Angen 'edrych yn fanwl' ar adroddiad Grenfell
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi datgan bod rhaid "edrych yn fanwl" ar ran gyntaf adroddiad Tŵr Grenfell am unrhyw wersi y gall Cymru ddysgu.
Mae ymchwiliad yn edrych i ddigwyddiadau tân yn Nhŵr Grenfell ble lladdwyd 72 o bobl yn Llundain yn 2017.
Tra'n siarad ag ASau dywedodd Ms James y bydd cynlluniau am sut i wella diogelwch o fewn tyrau yn cael eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf a bod grŵp arbenigol yn y broses o drafod argymhellion.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Ms James mai'r math o gladin ar y tyrau a'u dyluniad oedd y prif bryderon sydd angen eu datrys.
Ar ôl tân Grenfell cafodd grŵp arbenigol ei greu er mwyn edrych ar sut ddylai Llywodraeth Cymru ymateb i'r trychineb.
Ond ni fydd cynlluniau'r llywodraeth yn cael eu cyhoeddi tan y flwyddyn nesaf.
Deddfau newydd?
Dywedodd Ms James bod llawer o argymhellion yn rai hirdymor felly mae angen deddfau newydd i'w newid.
Er hyn, dywedodd bod nifer o bethau all gael eu gwneud i wella diogelwch tyrau yng Nghymru yn y cyfamser, gan gynnwys newid cladin adeiladau a sicrhau bod chwistrellwyr dŵr wedi'u darparu i bob bloc.
Ers y trychineb, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y math o gladin sy'n cael ei ddefnyddio ar adeiladau cyhoeddus Cymru.
Ond mae pobl sy'n byw mewn adeiladau preifat yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi lleisio eu pryderon na fydd y tyrau maen nhw'n byw ynddyn nhw yr un mor ddiogel ag adeiladau cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Ms James ei bod hi'n deall "rhwystredigaeth" pobl sy'n byw yn adeiladau ble maen nhw wedi cael gwybod y gall eu tai fod yn anniogel.
Ychwanegodd: "Dylai perchnogion tai a datblygwyr wynebu eu cyfrifoldeb moesol a chael gwared â'r peryglon yma."
Newid cladin
Mae yna 111 o dyrau uchel yng Nghymru.
Mae'r llywodraeth yn ymwybodol o dri datblygiad tŵr gyda pheryglon tân anniogel ym Mae Caerdydd, ac mewn dau leoliad gwahanol yn Abertawe.
Yn ogystal, mae cladin anniogel wedi cael ei ddarganfod o fewn 15 adeilad yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Mae pob person sy'n byw yn yr 15 tŵr wedi cael gwybod am y cladin anniogel ac mae gwaith i newid y cladin naill ai wedi cael ei wneud neu wedi cael ei gynllunio.
Ymchwiliad Grenfell: Amserlen
Cafodd rhan gyntaf yr ymholiad ei gyhoeddi fore Mercher;
Mae'r rhan gyntaf yn archwilio mewn i'r digwyddiadau ar y noswaith digwyddodd y tân yng Ngorllewin Llundain ym Mehefin 2017;
Disgwylir i ail ran yr ymholiad gychwyn ym mis Ionawr;
Bwriad ail ran yr ymholiad yw ymchwilio i achosion y tân, yn cynnwys y fath o arwysg cafodd ei ddefnyddio o fewn yr adeilad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Awst 2017