Llythyru perchnogion tai gwag i'w gwerthu i gyngor sir
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi llythyru perchnogion dros 1,000 o dai gwag y sir mewn ymgais i gynyddu stoc dai yr awdurdod.
Mewn ymateb i bryderon bod llawer o bobl lleol wedi'u prisio allan o'r farchnad dai, mae'r cyngor yn dweud bod dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd yn rhan annatod o gynllun gweithredu a'i gymeradwywyd y llynedd.
Gwerth £77m, yr uchelgais yw darparu 1,500 o dai fforddiadwy ychwanegol o fewn y sir.
Dywedodd deilydd portffolio tai y cyngor bod yr ymgais i leihau nifer tai gweigion Gwynedd ond yn un o'r 33 cynllun sy'n ffurfio'r strategaeth.
'Ymateb 'di bod yn dda'
"Mae 'na nifer uchel iawn o dai gwag yng Ngwynedd a 'da ni'n trio targedu nhw ac os ydi'r perchenogion yn fodlon gwerthu nhw i ni ac i ni gartrefi pobl lleol," dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, yr aelod cabinet dros dai ac eiddo, ar raglen Post Prynhawn.
"Mae'r ymateb 'di bod yn dda, 'da ni heb brynu ddim un o'r tai ond da ni wedi cael dros 100 o bobl yn dod yn ôl yn gofyn am fwy o fanylion.
"Be' 'da ni wedi cael ydi llwythi o bobl, ar ôl cyflwyno'r cynlluniau eraill rydym yn ei wneud, yn fodlon cydweithio 'efo ni am fod hi'n amlwg fod ni'n trio cartrefu pobl lleol.
"Mae hynny'n rhywbeth really positif fod y sir i gyd eisiau datrys y broblem yma."
Esboniodd hefyd byddai'r cyngor yn talu pris y farchnad am unrhyw dŷ gwag, gyda'r bwriad o'u rhentu allan i bobl lleol.
"Da ni hefyd yn adeiladu tai newydd... mae'r broblem mor gymhleth a mor fawr ein bod angen trio gwneud bob dim.
"Mae 33 cynllun gwahanol, da ni angen ymosod ar le bynnag da ni'n gallu cael unrhyw fath o effaith."
'Dros 115 o ymatebion'
Gwynedd sydd gyda'r nifer uchaf o ail gartrefi yng Nghymru - 5,098 - sef 20% o gyfanswm Cymru gyfan.
Yn pryderu bod un ymhob 10 o stoc dai y sir bellach yn ail gartrefi mae'r cyngor lleol - ymysg eraill yng Nghymru wledig - wedi bod yn lobïo am reolau llymach.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Cysylltodd swyddogion o Adran Tai ac Eiddo'r Cyngor â thros 1,000 o berchnogion tai gwag, ag adnabuwyd trwy'r Gofrestr Dreth Gyngor, yn gofyn a fyddai ganddynt ddiddordeb yn gwerthu eu heiddo i'r Cyngor.
"Hyd yma mae dros 115 o ymatebion wedi cyrraedd yn gofyn am ragor o wybodaeth, ac mae swyddogion wrthi'n gweithio gyda'r perchnogion hyn ar hyn o bryd.
"Ers 2021, mae'r Cyngor wedi dod â thros 40 o dai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws y sir trwy gynlluniau eraill yn y Cynllun Gweithredu Tai, neu sydd ynghlwm ag o."
Mewn ymateb i bryderon lleol yn gynharach eleni fe gyhoeddwyd gynllun peilot yn ardal Dwyfor o'r sir.
Bydd yn cynnwys Llywodraeth Cymru yn gwneud £1m ar gael i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal, a bydd dau swyddog yn cael eu penodi i ymgynghori â phobl leol ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu'r farchnad dai leol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021