Taith Cymru yn Ne Affrica: Tommy Reffell i ennill ei gap cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r prop Gareth Thomas yn "edrych ymlaen" at y gêm yn Pretoria

Bydd blaenasgellwr Caerlŷr, Tommy Reffell yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica yn Pretoria ddydd Sadwrn.

Bydd Reffell, 23, yn dechrau yn y rheng ôl ochr yn ochr â Dan Lydiate a Taulupe Faletau yn y gyntaf o dair gêm brawf yn erbyn y Springboks.

Mae Lydiate a'i gyfaill o'r Gweilch, George North, yn dechrau ar ôl dychwelyd o anafiadau hirdymor - gyda North wedi'i ddewis yn y canol.

Kieran Hardy sy'n dechrau fel mewnwr, tra bod y bytholwyrdd Alun Wyn Jones ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tommy Reffell, sy'n wreiddiol o ardal Pen-y-bont, yn gyn-gapten ar dîm dan-20 Cymru

Dan Biggar fydd yn gapten ar ei wlad unwaith eto ar ôl cymryd yr awenau yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn sgil anaf Alun Wyn.

Bydd Cymru yn chwarae ail gêm brawf yn erbyn y Springboks yn Bloemfontein ar 9 Gorffennaf a'r drydedd yn Cape Town ar 16 Gorffennaf.

Tîm Cymru i wynebu De Affrica ar 2 Gorffennaf

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar (capt), Kieran Hardy; Gareth Thomas, Ryan Elias, Dillon Lewis, Will Rowlands, Adam Beard, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Dewi Lake, Rhys Carre, Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Josh Navidi, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Owen Watkin.

Tîm De Affrica

Damian Willemse; Cheslin Kolbe, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Elton Jantjies, Faf de Klerk; Ox Nché, Bongi Mbonambi, Frans Malherbe, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi (capt), Franco Mostert, Jasper Wiese.

Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, Salmaan Moerat, Elrigh Louw, Kwagga Smith, Herschel Jantjies, Willie le Roux.