Penodi cynorthwyydd dysgu byddar cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y cynorthwyydd Emma Day, ac Evelyn
Disgrifiad o’r llun,

Y cynorthwyydd Emma Day, 21, ac Evelyn, 11

Mae Cyngor Sir Penfro wedi penodi cynorthwyydd dysgu byddar i gefnogi disgybl byddar mewn ysgol brif ffrwd o fewn y sir.

Y gred yw mai Emma Day, 21, yw'r cynorthwyydd byddar cyntaf yng Nghymru i gefnogi disgybl byddar mewn ysgol brif ffrwd.

Mae Ms Day, sy'n fyddar ei hun, wedi cael ei recriwtio gan Gyngor Sir Penfro i gefnogi Evelyn, 11, sy'n ddisgybl yn Ysgol Clydau yn Nhegryn.

Wrth ddisgrifio ei phenodiad fe ddywedodd Emma ei bod yn "gyffrous" ac yn "browd iawn".

"Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod myfyrwyr byddar a phlant byddar yn cael addysg yn eu hiaith gyntaf sef arwyddiaith a'u bod yn cael gweithio gydag oedolyn fel fi," meddai.

"Rwy'n gobeithio mai hyn fydd y cam nesaf mewn addysg i blant byddar."

'Wedi profi rhwystrau fy hun'

Yn ôl y gynorthwywraig, mae ei phrofiad personol hi o fod yn fyddar a'r rhwystrau y mae hi wedi'u hwynebu yn gryfder iddi yn ei gwaith wrth geisio helpu person ifanc byddar, fel Evelyn.

"Mae gen i'r profiad o fod yn ddisgybl byddar fy hun a'r rhwystrau y gwnes i eu hwynebu ar y pryd. Fe ddes i drwyddyn nhw a dwi'n brawf bod modd dysgu a chael gwared ar y rhwystrau hynny. Dyna'r sgiliau dwi'n gobeithio y byddaf yn eu trosglwyddo i Evelyn."

Disgrifiad o’r llun,

Emma Day yn cynorthwyo Evelyn yn yr ystafell ddosbarth

Mae dysgu drwy ei hiaith gyntaf, arwyddiaith, yn bwysig iawn i Evelyn, sy'n dweud bod 'Miss Day' yn gymorth mawr iddi.

"Mae'n fy helpu gyda fy Saesneg a Mathemateg" meddai. "Mae'n gwybod beth rwy'n ei ddweud pan rwy'n cyfathrebu."

Mae'r disgybl ifanc hefyd yn dweud ei bod yn hapusach ers i Emma ddod i'w chynorthwyo, rhywbeth mae ei rhieni wedi sylwi arno hefyd.

"Gallwch weld bod hyder Evelyn wedi cynyddu" meddai ei thad, Chris Smoothy.

"Mae'n arwyddo fwy adref, sydd o fudd mawr i mi wrth i Evelyn dyfu'n hŷn… Mae'n hyfryd gweld Evelyn yn blodeuo, yn enwedig wrth iddi symud i ysgol uwchradd cyn hir, mae e'n mynd i fod yn gymaint o fudd iddi."

'Mor bwysig mewn ardal wledig'

Dywed ei thad hefyd bod y ddarpariaeth yn hynod bwysig gan bod gwasanaethau yn brin i bobl fyddar mewn ardaloedd gwledig.

"Os rydych yn fyddar, mae'n bwysig eich bod yn cael eich trochi mewn diwylliant byddar," meddai.

Yn ôl Mr Smoothy, mae disgyblion eraill hefyd yn elwa o gael cynorthwyydd byddar yn y dosbarth - maent yn datblygu eu sgiliau arwyddo ac yn cyfathrebu'n well gydag Evelyn.

Mae Pennaeth Ysgol Clydau, Sion Jones yn ategu hynny.

Yn ôl y prifathro, mae cael Emma yn y dosbarth i helpu Evelyn "yn sicr" wedi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â phobl fyddar a dywed ei fod wedi ei synnu mai nhw yw'r ysgol gyntaf i gyflogi cynorthwyydd byddar i gefnogi disgybl byddar.

"Dy'n ni'n falch bod plentyn yn gallu aros o fewn y gymuned i fod gyda'i ffrindiau a'i chyfoedion a bod hyn yn gallu digwydd mewn ysgol fach fel hyn," meddai.

Pynciau cysylltiedig