'Teimladau cymysg' teulu am gosbau yfed a gyrru llymach

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Miriam Briddon ger Ciliau Aeron yn 2014

Mae gan deulu menyw ifanc o Geredigion gafodd ei lladd gan ddyn oedd wedi bod yn yfed a gyrru "deimladau cymysg" am gyfraith newydd i gynyddu dedfrydau.

Cafodd Miriam Briddon, 21, ei lladd ger Ciliau Aeron ym mis Ebrill 2014. Cafodd y gyrrwr oedd yn gyfrifol ddedfryd o bum mlynedd.

O'r wythnos hon, fe fydd barnwyr yn gallu rhoi dedfryd oes i yrwyr sy'n lladd tra dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd mam Miriam, Ceinwen Briddon, ei bod yn "gobeithio y bydd y ddeddf yn newid pethau i deuluoedd eraill", ond ei fod yn "rhy hwyr" i wneud gwahaniaeth i'w teulu nhw.

Yn achos Ms Briddon, fe wnaeth y gyrrwr gyfaddef achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol.

Cafodd ddedfryd o bum mlynedd, ond, oherwydd ymddygiad da, fe gafodd ei ryddhau yn gynt.

"Fe na'th yr holl broses rhoi lot fawr o straen ychwanegol ar ben y galar, ma' colli plentyn wrth gwrs yn rhywbeth ofnadwy, ond 'oedd y broses oedd yn dilyn yn 'neud pethe'n waeth," dywedodd Ceinwen Briddon.

"Fe gath e ddedfryd - o'r diwedd - o bum mlynedd yn y carchar. Ond, ar ôl tua dwy flynedd a hanner gath e ei adael allan.

"'Naeth hwnna hala ni fel teulu yn grac i feddwl am beth oedd yn hollol anghywir yn y sefyllfa hyn a aethon ni ati wedyn i geisio ymgyrchu i newid pethe."

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Miriam Briddon yn cyflwyno'r ddeiseb yn Downing Street

Mae teulu Miriam wedi ymgyrchu dros gyflwyno cosbau llymach am ladd trwy yfed a gyrru ers ei marwolaeth, a phum mlynedd yn ôl, fe wnaethon nhw gyflwyno deiseb i Downing Street.

"O'dd hi'n rhy hwyr i Miriam, o'dd hi'n rhy hwyr i ni fel teulu, ond o'n ni yn teimlo mor gryf," dywedodd Ceinwen Briddon.

"Aethon ni lan i bron â bod 152,000 o lofnodau a felly o'n ni'n gallu mynd lan â'r ddeiseb 'na wedyn i Downing Street a gofyn iddyn nhw i ystyried y sefyllfa a holi iddyn nhw i newid beth o'dd y rheolau ynglŷn â dedfrydu.

"Felly 'naethon ni ddechre' hynny yn 2017 yn dilyn beth ddigwyddodd, ac wrth gwrs, mae hi wedi hala pum mlynedd bron i gyrraedd y man hyn."

O'r wythnos hon, bydd pobl sy'n achosi marwolaeth trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu derbyn dedfryd oes.

'Dim gwahaniaeth i ni fel teulu'

Dywedodd Ceinwen Briddon bod ganddi "deimladau cymysg".

"Wrth gwrs, dwi'n hapus iawn i glywed y newyddion hyn, fe glywes i hyn yn hwyr neithiwr," eglurodd.

"Fy ymateb cynta' i oedd, wel, 'dyma beth y'n ni wedi bod yn brwydro ac yn ymgyrchu amdano ers blynyddoedd'.

"O'dd hynny gyda chefnogaeth teulu, ffrindie', y cyhoedd, dim dim ond ni fel teulu sy' wedi bod yn teimlo'n gryf ac yn ymgyrchu, mae lot fawr o bobl ar hyd Prydain wedi bod yn 'neud yr un peth â ni.

"Dwi'n gobeithio nawr wrth bod hyn yn digwydd, bod y ddedfryd 'ma o oes mewn carchar neu gyfnod hir iawn, bod hwn yn dod mewn i le a bod pobl yn meddwl yn galed iawn cyn gyrru a mynd tu ôl olwyn y car.

"Mae car yn arf pwerus iawn ac os oes rhywun yn meddwl bod 'na ddedfryd y byddan nhw yn ail-feddwl cyn 'neud e.

"Mae teimladau cymysg gyda fi, chi'n gw'bod, dyw e ddim yn gwneud dim gwahaniaeth i ni fel teulu a dyw e ddim yn 'neud dim gwahaniaeth i'r person laddodd Miriam, mae e'n rhydd.

"Ond, gobeithio yn y dyfodol bydd e'n newid pethau i deuluoedd eraill."

Pynciau cysylltiedig