Logan Mwangi: Mam, llystad a llanc yn euog o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mam, llystad a bachgen 14 oed wedi eu cael yn euog o lofruddio bachgen pum mlwydd oed, rhoi ei gorff mewn bag a'i adael ar bwys afon ger ei gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd gan John Cole, 40, Angharad Williamson, 31, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi.
Pan gafwyd hyd i'w gorff yn Afon Ogwr, ger ei gartref ym mhentref Sarn, roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, ac fe ddaeth i'r amlwg ei fod hefyd wedi cael niwed mewnol difrifol i'w abdomen.
Bydd y tri diffynnydd yn cael eu dedfrydu maes o law ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Fe rybuddiodd y barnwr, Mrs Ustus Jefford mai carchar am oes yw'r unig ddedfryd yn achos euogfarnau am lofruddiaeth.
Roedd y Llys y Goron Caerdydd wedi clywed y byddai ganddo siawns 80% o oroesi'r anafiadau pe bai wedi ei gludo i'r ysbyty heb oedi, ac y gallai fod wedi cymryd oriau i farw.
Roedd y tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth, a'r ddau oedolyn yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Roedd Cole, yn wahanol i'r ddau ddiffynnydd arall, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy roi corff Logan yn y bag a'i adael ar bwys yr afon.
Cafwyd Williamson a'r llanc hefyd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Wrth glywed y dyfarniadau fe wylodd Williamson, gan weiddi: "Na."
Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Jefford wrthi: "Er parch i'ch mab ac i'r llanc [sef ei chyd-ddiffynnydd] byddwch yn dawel tra bo'r dyfarniadau'n cael eu cyhoeddi."
Wrth gael ei thywys o'r doc, fe regodd Williamson ar Cole gan ei alw'n "gelwyddgi".
Wedi'r dyfarniadau fe ddywedodd tad Logan, Ben Mwangi bod "y byd yn le mwy oer a thywyll heb ei wên gynnes ac egni llawen".
Dywedodd na fydd "y bwlch yng nghalonnau pawb oedd yn ei nabod a'i garu byth yn cael ei lenwi", a "does dim cyfnod amser all wella'r clwyfau sydd wedi eu hachosi".
"Roeddwn yn ei garu gymaint a rhywsut mae'n rhaid i mi fyw fy mywyd yn gwybod na chaf ei weld yn tyfu i fod y dyn rhyfeddol y byddai wedi bod."
Ychwanegodd bod yr heddlu a'r erlynwyr "wedi gwneud gwaith rhyfeddol i gael cyfiawnder i fy mab".
'Diffyg tosturi ac edifeirwch'
Mae arweinydd yr ymchwiliad i'r achos wedi canmol proffesiynoldeb swyddogion heddlu a chydweithwyr y gwasanaethau brys yn wyneb "y golygfeydd mwyaf trawmatig posib fis Gorffennaf y llynedd".
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lianne Rees bod hi'n "anodd dychmygu dioddefaint Logan dan law'r rheiny roedd yn ymddiried ynddynt".
"Mae'r ymdrechion i guddio'r drosedd yn yr oriau wedi marwolaeth Logan a'r celwyddau a'r twyll canlynol yn arwydd o'u diffyg tosturi ac edifeirwch."
Fe gymrodd y rheithgor - saith dyn a phum menyw - bum awr i gytuno ar eu dyfarniadau, ac roedd rhai dan deimlad wrth i'r dyfarniadau hynny gael eu cyhoeddi.
Fe wnaeth y barnwr ddiolch iddyn nhw am roi "gwasanaeth cyhoeddus rhagorol", gan ychwanegu eu bod wedi gorfod "gwrando ar dystiolaeth oedd yn aml yn annymunol ac emosiynol".
Dywedodd bod hynny'n "ddim llai nag yr oedd Logan Mwangi yn ei haeddu".
Ychwanegodd na fydd yn rhaid iddyn nhw wasanaethu ar reithgor eto yn y dyfodol oherwydd natur y dystiolaeth mewn achos a barodd am wyth wythnos.
Yn ôl Aelod o'r Senedd Ceidwadol sy'n byw yn lleol, mae'n "siomedig i bobl yn y gymuned bod rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd yma".
Mae "cwestiynau nawr, nawr bod y llys wedi gorffen" i adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Pen-y-bont at Ogwr "esbonio beth oedden nhw'n ei wybod am Logan ac am y teulu," medd Tom Giffard, un o ASau rhanbarth De Orllewin Cymru.
"Falle doedd y cyngor ddim yn gwybod bod hwn yn mynd i ddigwydd, ac mae hwn yn gofyn cwestiwn felly am y gwaith mae'r cyngor yn ei wneud," dywedodd.
"Neu, oedden nhw yn gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd, a 'wnaeth neb wneud unrhyw beth i stopio fe? A beth bynnag yw'r ateb i'r cwestiwn yna, mae'n bwysig bod ni'n gwybod yr ateb...
"Felly dwi'n gobeithio bod y cyngor yn dod mas ac yn esbonio hynny i bobl, a gobeithio hefyd bod rhyw fath o ymchwil yn mynd mewn i hynny."
Nid yw Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymateb yn uniongyrchol i sylwadau Mr Giffard.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd bod yr achos yn un "trist eithriadol a thrasig sydd wedi effeithio ar bawb" sy'n byw o fewn y bwrdeistref, a bod bwriad i wneud datganiad pellach wedi i'r diffynyddion gael eu dedfrydu.
"Tan hynny, mae ein meddyliau'r parhau gyda Logan, a phawb oedd yn ei 'nabod ac yn malio amdano," ychwanegodd.
'Triniaeth ddychrynllyd'
Yn ôl elusen NSPCC Cymru, mae angen i "Adolygiad Ymarfer Diogelu Plant droi pob carreg nawr" i gadarnhau beth ddigwyddodd cyn marwolaeth Logan ac asesu "a ellid fod wedi gwneud mwy i'w warchod".
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr elusen, Tracey Holdsworth: "Roedd y ffordd y cafodd Logan Mwangi ei drin gan bobl y dylai fod yn gofalu amdano yn ddychrynllyd, ond mae'r ffaith bod person ifanc arall yn rhan o'i farwolaeth yn fwy brawychus fyth.
"Fodd bynnag, ni allwn ddiystyru'r ffaith fod un o'r rhai a gafwyd yn euog yn dal yn blentyn ac fe ddylai'r ymateb yn eich achos e fod yn un o gosbi a chefnogaeth addas."
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi comisiynu adolygiad o'r achos yn dilyn y dyfarniad.
Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried cysylltiad asiantaethau perthnasol gyda'r teulu, er mwyn "llunio amserlen o ddigwyddiadau pwysig cyn y digwyddiad trasig".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022