bod cynnydd yn y tymheredd ar draws y byd yn effeithio ar afiechydon ac ar sut mae afiechydon yn cael eu trosglwyddo.
"Mae'n arwain at sefyllfa ble mae pandemig yn fwy tebygol o ddigwydd," meddai. "Dyw Covid ddim ar ben eto 'chwaith a bydd afiechydon eraill gyda ni yn y dyfodol.
"Rhaid i ni baratoi a bod yn wydn fel cymunedau ar draws y wlad. Mynd i'r afael â newid hinsawdd yw un rhan o'r ateb."

Dr Syr Frank Atherton yn ateb cwestiynau am newid hinsawdd gan ddisgyblion cynradd yng Nghasnewydd
Yn ogystal â lleihau nifer y ffynonellau sy'n creu nwyon tŷ gwydr, mae pobl a mudiadau angen deall y broblem a gwneud newidiadau sy'n cael effaith ar newid hinsawdd, ychwanegodd Dr Atherton.
Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James: "Ein huchelgais yw cyrraedd net sero yng Nghymru erbyn 2030. Mae datgarboneiddio yn rhan o'r daith i leihau effeithiau gwaethaf newid hinsawdd ar gymunedau. Rydym hefyd am sicrhau nad yw'r bobl mwyaf bregus yn wynebu canlyniadau newid hinsawdd yn fwy nag eraill.
"Ond mae angen i bob un ohonon ni fod yn rhan o'r ymdrech yma. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd fel rhan o dîm Cymru y gallwn ni lwyddo i greu Cymru iachach, hapusach a mwy gwyrdd ar gyfer cenhedloedd y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022