Geifr Llandudno - pla neu ran eiconig o'r dref?
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o drigolion Llandudno yn galw ar y cyngor i reoli'r geifr sydd yn crwydro ac yn dinistrio gerddi yn y dref.
Mae geifr wedi byw ar Ben Y Gogarth am dros 100 mlynedd, ond ers y pandemig maen nhw wedi cynyddu o ran niferoedd.
Mae rhai trigolion yn poeni y bydd rhai'n cael eu symud o'r dref er mwyn rheoli'r niferoedd, ond eraill yn poeni am y difrod maen nhw'n ei achosi.
Yn ôl y cyngor lleol does dim cynlluniau i ymyrryd â'r geifr ar hyn o bryd.
'Dim pwynt' gosod rhosod
Mae trigolion Llandudno yn galw am weithredu i atal geifr Pen Y Gogarth rhag achosi difrod pellach i'r ardal.
Un pryder o fewn y gymuned yw'r peryg maen nhw'n achosi wrth grwydro ar hyd ffyrdd prysur, a oedd unwaith yn dawel yn ystod y pandemig.
Mae Phyl Oliver yn byw yn ardal Liddell Park, lle mae'r gerddi blaen yn agored oherwydd cyfyngiadau sy'n atal trigolion rhag gosod ffens barhaol.
Er yr ymdrechion i greu rhwystr dros dro gan ddefnyddio rhwydi o gwmpas yr ardd, mae'r geifr yn parhau i'w difrodi.
"Mi wnes i golli ysgyfaint i ganser yn ddiweddar, ac yn ystod fy nhriniaeth dyma le wnes i fyw - mi wnes i barhau i balu, plannu a chynhyrchu," meddai.
"Pan dderbyniais y newyddion bod y canser wedi mynd, dywedais wrth fy ngŵr fy mod i eisiau gosod rhosod o amgylch y drws ffrynt.
"Ond does dim pwynt trio rŵan. Mae'r geifr yn dinistrio nhw."
"Mae o fel cael pla o locustiaid neu bla o lyffantod. Beth ydan ni wedi ei wneud i haeddu hyn?" meddai.
"Dydw i ddim eisiau dod allan 'ma yn y bore, oherwydd dydw i ddim yn gwybod be dwi'n mynd i wynebu.
"Rydan ni'n caru'r geifr, maen nhw'n anifeiliaid prydferth, ond rydan ni eisiau nhw ar Ben Y Gogarth, plîs - nid yng ngerddi pobl."
Dywedodd Janet Finch Saunders, AS Ceidwadol Aberconwy ei bod wedi clywed sawl pryder gwahanol.
"Mae'r geifr yn eiconig i Landudno, yn enwedig ers y pandemig pan gychwynnon nhw grwydro'r dref ymhellach.
"Mae unigolion yn pryderu ynghylch diogelwch, a gerddi yn cael eu dinistrio, ond hefyd byddai'r nodwedd unigryw yma o'r gymuned yn diflannu os byddai'r geifr yn cael eu symud."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy bod "sawl mudiad â diddordeb yn y geifr am resymau perchnogaeth, cadwraeth neu les anifeiliaid".
Dywedodd bod y mudiadau hyn yn ceisio "rheoli poblogaeth y geifr ac weithiau yn ailgartrefu'r geifr i fannau gwahanol".
"Gall Pen Y Gogarth ond gefnogi nifer cyfyngedig o anifeiliaid wrth hefyd gynnal bywyd gwyllt sy'n gwneud y calchfaen yma mor arbennig."
Mae'r cyngor yn pwysleisio nad eu cyfrifoldeb nhw ydy'r geifr, er eu bod wedi cydweithio â sawl mudiad, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd cangen Aberconwy o'r RSPCA i geisio rheoli poblogaeth y geifr.
Un sy'n awyddus i sicrhau bod y geifr yn aros ydy Ruby Williams, sy'n byw yn Llandudno.
"Mae'r ffordd dwi'n gyrru wedi newid ers i'r geifr ddod yn nodwedd arferol o'r dref," meddai.
"Maen nhw'n gwneud i mi wenu wrth iddyn nhw roi edrychiadau difrifol wrth groesi'r ffordd.
"Dyma eu cartref ac mae'r ymwelwyr yn caru nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018