Cleifion gofal llygaid sy'n aros hiraf am driniaeth, medd arbenigwr
- Cyhoeddwyd
Gallai "llanw o ddallineb y gellid osgoi" daro Cymru os nad yw gwasanaethau gofal llygaid yn cael eu diwygio, yn ôl ymgynghorydd.
Dywedodd Gwyn Williams, o Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, fod y nifer sy'n aros am driniaethau allweddol "yr uchaf y maen nhw erioed wedi bod".
Mae cleifion wedi dweud wrth BBC Cymru sut mae eu golwg wedi gwaethygu wrth aros yn hirach nag arfer am bigiadau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod byrddau iechyd yn gwneud "gwaith arloesol" i wella mynediad at ofal llygaid.
'Gweld na gwneud dim byd'
Dywedodd Mr Williams wrth BBC Cymru mai'r prif feysydd offthalmoleg gydag "oedi niweidiol" yng Nghymru oedd dirywiad macwlaidd, glawcoma a chlefyd y llygaid diabetig.
Mae'r data Ebrill yn dangos bod dros hanner y 133,000 o apwyntiadau a gynlluniwyd ar gyfer y cleifion llygaid risg uchaf yn sylweddol hwyr, ac felly mewn perygl o "niwed di-droi'n-ôl" neu "ganlyniadau andwyol sylweddol".
Mae dirywiad macwlaidd yn effeithio ar ran ganol golwg pobl, a gall waethygu os na chaiff ei drin.
"Mae eich golwg yn mynd yn waeth ac yn waeth," meddai Loveday Williams, 90, o Neyland, Sir Benfro, sydd wedi derbyn pigiadau rheolaidd i reoli'r cyflwr ers 20 mlynedd.
Mae hi wedi eu derbyn bob pedair neu chwe wythnos o'r blaen ond yn y misoedd diwethaf mae hi wedi aros yn hirach.
Mae ganddi apwyntiad yr wythnos hon ond bydd y cyfnod aros wedi bod yn 11 wythnos.
"Wrth edrych ar bethau, y teledu yn arbennig... rydych chi'n sylwi bod yn rhaid i chi ddod yn agosach," meddai.
"Mae fy ngliniau bron cyffwrdd y bwrdd."
Dywedodd mai triniaeth oedd y "gwahaniaeth rhwng gweld a pheidio â gweld ac mae meddwl am beidio â gweld yn frawychus".
"Mae'n anodd meddwl amdanaf o bosib yn eistedd yn y gadair yn methu â gweld na gwneud dim byd," meddai.
"Allwn i ddim byw ar fy mhen fy hun os oedd hynny'n wir."
'Pryder cyson'
Mae gan Neil Chandley, 81, o St Florence yn Sir Benfro hefyd bryderon am gynnal ei annibyniaeth.
Mae ganddo "fylchau" yng ngolwg ei lygad chwith ar ôl cael diagnosis o ddirywiad macwlaidd dair blynedd yn ôl.
Roedd pigiadau i ddechrau bob pedair wythnos, yna bob chwe wythnos ond, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi gorfod aros am 12 ac 17 wythnos.
Dywedodd fod ei olwg yn dda am "hyd at chwe wythnos" ar ôl y pigiadau ac yna'n dirywio.
"Mae'n mynd i gymryd mwy o amser bob tro i ailsefydlu'r llygad oherwydd y bylchau rhwng pigiadau," meddai.
"A bydd yn tueddu i gyflymu'r ffaith y byddwch chi'n colli golwg y llygad hwnnw os na chaiff ei wneud yn rheolaidd."
Dywedodd Mr Chandley fod colli ei olwg yn "bryder cyson" gan ei fod wrth ei fodd yn darllen, garddio a mynd am dro a bod yng nghwmni ei deulu.
Pam fod yna aros hir?
Dywedodd Mr Williams, Llywydd Pwyllgor Coleg Brenhinol Offthalmolegwyr Cymru, nad oedd gan Gymru ddigon o offthalmolegwyr ymgynghorol a bod yn rhaid diwygio'r system gan fod recriwtio yn anodd.
Mae hynny'n cynnwys hyfforddi ymarferwyr anfeddygol i wneud gwaith a wneir yn draddodiadol gan feddygon, fel rhoi pigiadau, adolygu cleifion ar ôl pigiadau, a pharatoi pobl ar gyfer llawdriniaeth cataract.
Galwodd hefyd am ehangu rôl optometryddion ac am sefydlu tair canolfan ragoriaeth gofal llygaid yng Nghymru.
"Os na fyddwn yn cymryd camau parhaol, cywir i ddatrys yr anawsterau hyn ni allaf weld sut y gall y gwasanaeth iechyd barhau yn weithredol," meddai.
"Heb ddatrys y problemau hyn rydym mewn perygl o lawer o bobl yng Nghymru yn mynd yn ddall yn ddiangen."
'Gwaith arloesol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod byrddau iechyd yn gwneud "gwaith arloesol" i wella mynediad at ofal llygaid, gan gynnwys theatrau symudol newydd a chlinigau cymunedol.
Mae rhai gweithdrefnau cataract hefyd yn cael eu rhoi ar gontract allanol i ddarparwyr preifat "i glirio'r rhestrau aros presennol."
"Mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru hefyd yn helpu i hyfforddi gweithlu cynaliadwy yn y dyfodol drwy ddarparu cyfleoedd dysgu arbenigol i optometryddion o bob rhan o Gymru wrth weld mwy o gleifion a lleihau'r rhestr aros."
Dywedodd Andrew Carruthers o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gyfrifol am ofal Loveday a Neil, fod "galw sylweddol" wedi bod yn ei wasanaeth dirywiad macwlaidd oherwydd atgyfeiriadau newydd ac effaith Covid ar wasanaethau a staffio, sydd wedi arwain at "ôl-groniad o alw".
"Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr clinigol a thimau gweithredol i geisio lleihau'r ôl-groniad cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl."
"Mae'r camau yr ydym yn eu cymryd i wella'r sefyllfa yn cynnwys rhoi'r opsiwn i bobl gael eu gweld yn rhywle arall os yw'n gyflymach nag yn Ysbyty Llwynhelyg; darparu clinigau penwythnos ychwanegol yn Ysbyty Llwynhelyg; a defnyddio cyllid a ddyrannwyd yn ddiweddar i wella'r gwasanaeth hwn ymhellach yn Ysbyty Llwynhelyg o ddiwedd mis Gorffennaf."
Mae Wales Live ar BBC One Wales am 22:35 ac yna ar iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022