Cladin: Beirniadu 'ffraeo gwleidyddol' yn lle gweithredu
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi annog Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ei hymateb ei hun i'r argyfwng cladin, yn hytrach nag ar ffraeo gwleidyddol gyda San Steffan.
Ddydd Iau fe wnaeth y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai gyhuddo Llywodraeth y DU o ymddwyn yn "unochrog" drwy fynd i'r afael â materion diogelwch adeiladau yn Lloegr.
Dywedodd Julie James AS fod hynny'n ei gwneud hi'n "anos" i sicrhau bod datblygwyr yng Nghymru'n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.
Ond dywedodd llesddeiliaid nad oedd y dadleuon gwleidyddol yn helpu'r rhai sy'n byw gyda'r problemau "drwy'r dydd bob dydd".
Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn 2017, canfuwyd bod gan nifer o flociau o fflatiau yng Nghymru ddiffygion diogelwch tân ac mae gwaith adfer i'w wneud eto ar lawer ohonynt wrth i drafodaethau barhau ynghylch pwy ddylai dalu.
Yn Lloegr mae tua 40 o gwmnïau adeiladu wedi arwyddo addewid i Lywodraeth y DU y byddan nhw'n ariannu unrhyw waith diogelwch tân sydd ei angen ar adeiladau y maen nhw wedi eu datblygu.
Yn ogystal, bydd yr Ardoll Diogelwch Adeiladau yn gweld y diwydiant yn codi £3bn dros y 10 mlynedd nesaf i fynd i'r afael â diffygion.
'Methu'r pwynt sylfaenol'
Mewn Datganiad Ysgrifenedig i Aelodau'r Senedd ddydd Iau, dywedodd Ms James ei bod yn "siomedig" bod addewid y datblygwyr, a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Godi'r Gwastad, Tai a Chymunedau Michael Gove, ond yn berthnasol i Loegr.
"Mae dull unochrog Llywodraeth y DU tuag at faterion diogelwch adeiladau yn ei gwneud yn anos sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd ei gyfrifoldebau i gyfrannu tuag at gostau datrys problemau diogelwch adeiladau yng Nghymru o ddifri," ychwanegodd.
Galwodd Ms James ar Lywodraeth y DU i ymestyn addewid y datblygwyr a'r Ardoll Diogelwch Adeiladau y tu hwnt i Loegr.
Ond fe wnaeth ymgyrchwyr sy'n rhwystredig gyda'r hyn maen nhw'n ei ystyried yn ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru gyhuddo Ms James o "fethu'r pwynt sylfaenol".
Mark Thomas yw Cadeirydd Cwmni Rheoli Celestia, sy'n gyfrifol am redeg datblygiad Celestia ym Mae Caerdydd.
Mae'r safle, sy'n cynnwys 450 o fflatiau, wedi'i nodi fel un sydd â diffygion diogelwch tân, gan gynnwys gyda'r cladin.
"Mae yna lawer o drafod am wrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lloegr... a gweithredoedd unochrog Mr Gove, ond nid yw hynny mewn gwirionedd yn ein helpu i fyw gyda'r broblem," meddai.
Cyhuddodd Mr Thomas weinidogion Cymru o fethu ag ymdrin â'r sefyllfa fel "mater o frys".
Cyhuddodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, Janet Finch-Saunders Ms James o "ymwrthod â'i chyfrifoldebau".
"Ni all datganoli olygu cymryd cyfrifoldeb pan fo gweinidogion yn ei ffansïo - mae'n ddyletswydd arnynt a dyna'r swydd y maent yn cael cyflog da i'w gwneud," ychwanegodd.
Dywed Llywodraeth Cymru fod gwaith eisoes wedi'i wneud, neu wedi'i gynllunio, i gael gwared ar gladin cyfansawdd alwminiwm nad yw'n cydymffurfio o'r holl adeiladau yr effeithir arnynt yng Nghymru.
Mae hi hefyd wedi sefydlu Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru gwerth £375m a Chynllun Cymorth Lesddeiliaid i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf o ganlyniad i gostau'n gysylltiedig â diffygion adeiladu.
'Cymorth ariannol sylweddol'
Dywedodd Redrow, y datblygwyr y tu ôl i Celestia, ac un o lofnodwyr addewid y datblygwyr yn Lloegr: "Rydym wedi dweud yn gyson ein bod yn credu y dylai'r diwydiant adeiladu tai, ochr yn ochr â phrif gontractwyr a chyflenwyr deunyddiau, chwarae ei ran i ddatrys y mater diogelwch tân etifeddol mewn adeiladau uchel ac na ddylai'r baich ariannol gael ei ysgwyddo gan lesddeiliaid.
"Hyd yma rydym wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol i'r Cwmni Rheoli Celestia.
"Tra ein bod yn aros am fanylion unrhyw gynllun arfaethedig gan Lywodraeth Cymru fe fyddwn wrth gwrs yn ceisio trin ein cwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr yn deg."
Dywedodd Laing O'Rourke - a gafodd y cytundeb i godi adeiladau Celestia - ei fod wedi "ymgysylltu'n rhagweithiol" gyda Redrow a'r cwmni rheoli.
Cydweithio i siapio polisi
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym wedi bod yn cydweithio gyda'r llywodraethau datganoledig i helpu siapio polisi diogelwch adeiladu ac rydym mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ynghylch materion sy'n codi.
"Bydd ein cytundeb ar draws y diwydiant yn Lloegr yn sicrhau y bydd datblygwyr yn talu i drwsio'r problemau wnaethon nhw eu creu,gan gynnwys diffygion cladin a diffygion eraill.
"Tra bod diogelwch adeiladu'n fater datganoledig, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r un amddiffyniadau cyfreithiol â'r rhai dan y Ddeddf Diogelwch Adeiladu ac yn ymroddi i'w cefnogi yn y dasg honno."
BBC Politics Wales, BBC One Wales, 10:00 ddydd Sul ac yna ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021