Teyrngedau i barafeddyg a 'thaid balch' o Ben Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i barafeddyg o Wynedd a fu farw yn dilyn damwain dros nos.
Yn wreiddiol o Gaernarfon roedd Robin Parry Jones yn gweithio yng ngorsaf ambiwlans Pwllheli.
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi'u galw yn dilyn adroddiadau bod corff wedi'i ganfod yn Llanystumdwy, ger Cricieth, am 21:45 nos Iau.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod Mr Jones wedi marw yn dilyn "damwain", ond nid ydyn nhw wedi manylu ar yr amgylchiadau.
Roedd Mr Jones wedi cychwyn ei yrfa gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn 2000, cyn cymhwyso fel parafeddyg yn 2005.
Aeth ymlaen i fod yn bencampwr ac arweinydd tîm o Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned.
'Taid balch'
Disgrifiwyd Mr Jones gan gyd-weithwyr fel "person uchel ei barch, cariadus a hapus oedd yn adnabyddus iawn yng nghymuned Pwllheli".
Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Roedd gan Robin angerdd gwirioneddol dros wydnwch cymunedol, ac mae ei ymrwymiad i gefnogi gwirfoddolwyr yn ei amser sbâr yn adlewyrchiad o'i gymeriad.
"Yn ei amser hamdden roedd Robin yn bysgotwr brwd ac yn aelod o'r gymuned saethu leol gyda'i gydweithwyr o Bwllheli.
"Yn daid balch, roedd Robin hefyd yn caru cŵn ac roedd wedi dechrau gwasanaeth trin cŵn lleol.
"Bydd colled sydyn a thrist Robin yn cael ei deimlo gan bawb oedd yn ei adnabod, a hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Robin ar yr adeg anodd hon."
Marwolaeth 'ddim yn un amheus'
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Cawsom ein galw toc cyn 21:45 o'r gloch ddydd Iau, 23 Mehefin, i adroddiadau bod corff dyn wedi'i ddarganfod yn Llanystumdwy, Criccieth.
"Roedd swyddogion yn bresennol yn y lleoliad, ynghyd â chydweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
"Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae swyddfa'r crwner lleol wedi'i hysbysu."