Adam Price: 'Llwybr' posib i refferendwm annibyniaeth i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price: 'Mynd yn uniongyrchol at bobl Cymru er mwyn cael mandad'

Fe allai penderfyniad cyfreithiol ar fesur refferendwm annibyniaeth i'r Alban greu "llwybr" i bleidlais debyg yng Nghymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Os bydd y Goruchaf Lys yn dyfarnu y gall Llywodraeth yr Alban basio mesur refferendwm heb fendith San Steffan, dywedodd Adam Price y gallai Cymru ddilyn wedyn.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi ei bwriad i gynnal pleidlais ym mis Hydref 2023.

Dywedodd arweinydd yr SNP ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am ganiatâd ffurfiol i gynnal y refferendwm.

Ond hyd yn oed os na ddaw caniatâd o'r fath, cadarnhaodd y byddai'n bwrw ymlaen gyda phleidlais p'run bynnag, gyn belled fod y Goruchaf Lys yn cydsynio bod hawl iddynt gynnal un.

Os na fydd refferendwm yn 2023, dywed Ms Sturgeon y byddai'r SNP yn trin yr etholiad cyffredinol nesaf fel "refferendwm de facto".

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n edrych ar gynigion Llywodraeth yr Alban, ond pwysleisiodd "nad nawr yw'r amser" ar gyfer refferendwm arall.

Mae hefyd wedi dweud ei bod yn "glir" bod yr Undeb yn fater i San Steffan.

'Dirmyg' tuag at ddatganoli

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Adam Price: "Os ydy'r Goruchaf Lys yn penderfynu o blaid, mi fydd 'na lwybr gennym ni yng Nghymru i fynd yn uniongyrchol at bobl Cymru er mwyn cael mandad ar gyfer sicrhau ein hawl i hunan-benderfyniad fel cenedl."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson wedi pwysleisio nad yw'n credu y dylid cynnal refferendwm yn yr Alban

Dywedodd fod cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu deddf Senedd Cymru - sy'n gwahardd gweithwyr asiantaeth rhag cymryd lle gweithwyr sydd ar streic yn y GIG a gwasanaethau eraill - yn cryfhau'r achos dros bleidlais o'r fath.

Cyhuddodd Mr Price Lywodraeth y DU o ddangos "dirmyg" tuag at ddatganoli, gan ychwanegu mai un ffordd o anfon neges glir i San Steffan yw i orymdaith Wrecsam dros annibyniaeth ddydd Sadwrn fod "y mwyaf erioed".

Ddydd Mawrth fe heriodd Mark Drakeford, yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, i "wneud cais am y pŵer ar gyfer refferendwm ar ddyfodol ein democratiaeth".

Ond dywedodd Mr Drakeford mai achos gwan sydd dros wneud hynny gan nad yw pleidiau sy'n cefnogi cael refferendwm ar annibyniaeth erioed wedi ennill y mwyafrif o bleidleisiau mewn etholiad yng Nghymru.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Price, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies: "Hyd yn oed yn y sefyllfa annhebygol y bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu y gall Senedd yr Alban gael refferendwm cyfreithlon - gan anwybyddu yn llwyr y refferendwm a gafwyd wyth mlynedd yn ôl - nid yw'n golygu y byddai'r egwyddorion cyfreithiol yn gymwys yn awtomatig yng Nghymru.

"A hyd yn oed os ydyn nhw, mae croeso mawr i Adam Price roi hynny gerbron pobl Cymru lle bydd yn parhau i ddangos pa mor allan o gysylltiad y mae ef a'i blaid gyda'r Cymry.

"Trechwyd annibyniaeth yn argyhoeddiadol yn y blwch pleidleisio y llynedd."

Daeth Plaid Cymru yn drydydd yn etholiadau'r Senedd yn 2021 gyda maniffesto yn addo refferendwm am annibyniaeth i Gymru pe byddan nhw'n dod i rym.

Gwrthwynebiad yn yr Alban

Tydi cynlluniau'r SNP heb ennyn cefnogaeth y pleidiau eraill yn y wlad.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Douglas Ross, refferendwm arall fyddai'r "flaenoriaeth anghywir i'r Alban" a byddai'n rhwystro adferiad yr Alban o'r pandemig.

Mae'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban hefyd wedi lleisio'u barn yn erbyn cynlluniau Ms Sturgeon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae pobl ar draws yr Alban eisiau gweld eu dwy lywodraeth yn cydweithio ar y materion sydd o bwys iddyn nhw.

"Mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael â chostau byw, sicrhau diogelwch ynni, arwain yr ymateb rhyngwladol yn erbyn goresgyniad Rwsia o'r Wcráin a thyfu ein heconomi. Dyna yw ein blaenoriaeth o hyd.

"Mae penderfyniad wedi ei wneud gan y prif weinidog i gyhoeddi Bil, ac mae'r Arglwydd Adfocad wedi gwneud atgyfeiriad i Oruchaf Lys y DU. Bydd swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU nawr yn ystyried eu hymateb."