Cynnal seremoni gyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cerrig yr Orsedd yn cael eu symud o'r Parc ym Mhorthmadog draw i Ysgol Eifionydd oherwydd y tywydd.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweithgareddau yn y parc ym Mhorthmadog ond bu'n rhaid symud Cerrig yr Orsedd draw i Ysgol Eifionydd oherwydd y tywydd

Cafodd seremoni llawn gweithgareddau ei chynnal ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn i ddathlu a rhoi croeso i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli rhwng 5 a 12 Awst 2023, ddwy flynedd yn hwyrach na'r dyddiad gwreiddiol oherwydd y pandemig.

Bu'n rhaid symud seremoni draddodiadol yr Orsedd - a oedd i ddigwydd yn yr awyr agored - i Ysgol Eifionydd oherwydd y tywydd.

Cafodd copi cyntaf o'r Rhestr Testunau ei gyflwyno gan Michael Strain, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, i'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Er mwyn rhoi rhagflas o'r ŵyl i drigolion lleol a chenedlaethol, roedd gweithgareddau ychwanegol ar gyfer plant a dysgwyr.

Wrth edrych ymlaen at y seremoni dywedodd Mr Strain fod y "Cyhoeddi yn un o draddodiadau Cymru".

Dywedodd fod y seremoni yn "gyfle i bobl ddod ynghyd i ddathlu bod yr Eisteddfod ar ei ffordd i'r ardal".

"Ychydig iawn sydd wedi newid yn y digwyddiad yma dros y blynyddoedd, a dyma sy'n ei wneud yn unigryw ac yn hynod draddodiadol," meddai.

"Ein gwaith ni dros y flwyddyn nesaf yw denu pobl Llŷn, Eifionydd a thu hwnt i ddod i'r Eisteddfod ym Moduan.

"Mae'r ŵyl wedi newid cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn, mae'n cael ei hystyried fel un o'r gwyliau mawr, gyda'r cystadlu yn galon iddi, a gweithgareddau eraill o bob math yn digwydd o'i chwmpas.

"Rydyn ni wedi bod wrthi'n gweithio'n galed yn lleol ers misoedd lawer yn codi ymwybyddiaeth ac arian, a braf yw gweld bod cymaint o gefnogaeth yma i'r Eisteddfod yn barod."

Disgrifiad o’r llun,

Un o lywyddion anrhydeddus yr ŵyl, Ken Hughes, ac is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Guto Dafydd

Ychwanegodd y Prifardd Guto Dafydd, is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith y bydd yn "ddiwrnod llawn o weithgareddau".

"Gweithgareddau i blant a phobl ifanc yn y bore, wedyn ffilm gan yr ysgolion, ac wedyn yr orymdaith enfawr 'ma drwy stryd fawr Porthmadog a seremoni yn y parc reit ynghanol y dref mewn lleoliad godidog.

"Mi fydd o'n gyfle i ni ddathlu bod y Steddfod yn dŵad i Lŷn ac Eifionydd o'r diwedd ac yn gyfle i ni genhadu am y Steddfod ymhlith pawb yn Port."

'Croesawu'r Eisteddfod yn beth unwaith-mewn-bywyd'

Iestyn Tyne fydd bardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan - sef ardal ei fagwraeth.

Ei rôl fydd ysgrifennu cerddi ac ymateb i wahanol agweddau o'r prosiect cymunedol ar gyfer yr ŵyl.

Ffynhonnell y llun, Tudur Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Tyne fydd y bardd preswyl cyntaf erioed ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol

Wrth ymateb i'w benodiad fel bardd preswyl, dywedodd: "Mae o'n teimlo fel rhyw gydnabyddiaeth braf iawn, a deud y gwir. Does yna ddim llawer o bobl yn byw ym Moduan; caeau ydy o'n bennaf!

"Felly mae cael croesawu'r Eisteddfod yn beth unwaith-mewn-bywyd go iawn, ac mae cael bod yn fardd preswyl dros y cyfnod yna'n anrhydedd.

"Mae o hefyd jest yn gyfle i ddefnyddio barddoniaeth mewn cyd-destun gwahanol i'r hyn sy'n arferol i mi."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd seremoni gyhoeddi Eisteddfod Ceredigion yn Aberteifi 'nôl yn 2019 - cyn i'r pandemig daro

Dyma'r tro cyntaf i fardd preswyl gael ei benodi ar gyfer yr ŵyl.

"Does 'na neb wedi mynd o 'mlaen i felly does yna ddim disgwyliadau mewn ffordd, a dyna un peth oedd yn apelio am y swydd - roedd yna lawer o sôn am siapio'r rôl i'r hyn ro'n i'n meddwl y dylai hi fod," medai Iestyn Tyne.

"Wrth gwrs, mi ges i fy mhenodi 'nôl ym mis Tachwedd 2019 ac mae'n fyd gwahanol iawn erbyn troi 'nôl at y gwaith eleni. Dwi'n meddwl y bydd hi'n swydd ychydig yn wahanol o ganlyniad i hynny.

"Ond mae'r prif nod yn dal i fod yr un fath, sef ceisio defnyddio barddoniaeth i dynnu pobl fewn a chymryd perchnogaeth o'r Eisteddfod yn ein hardal eu hunain; mynd â barddoniaeth i'r gymuned."

Y bwriad yn wreiddiol oedd cynnal Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2021, ond oherwydd y pandemig cafodd ei gwthio 'nôl i 2023.