Ail gartrefi: Pwerau newydd i gynghorau?
- Cyhoeddwyd
Gallai cynghorau gael pwerau newydd i gyfyngu ar greu ail gartrefi a gosod llety gwyliau y flwyddyn nesaf.
Efallai y bydd angen caniatâd y cyngor lleol ar berchnogion tai i drosi eiddo o dan gynigion gan Lywodraeth Cymru.
Lansiodd gweinidogion ymgynghoriad ar newid deddfau cynllunio yn dilyn pryder ynghylch perchnogaeth ail gartrefi.
Bydd ffyrdd eraill o helpu pobl ar yr ysgol eiddo yn cael eu rhoi ar brawf mewn rhan o Wynedd, gan ddechrau ym mis Ionawr.
Mae Dwyfor, sy'n cynnwys Pen Llŷn a'r ardal i'r gorllewin o Borthmadog, wedi'i ddewis fel ardal brawf.
£1m o gyllid
Bydd cyllid o £1m ar gael i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal, a bydd dau swyddog yn cael eu penodi i ymgynghori â phobl leol ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu'r farchnad dai leol.
Canfu adroddiad i Lywodraeth Cymru y llynedd y gallai mwy na 10% o gartrefi yng Ngwynedd gael eu hystyried yn gartrefi gwyliau.
Bu pryder ers amser maith bod ail gartrefi yn prisio pobl allan o'r fro Gymraeg
Ond dywed swyddogion bod angen mwy o dystiolaeth arnyn nhw am y broblem a sut i ymateb.
Bydd yr ymgynghoriad ar newid rheolau cynllunio yn para tri mis. Fe allai newidiadau ddigwydd yr haf nesaf, meddai swyddogion.
Gallai olygu bod angen caniatâd cynllunio i drosi cartref i fod yn ail gartref neu'n llety gwyliau tymor byr mewn lleoedd lle mae cynghorau'n meddwl "eu bod yn achosi anawsterau sylweddol i gymunedau".
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Rydyn ni am i bobl ifanc fod â gobaith realistig o brynu neu rentu cartrefi fforddiadwy yn y lleoedd maen nhw wedi'u tyfu er mwyn iddyn nhw allu byw a gweithio yn eu cymunedau lleol.
"Gall niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei bro ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig."
Ychwanegodd: "Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn cydnabod bod pobl yn dymuno "gweld cynnydd ar frys," ond bod yn rhaid dilyn pob cam i sicrhau bod yna sail gadarn i unrhyw gamau gweithredu.
Mewn cytundeb a gyhoeddwyd ddydd Llun, addawodd Llafur a Phlaid Cymru "weithredu ar unwaith ac mewn ffordd radical i fynd i'r afael â chynnydd ail gartrefi".
Caeodd ymgynghoriad arall ar ddefnyddio'r system dreth i reoli'r farchnad mewn ail gartrefi yr wythnos diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ymatebion cyn i weinidogion benderfynu beth i'w wneud.
Gallai arwain at drethi cyngor uwch ar ail gartrefi, neu gyfyngiadau newydd ar gofrestru cartrefi fel busnesau.
'Moment arwyddocaol'
Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru eu bod am gychwyn ar y broses i wneud newidiadau i reoliadau cynllunio, ymhlith cynigion eraill, i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwyliau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: "Mae hon yn foment arwyddocaol.
"Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod ganddi rôl allweddol i'w chwarae i sicrhau y gall y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol barhau i fyw yn ein cymunedau arfordirol a gwledig fel mater o gyfiawnder cymdeithasol. mater o gyfiawnder cymdeithasol.
"Yn benodol, rydym yn rhoi croeso cynnes i'r cadarnhad fod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar y camau angenrheidiol i ddiwygio'r rheoliadau cynllunio ar yr egwyddor y bydd angen hawl cynllunio yn y dyfodol ar unrhyw un sy'n ceisio newid defnydd annedd o gartref cynradd i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr."
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, fe wrthododd Mr Siencyn awgrym bod perygl i'r cynllun niweidio economi ardaloedd yng Nghymru sy'n dibynnu ar dwristiaeth.
"Nid problem twristiaeth ydi hwn ond problem cyfiawnder cymdeithasol," meddai. "Hynny ydi, ydi o'n deg bod pobol yn ca'l berchen ar ail dŷ tra dydy ein pobol ni ddim yn gallu ca'l un tŷ?"
Ychwanegodd bod y cyngor yn edrych ar sefyllfa'r sector twristiaeth ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a bydd digwyddiad cyn diwedd y mis i drafod twristiaeth gynaliadwy.
Dywedodd Mabli Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae pwysau ymgyrchu wedi cael effaith sylweddol.
"Bydd rheoleiddio llety gwyliau, caniatáu i awdurdodau lleol ei gwneud yn orfodol i gyflwyno cais cynllunio i newid defnydd tŷ i fod yn ail dŷ neu lety gwyliau ac arian i gymryd tai gwag mewn i ddwylo cyhoeddus yn cael effaith cadarnhaol ar y stoc tai ar lawr gwlad."
'Reit amheus ynglŷn â hyn'
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru'n "niweidiol", yn "eithriadol a rhagfarnllyd" ac yn "agor y llifddorau i nifer fawr o geisiadau am iawndal," yn ôl dyn sy'n rhannu ei amser rhwng ei brif dŷ yn Lloegr a thŷ yng Ngwynedd.
"Da ni'n teimlo'n reit amheus ynglŷn â hyn, i ddweud y gwir," meddai Jonathan Martin, sy'n rhan o grŵp o oddeutu 4,000 o berchnogion ail dai yng Nghymru.
"Y broblem 'da ni'n meddwl ydi diffyg tai fforddiadwy ac nid ail dai. 'Da ni'n deall y broblem sydd gan bobl ond nid perchnogion ail dai sydd ar fai.
"Yn bersonol... dwi'n meddwl fod y cyhoeddiad yma heddiw yn niweidiol a dwi'n meddwl ei fod yn eithriadol o rhagfarnllyd yn erbyn ni ac mae'n agor y llifddorau i nifer fawr o geisiadau am iawndal dros y blynyddoedd nesaf.
"Mae treth y cyngor eisoes wedi ei ddyblu ar fy nghartref i yng Ngwynedd ac o'r hyn dwi'n dallt maen nhw eisiau cynyddu hwnna i 300%.
"Maen nhw eisiau lleihau ail dai rŵan nid delio gyda'r broblem sydd i ddod. Mae'n annheg - dydyn nhw ddim wedi edrych ar ein hincwm i weld be gallwn ni fforddio... 'da chi methu dweud fod hyn yn deg."
Ychwanegodd: "Mae'n ymylu ar fod yn hiliol... mae 85% o berchnogion ail gartrefi'n dod o Loegr. Ni allwch chi anwybyddu hynny.
"Mae nifer o'r grŵp dwi'n eu cynrychioli'n dweud ei fod o'n hiliol - dwi ddim yn dweud hynny ond mae rhai.
"'Da ni'n caru Cymru - y bobl, yr iaith... ond 'da ni ddim eisiau bod rywle lle dydi'r bobl ddim eisiau ni, felly os taw'r nod yw cael llai o ail dai a chael gwared ohonom ni mae Cymru'n mynd i lawr y trywydd cywir i hynny ddigwydd."
Sylwadau o ardal Pwllheli
"Dydi pobl ifanc ddim yn gallu fforddio tai - maen nhw gyd yn mynd, Saeson yn cymryd nhw, pobl sydd efo llwythi o bres," meddai Tomos Coles.
"Dwi rili ddim yn meddwl neith hyn llawer o wahaniaeth. 'Da ni 'di cal problemau fel hyn o blaen a nathon nhw ddim neud dim adeg yna."
"Dydi pobl ddim yn dweud lot yn y siop amdano," meddai Carolyn Green.
"Dwi'n meddwl fod y bobl sydd wedi gwneud tai fyny neu efo tai haf, maen nhw jest yn cadw pennau lawr ac yn cadw'n ddistaw a dy nhw ddim isho creu conversation,"
"Da ni'n gweld y tensiwn eitha', ond busnes ydi busnes ac mae'n agored i bawb - mae'n creu busnes i adeiladwyr ac ati felly mae'n Catch 22."
"I bobl ifanc sydd isho priodi neu i fyw yma, does gynnon nhw nunlle i fynd. Mae'n ddrwg ofnadwy arnyn nhw," meddai Dennis Edwards.
"Allwch chi ddim mynd i rwla fel Abersoch. Does 'na'm modd iddyn nhw fyw yna - does na'm sens!
"Ma isho trethi arnyn nhw, ma' nhw'n dod dyma ac yn rhedeg y lle - mae rhaid gwneud rhywbeth.
"Ma isho neud wbath i'r bobl ifanc."
'Angen dilyn pob cam'
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles fod yr ymgynghoriad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn dystiolaeth o weithredu "radical" gan y Llywodraeth ar ail gartrefi.
Dywedodd y gweinidog wrth raglen Dros Frecwast fore Mercher y byddai'r Llywodraeth yn dadansoddi'r ddau ymgynghoriad - un ar drethi ac un ar reolau cynllunio - gyda'r nod o gyflwyno rhai newidiadau yn yr haf.
Pwrpas yr ymgynghoriad yw i ganiatáu gweithredu, meddai'r Mr Miles.
"Dwi'n deall fod pobl eisiau gweld cynnydd ar frys," meddai, ond roedd yn benderfynol bod yn rhaid dilyn pob cam i sicrhau bod yna sail gyfreithiol gadarn i unrhyw gamau gweithredu.
"Beth sydd yn gwbl amlwg yn y drafodaeth hon," meddai, "yw nad oes un cam yn mynd i allu ateb pob sialens".
Bwriad y Llywodraeth yw i greu "ystod, neu tool-kit" o bethau gallai gael eu gwneud ar lefel genedlaethol a lleol, yn ôl y gweinidog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021