Cladin: Lansio cynllun cyngor ariannol am ddim yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl sy'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i gladin ar eu cartrefi yng Nghymru yn derbyn cymorth am ddim.
Mae'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliad yn caniatáu i unigolion gael cymorth ar-lein ynghylch y ffordd orau o weithredu.
Fe fydd y rhai sy'n gymwys yn cael cyngor am ddim gan Lywodraeth Cymru, ac yn y pen draw, mae'n bosib y bydd rhai yn cael cynnig pryniant gan y llywodraeth.
Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn Llundain yn 2017, cafodd diffygion diogelwch tân eu darganfod mewn nifer o flociau o fflatiau yng Nghymru.
Ond nid yw'r gwaith adfer wedi dechrau oherwydd dadlau dros bwy ddylai dalu.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o ddiffyg gweithredu dros y cladin, gyda deiliad prydles yn pwysleisio nad oedd dadleuon gwleidyddol â Llywodraeth y DU o gymorth i'r rhai sy'n wynebu problemau cladin.
Ond dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd ei bod yn gobeithio y bydd eu cynlluniau yn galluogi i bobl "symud 'mlaen gyda'u bywydau".
Ychwanegodd Julie James ei bod yn siarad â datblygwyr y blociau o fflatiau sydd wedi methu'r profion er mwyn cywiro'r problemau yn y tymor hir.
I fod yn gymwys am gymorth, mae'n rhaid i'r person fod yn berchennog neu ddeiliaid yr eiddo sydd mewn adeilad sydd o leiaf 11 metr o uchder.
Bydd cymorth hefyd i bobl sy'n cael ei ddosbarthu fel "preswylydd wedi'i ddadleoli" - sy'n golygu rhywun oedd wedi cael ei orfodi i adael yr eiddo am resymau personol neu ddod yn "landlord damweiniol" dros amser.
Gall pobl ddod yn landlordiaid damweiniol os, er enghraifft, mae'n rhaid iddynt rentu eu cartref oherwydd na allant ddod o hyd i brynwr, neu os oes yn rhaid iddynt symud i ardal arall oherwydd bod ganddyn nhw swydd newydd.
'Ddim yn trwsio'r broblem'
Ond yn ôl un ymgyrchydd o Gymru, dyw'r cynnig o gyngor i bobl "yn gwneud dim o gwbl i drwsio'r broblem wreiddiol".
Dywedodd Mark Thomas, sy'n rhan o Grŵp Gweithredu Celestia, y byddai'r cynllun ond yn helpu nifer fach o bobl, a bod "y broblem yn parhau bod yr adeilad yn anniogel".
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, Janet Finch-Saunders AS, nad oedd y llywodraeth yn gwneud digon i helpu.
"Ers blynyddoedd mae pobl yng Nghymru wedi byw mewn ofn oherwydd y cladin peryglus, gydag ychydig iawn o gymorth yn dod gan y llywodraeth Lafur.
"Dydy pobl sy'n byw yn y fflatiau yma ddim angen cyngor, maen nhw angen arian."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019