Dod o hyd i fachgen, 10, oedd ar goll dros nos

  • Cyhoeddwyd
Mae Roman Webb yn weddol fychan ac mae ganddo wallt golauFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i fachgen 10 oed a oedd ar goll dros nos.

Cafodd Roman Webb, o Gasnewydd, ei weld ddiwethaf yn ei gartref ddydd Sadwrn am tua 16:45.

Ond cadarnhaodd Heddlu Gwent ei fod wedi'i ganfod yn saff fore Sul yn dilyn apêl.

Pynciau cysylltiedig