Gareth Bale: Capten Cymru yn symud i Los Angeles FC
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Bale wedi cadarnhau ei fod wedi symud i Los Angeles FC gan roi diwedd ar wythnosau o ddyfalu am ei ddyfodol.
Roedd capten a phrif sgoriwr Cymru, 32, yn rhydd i arwyddo i glwb newydd ar ôl gadael Real Madrid wedi naw mlynedd yn Sbaen.
Bu sibrydion yr wythnos ddiwethaf ei fod yn agos i arwyddo i Gaerdydd, a bu sïon hefyd y gallai ddychwelyd i'w gyn-glwb Tottenham Hotspur.
Ond mae Los Angeles FC a Bale bellach wedi cadarnhau ei fod wedi arwyddo cytundeb 12 mis i chwarae yn yr MLS (Major League Soccer).
Yn gynharach yn y mis, arweiniodd ei wlad i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 ar ôl i Gymru drechu Wcráin 1-0.
Bydd Cymru yn wynebu'r Unol Daleithiau yn Qatar - yn ogystal ag Iran a Lloegr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf fod asiant Bale wedi cynnal trafodaethau gyda Chaerdydd.
Mae'r Adar Gleision yn rhannu cyfleusterau ymarfer gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a fyddai wedi caniatáu i Bale barhau i weithio'n agos gyda staff meddygol a ffitrwydd Cymru tra ar ddyletswydd clwb.
Ond yn lle hynny mae'n debyg o symud i'r Unol Daleithiau, lle mae'r tymor yn rhedeg o fis Chwefror i fis Hydref.
Mae LAFC, sy'n cael ei reoli gan gyn-chwaraewr rhyngwladol UDA Steve Cherundolo, ar hyn o bryd ar frig adran orllewinol yr MLS ac mae ganddyn nhw 19 o gemau tymor arferol i'w chwarae.
Mae gemau ail gyfle diwedd y tymor yn dilyn, gyda rownd derfynol Cwpan MLS yn gorffen y tymor ar 5 Tachwedd.
Byddai hynny 16 diwrnod cyn i ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd ddechrau gyda gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau.
Y siwrne hyd yn hyn
Dechreuodd Bale chwarae i glwb Cardiff Civil Service cyn arwyddo i Southampton yn naw oed.
Ychydig dros flwyddyn ar ôl gwneud ei ymddangosiad gyntaf i'r clwb yn Ebrill 2006 fe symudodd i Tottenham Hotspur am £7m.
Cafodd ei enwi yn Chwaraewr y Flwyddyn y PFA yn 2011 ac yn 2013.
Wedi iddo sgorio 32 gôl yn ei dymor olaf gyda Spurs, symudodd i Real Madrid am ffi o £85.3m ym Medi 2013 - record byd ar y pryd.
Yn ystod ei yrfa ym mhrifddinas Sbaen fe helpodd y clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr bum gwaith - yn 2014, 2016, 2017, 2018 a 2022.
Ond doedd ei gyfnod yno ddim yn fêl i gyd.
Fe dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda Tottenham Hotspur yn ystod 2020/21 a bu'n agos i symud i China cyn hynny wrth i'w gyfleoedd yn y tîm cyntaf bylu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021