Newid enw tŷ gwyliau ym Môn yn 'creu rhwyg diangen'
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i roi enw Saesneg ar dŷ gwyliau mewn datblygiad ar Ynys Môn yn amlygu diffyg parch ac yn "creu rhwyg diangen", yn ôl arweinydd y cyngor sir.
Roedd Llinos Medi yn ymateb wedi i gwmni Anglesey Homes farchnata rhif 9 Gwel-yr-Wyddfa, ym mhentref Llanfaelog, fel 9 Sandy Retreat.
Mae Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth hefyd wedi beirniadu'r cwmni gan ofyn wrthyn nhw mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol: "Ydy dileu iaith / diwylliant Cymru'n rhan o'ch cynllun busnes?"
Mae'r datblygiad wedi ysgogi ymgyrchwyr i alw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn gwarchod enwau Cymraeg cynhenid.
Mae Anglesey Homes yn pwysleisio bod dim newid i enw'r datblygiad ei hun ac mai perchennog rhif 9 sydd wedi penderfynu rhoi enw Saesneg ar y tŷ.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd y mater "o ddifrif".
Fe gododd y ddadl wedi i Anglesey Homes gyhoeddi mewn neges ar Twitter: "Rydym ni wedi ailenwi ein heiddo yn Gwel-yr-Wyddfa!
"Mae nawr yn cael ei adnabod fel 9 Sandy Retreat... ym mhentref hyfryd Llanfaelog."
Ond ar wefan y cwmni, mae'r eiddo'n dal yn cael ei restru dan 9 Gwel-yr-Wyddfa.
Mae'r penderfyniad i ail-enwi yn "siomedig" ac yn amlygu "amarch pur tuag aton ni ac ein hiaith ni", yn ôl arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.
"Os ma' nhw isio denu pobol yma ar eu gwylia', maen nhw'n denu nhw yma i'r Gymraeg hefyd, i deimlo'n rhan o gymdeithas Gymraeg. Felly mae just yn dangos amarch a diffyg dealltwriaeth o bwysigrwydd ein hunaniaeth ni."
Mynegodd rwystredigaeth hefyd bod pobl yn "gweld bai" ar y cyngor ei hun am benderfyniadau o'r fath pan mae "ein dwylo wedi clymu".
Dywedodd bod hi'n bolisi gan y cyngor i anfon llythyr at ddatblygwyr sy'n newid enwau Cymraeg i rai Saesneg yn y gobaith o'u perswadio i beidio, ond does dim hawl "gorfodi mewn unrhyw ffordd".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd y Cynghorydd Medi bod y sefyllfa'n tanlinellu'r angen "ers rhai blynyddoedd" am ddeddfu er mwyn diogelu enwau llefydd Cymraeg.
"Dyna 'di'r drwg - mae ginnon nhw'r hawl achos dydi'r llywodraeth ddim yn mynd i sefyll i fyny dros y Gymraeg a'n hawlia' ni i gadw'n etifeddiaeth ni," meddai.
"Ma' rhaid i gwmnïa' sylweddoli bod y Gymraeg yn hanfodol mewn ardaloedd fel hyn er mwyn iddyn nhw fedru byw law yn llaw 'efo'r gymdeithas lleol ac oll ma' hyn yn 'neud ydi creu rhwyg diangen."
Mewn datganiad sy'n "ymateb i'r camddealltwriaeth ar hyn o bryd", dywedodd Anglesey Homes bod y naw eiddo sy'n rhan o ddatblygiad Gwel-yr-Wyddfa wedi eu gwerthu, gan gynnwys y tŷ dan sylw.
"Mae perchnogion yr eiddo wedi penderfynu, yn annibynnol, i osod plac Sandy Retreat i'w tŷ, yn ychwanegol i'w cyfeiriad swyddogol," medd y datganiad.
Dywedodd bod y perchnogion wedi dewis yr enw am fod y lleoliad, golygfeydd, "cymuned ac amgylchedd rhyfeddol" yn gwneud i'r tŷ "deimlo fel encilfa iddyn nhw".
Ychwanegodd: "Fel perchennog mae gyda nhw hawl, fel unrhyw un arall, i roi plac ar eu heiddo - ond dydy hynny'n effeithio dim ar gyfeiriad y datblygiad a'r ffordd a gafodd eu henwi gyda balchder, a bydd yn parhau â'r enw Gwel-yr-Wyddfa."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd y mater yma'n ddifrifol iawn.
"Rydym wedi ymroddi i weithredu i sicrhau bod enwau llefydd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu gwarchod a'u hybu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020