Beirniadu cwmni am hawlio geiriau 'cariad' a 'hiraeth'
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i roi nod masnach (trademark) i gwmni o Gymru ar y geiriau 'cariad', 'hiraeth' a 'Welsh cake' wedi cael ei feirniadu'n hallt.
Cafodd y geiriau eu cofnodi gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (SED) fel nodau masnach cwmni canhwyllau Fizzy Foam o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae hynny'n atal busnesau eraill sy'n gwneud cynnyrch tebyg rhag defnyddio'r geiriau.
Dywedodd Fizzy Foam mai dim ond ar gyfer canhwyllau y mae'r nodau masnach yn weithredol.
'Effaith mawr ar fusnes'
Yn ôl Amanda James, pennaeth cwmni Gweni, sydd hefyd yn cynhyrchu canhwyllau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd y penderfyniad yn cael effaith fawr ar ei busnes.
"Cyn belled â ma' fy nghwmni i yn y cwestiwn, mae gen i nifer o ganhwyllau gyda 'cariad' arnyn nhw. Byddwn i methu a gwerthu'r rhain," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl fod gan unrhyw un yr hawl i ddweud mai nhw sy'n berchen ar y geiriau hyn.
"Mae'r geiriau hyn yn unigryw, yn perthyn i'n hiaith, ein treftadaeth a'n diwylliant."
Dywedodd llefarydd ar ran SED fod y tri chais a wnaed am nod masnach wedi cyrraedd y gofynion o ran diffiniad y gyfraith.
Ychwanegodd: "Mae ceisiadau yn cael eu hasesu ar eu rhinweddau unigol, gan ystyried ffactorau fel y gair dan sylw, y nwyddau a'r gwasanaethau - lle mae cais wedi ei wneud i'w hamddiffyn.
"Mae gan unrhyw gwmni neu berson arall sydd am herio'r nod masnach ar ôl iddo gael ei gofrestru yr hawl i wneud hynny."
'Nosweithiau di-gwsg'
Mae'r penderfyniad wedi synnu Jonty Gordon, cyfarwyddwr Cwmni Amgen Law, Bangor sy'n arbenigo mewn cyfraith eiddo deallusol.
"Mae'n wir yn syndod i fi bod nhw 'di cael y caniatâd yma - bod o wedi ei gofrestru," meddai.
"Mae'r SED wedi bod yn llym iawn ar gofrestru geiriau Cymraeg ar nwyddau cyffredin fel canhwyllau ac yn sicr yn y cyd-destun yma a gair eithaf cyffredin hefyd.
"Ma' 'na achos enwog ar gyfer y gair 'love' lle mae o wedi cael ei wrthod sawl gwaith ar bob math o nwyddau neu wasanaeth a pan dwi 'di cynghori ar gofrestriadau fel 'na dwi'n cyfeirio at yr achos yma yn aml. Mae'r SED yn wastad yn cyfeirio ato hefyd ac yn gwrthod unrhyw air tebyg.
"Ma' 'na botensial mawr i 'neud drwg i unrhyw gynhyrchwyr canhwyllau gan fod y gair yma mor gyffredin a dwi 'di gweld canhwyllau gyda 'cariad' arno fo sawl gwaith.
"Yn sicr ma' 'na gynhyrchwyr canhwyllau yng Nghymru yn mynd i gael ambell i noson ddi-gwsg oherwydd hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022