Carcharu dyn o Geredigion am gynhyrchu 'smokies'

  • Cyhoeddwyd
defaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynhyrchu "smokies" yn golygu lladd defaid yn anghyfreithlon - mae'r cnu yn cael ei gadw ar y carcasau ac yna maent yn cael eu llosgi gyda lamp losgi i roi blas mwg i'r cig

Mae dyn o Geredigion, sy'n byw yn Iwerddon, wedi cael ei estraddodi a'i garcharu am fod yn gysylltiedig â chynhyrchu "smokies".

Clywodd llys bod Robert Thomas, 45, yn rhan o grŵp troseddol a oedd yn ffermio'n anghyfreithlon ac yn masnachu cig nad oedd yn addas i'w fwyta.

Mae cynhyrchu "smokies" yn golygu lladd defaid yn anghyfreithlon, ac fel rhan o'r broses gynhyrchu mae'r cnu yn cael ei gadw ar y carcasau ac yna maent yn cael eu llosgi gyda lamp losgi i roi blas mwg i'r cig.

Mae'r broses hon yn anghyfreithlon yn y DU a llawer o wledydd Ewrop.

Cafodd erlyniad cychwynnol ei gynnal gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2015.

Roedd yr erlyniad yn ymwneud â Thomas, a dyn arall o Geredigion sy'n dal yn rhydd ac yn destun gwarant.

Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr 2015 cafodd Thomas ddedfryd o 28 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd.

Roedd wedi honni nad oedd ei enillion yn fwy na £40 yr wythnos a'i fod yn gweithio i'w rieni a dywedodd ei fod yn berchen ar ddau hen gar.

Honnodd hefyd fod ganddo ddau gyfrif banc yn y DU heb unrhyw arian ynddynt a chyflwynodd gyfriflenni banc i brofi hynny.

Dros gyfnod o dair blynedd, gwadodd Thomas yn barhaus fod ganddo fwy na hyn ac ym mis Ebrill 2017 methodd ag ymddangos yn y llys.

'Eiddo a thir yn Iwerddon'

Datgelodd ymchwiliadau pellach fod gan Thomas nifer o gyfrifon banc a bod ganddo eiddo a thir yn Iwerddon.

Cafodd ei arestio ym mis Rhagfyr 2021 gan awdurdodau Iwerddon a'i estraddodi i'r DU ym mis Chwefror 2022.

Fe ymddangosodd yn Llys y Goron Bryste ar ddydd Llun 13 Mehefin gan bledio'n euog i gyhuddiad o ddweud celwydd wrth y llys. Fe'i cafwyd yn euog hefyd o dorri gorchymyn cymunedol a'i ddedfrydu i gyfanswm o 24 mis o garchar.

Daeth y Llys i'r casgliad fod ei enillion troseddol yn dod i gyfanswm o dros £200,000. Golygai hyn y bydd Thomas yn wynebu achos cyfreithiol pellach.

Dywedodd y cynghorydd Mathew Vaux, aelod cabinet Ceredigion dros wasanaethau diogelu'r cyhoedd, fod 'smokies yn risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd "gan fod y cig yn aml wedi'i heintio â chlefydau a pharasitiaid."

"Mae'r anifeiliaid hefyd yn cael eu lladd mewn modd annynol heb ystyried eu lles, sy'n groes i egwyddorion y safonau lles anifeiliaid uchel sydd gan gymuned ffermio Cyngor Sir Ceredigion."

Pynciau cysylltiedig