Eich hoff eiriau'n adlewyrchu cyfoeth yr iaith
- Cyhoeddwyd
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, gofynnodd Cymru Fyw i chi gyfrannu eich geiriau chi at ein hymgyrch Hoff Air - ac mae cannoedd ohonoch chi wedi cysylltu.
Agorodd y llifddorau wedi apêl Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru. Daeth toreth o eiriau ar e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a ry'n ni wedi defnyddio nifer o'r geiriau hynny i greu poster gallwch lawrlwytho a'i gadw.
"Mae'r ffaith fod cynifer wedi cynnig geiriau gwahanol i'w gilydd yn tanlinellu'r cyfoeth sydd mewn Cymraeg llafar," meddai Ifor ap Glyn.
Yma, mae'n cloriannu'r ymateb i'r ymgyrch.
Cafwyd ymateb anrhydeddus iawn i'r apêl gyda mwy na 400 wedi cysylltu - ond y syndod mwyaf oedd fod y rhan fwyaf o'r geiriau a gynigiwyd, yn ymddangos unwaith yn unig.
Dim ond naw o eiriau sy'n ymddangos bedair gwaith neu fwy; ansbaradigaethus, ysbigoglys, cariad a twmffat (pedair gwaith); annibendod, bondigrybwyll, a pendramwnwgl (pum gwaith) chwrligwgan (saith gwaith) a hiraeth (tair ar ddeg o weithiau).
Er mai geiriau digon plaen, geiriau 'bob dydd' yw cariad, hiraeth a twmffat (neu twndish yn y De) gwelwn mai'r hyn sy'n gyffredin rhwng y lleill yw eu hyd nhw; (camp iti eu dweud nhw, bron, maen nhw mor hir!) ac mae 'na bleser i'w gael wrth rolio'r fath greadigaethau aml-sillafog o gwmpas y geg.
Geiriau tebyg ar y rhestr oedd cabalatsio, wilibowan a rhacsjibidêrs. Geiriau gyda chydig o 'ylwch-chi-fi' yn perthyn iddyn nhw yw'r rhain.
Ond ochr yn ochr â nhw, mae geiriau tipyn symlach ond hollol angenrheidiol: crimog (shin); llysnafedd (slime); llaca (mwd); lletwad (llwy fawr i godi cawl -ladle).
Mae brogarwch wedi cymell ambell ddewis: odi, siwblachad, sbensh; tro arall, rhesymau teuluol.
Perfedd oedd hoff air tad y darlledwr Huw Edwards; wics fyddai mam Anna Jones o Abersoch yn dweud am hot cross buns.
Ond un o'r rhesymau rhyfedda am ddewis hoff air, oedd hwn gan ddyn o Landwrog: 'siop yw fy hoff air i deipio,' meddai. (Ac os craffwch ar y bysellfwrdd, fe welwch fod 'i', 'o', a 'p' i gyd mewn un rhes gyfleus!)
Beth bynnag oedd rhesymau'r gwahanol gyfrannwyr dros eu dewis, diolch iddynt oll am wneud.
Mae'r ffaith fod cynifer wedi cynnig geiriau gwahanol i'w gilydd yn tanlinellu'r cyfoeth sydd mewn Cymraeg llafar.
A dyma'r her nesa'. Nid cyfoeth i'w gronni'n gybyddlyd yng nghilfachau'r cof mo hyn, ond cyfoeth i'w rannu'n afradlon ymhob sgwrs.
Dim ond felly y gwna'r geiriau hyn ddodwy, er mwyn cyfoethogi iaith y to sy'n codi. 'Fesul gair mae colli iaith' meddai'r hen ddywediad; ond siawns fod y gwrthwyneb yn wir.
Fesul gair gallwn ei hadennill yn ei hysblander; felly ewch ati i sianachad a stabaleinad fel cywmaliffwt!
Hefyd o ddiddordeb:
Dyma ddetholiad o'r geiriau Cymraeg eraill sydd wedi mynd â'ch bryd chi - a'r rhesymau pam.
Abo
"Mae'n addas iawn ar y tywydd yma. Dywedodd rhywun wrthyf unwaith ei fod yn dod o'r hen air Cymraeg aboer sy'n golygu corpse." (Annette Hughes, Clydach, Cwm Tawe)
"Mi oedd ei mam yn dweud fod ei thraed fel 'abo' - felly ei thraed mor oer â chorff." (Rhiannon)
Bloeddi
"Gair am ddraenio llysiau." (Jane Lloyd, Machynlleth)
Bochgoch
"Achos sŵn ac odl y gair ac achos dw i medru gweld beth mae'n ddisgrifio." (Daniela Schlick, Porthaethwy)
Brocyn
"Enw ar fachgen oedd yn cael y swydd o dynnu'r hadau a'r llwch o dan y peiriant dyrnu ers talwm." (Merfyn Williams, Pontsiet)
Bwchadanas
"Hynny oherwydd mae e'n dafodieithiol, llawer mwy lliwgar na 'carw', a rhywsut yn adlewyrchiad dda o'r anifail gogoneddus mae'n diffinio a disgrifio." (Stephen Thomas, Caerdydd)
Canu grwndi
"Dau air, ella - ond mae rheolau yno i'w torri..." (@melfync)
Chwimwth
"Fel ieithydd mae gen i nifer o hoff eiriau (a rhai dw i'n eu casáu hefyd). Ond mae'n debyg un o'm ffefrynau yw 'chwimwth' sy'n cyfleu'r holl syniad o 'symud sydyn' o'i sŵn." (Sion Rees Williams, Dunstable)
Chwyrligwgan
"Mae'n gwneud i mi chwerthin ac yn air cymaint gwell yn Gymraeg na Saesneg (spinning top). Da 'di'r iaith Gymraeg." (Gwenda Williams, Penmorfa)
Ci
"Gair byr sy'n crynhoi popeth da yn y byd. Cymeriad, cyfeillgarwch a chariad diamod, cwmpeini, sbort a hapusrwydd. I aralleirio dywediad cyfarwydd - heb gi, heb ddim." (Einir Young, Talybont, Bangor)
Ciwmaliffwt
"Plentyn direidus." (Dafydd, Llanrug)
Clindarddach
"Chwerthin yr ynfyd sydd fel clindarddach mieri", Llyfr Diarhebion (Eric Williams)
Cyboldran
"Siarad a dim tin na phen i stori neu rhywun yn siarad gormod." (Olwen Jones)
Diolch
"Dwi'n dwlu am y gair achos mae e'n air mor bert sy'n golygu shwt gwmynt. Hefyd, mae e'n air nad yw'n cael ei ddefnyddio mor aml ag y dylai - yn enwedig gan blant." (Siân Teifi, Llanfaglan, Caernarfon)
Fferins
"Gair fy nain Bala am dda-da." (Meleri)
Ffrwtian
Ffunan (hances)
"Un o fy hoff eiriau achos mai Nain odd yn eu dweud nhw." (Janet Aethwy)
Huodledd
"Oherwydd bod ganddo ryw fath o berseinedd arbennig, sy'n addas iawn o ystyried ystyr y gair." (Daniel, Rhondda Cynon Taf)
Ledled
"Dwi'n hoffi'r ffordd mae o'n swnio a dwi bob tro'n chwilio am esgus i'w ddefnyddio yn fy ngwaith fel cyfieithydd." (Ffion Mair Parrington, Pentre'r Eglwys)
Llanast
"Gair sy'n disgrifio ei ystyr yn berffaith." (Dilwyn Jones, Bethesda)
Lletchwith
"Mae'n air mor llethchwith nad ydy neb yn ei ddweud yn iawn!" (Christopher Griffiths, Blaendulais)
Llwyddiannus
"Mae pob un dysgwr sy'n llwyddo i ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn gwneud cam pwysig tuag at yr amcan o gyrraedd miliwn o siaradwyr yr iaith. Hoffwn i weld miloedd o ddysgwyr llwyddiannus yn dod yn rhan o'r 'Cymry Cymraeg'." (Jonathan Simcock, Belper, Derbyshire)
Melysgybolfa
"Ei ystyr wreiddiol yw "rhywbeth digon blêr ac amaturaidd - sef rhyw 'frethyn cartref o beth' ", yn cyfeirio at adloniant byr-fyfyr, tebyg i Noson Lawen, ond heb yr ymarfer na'r sglein... yn ôl yr ysgolhaig Syr Ifor Williams.
"Wedyn, am hwyl, dyma Dafydd Parri, awdur cyfres y Llewod yn bathu'r gair a rhoi ystyr newydd iddo fo, sef pwdin treiffl.
"Bellach, mae rhai tai bwyta yng Nghymru yn defnyddio MELYSGYBOLFA yn gyfieithiad o bwdin efo'r enw Saesneg Eton mess arno. Dwi 'rioed wedi blasu un o'r rhei'ny, ond ma'n siŵr 'i fod o'n bwdin clyfar a bonheddig iawn!" (Mari Gwilym, Caernarfon)
Mwddrwg
"Dyma beth oedd Nain yn galw fi." (Eirian James, Caernarfon)
Panad
"Datrys pob broblem." (Eleri, plwyf Rhoscolyn)
Pibonwy (icicle)
"Gair addas iawn ar gyfer y tywydd oer." (Elin, Ysbyty Ifan)
Pwlffacan
"Mae'n ymylu ar swnio'n anweddus, ond yn disgrifio malu awyr i'r dim." (John Bryn Owen, Y Groeslon)
Rhidyllu
To sieve
Sboncen
"Heb unrhyw drafferth - mae'n achosi llawer o werthin yn fy nosbarth!" (Gareth Murphy, Caerdydd)
Sbratast
"Dw i'n defnyddio'r gair yn Saesneg, hefyd, oherwydd does dim byd yn debyg yn Saesneg - ond mae 'na gathod sy'n dwyn bwyd oddi ar y bwrdd yn Lloegr." (Mike Farnworth, Lerpwl)
Shwblachad
"Pan ma' dillad wedi eu pentyrru'n flêr bob sut, neu os oes na olwg blêr ar ddilledyn." (Gwyneth)
Strywla
"Gair arferol i mi am chwilio a chwalu e.e. mewn drôr. Am be wyt ti'n strywla yn fanna? h.y. rhywun yn chwilio a hwyrach blera'r drôr yr un pryd." (Olwen Jones)
Twll
"Dw i jyst yn licio'r sŵn!" (Kathryn Packwood, Blaenau Ffestiniog)
Whilmentan
"Twrio mewn drôr neu focs heb wybod beth a ddaw." (Mags Griffiths, Caerffili)
"Busnesu yw ei ystyr, mae'n gwneud i fi feddwl am balu trwy ddreir yn nhŷ Mamgu yn chwilio am bethau diddorol." (Bethan Griffiths, Caerdydd)
Wncomwnco
"O ardal Llanelli am hwnna yn fana." (Bedwyr)
Wompyn
"Rhywbeth mawr - mae'r babi 'na'n wompyn!" (Ows, Caerdydd)