Cerdd ar Sul y Tadau
- Cyhoeddwyd

Llaw fawr Dad, a llaw fach Arthur (chwith), Osian Rhys Jones (dde)
Y prifardd Osian Rhys Jones, a ddaeth yn dad i Arthur yn ddiweddar, sydd wedi ysgrifennu cerdd arbennig i nodi Sul y Tadau.
Llanw
Roeddwn i a dy fam wedi arfer
cael glan y môr i ni'n hunain.
Treulio diwrnodau'n torheulo, yn trochi'n traed.
Weithiau, pan fyddai'r twyni'n teimlo'n rhy anial,
byddem yn chwilio'r tywod
am gragen fach a'i chyfrinachau.

Roedden ni wedi syllu'n ddigon hir ar y gorwel
i wybod nad mewn sedd car yn cysgu
Y byddet yn dod dros drothwy'r tŷ,
ond yn fawr a diatal fel y llanw
a'th donnau o lefain yn gostegu'n gwsg.
Golchaist y tŷ taclus
hefo broc bywyd babi:
dwmi ar y bwrdd,
potel fwydo ar ei hanner ar gownter y gegin,
llieiniau llaethlyd ymhob ystafell.

Ac ydi, mae'r traeth yn llawn rŵan
a'r gyfrinach ar wasgar
yn ein blerwch braf.

'Ac ydi, mae'r traeth yn llawn rŵan a'r gyfrinach ar wasgar yn ein blerwch braf'
Hefyd o ddiddordeb: