Gofal iechyd annigonol yng ngharchar Abertawe
- Cyhoeddwyd
Dyw'r bobl sydd yng ngharchar Abertawe ddim yn cael gwasanaeth gofal iechyd "diogel a theg" yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae'r adroddiad yn nodi 29 o argymhellion ar gyfer gwella'r gwasanaethau gofal yno ac yn dweud bod angen cryfhau trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Abertawe.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod modd "gweithio yn agosach gyda phoblogaeth y carchar" a'u bod "eisoes yn gwella anghydraddoldebau iechyd".
Yn ôl yr arolwg gafodd ei gynnal ymhlith staff gofal iechyd, staff y carchar a charcharorion yn ystod y pandemig roedd ansawdd y gofal iechyd yn "annigonol".
Roedd yna bryderon hefyd am ba mor ddiogel oedd cyfleusterau'r carchar i ddarparu gofal iechyd.
Fe wnaeth y rhan fwyaf o staff gofal iechyd ddweud bod y cyfleusterau wedi'u galluogi i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ond dim ond traean o staff y carchar oedd yn teimlo'r un peth.
Fe ddywedodd un aelod o staff y carchar "nad oedd yr ystafelloedd clinig yn ddelfrydol gan fod y larymau panig wedi'u lleoli yn y rhan anghywir o'r ystafell ac na fyddai modd eu defnyddio mewn argyfwng".
Nodwyd fod hyn yn "codi pryderon am ddiogelwch y staff" ac roedd pryderon pellach am ddiffyg cofrestr nodi risg.
Prinder gwasanaethau
Mae'r adroddiad yn nodi fod carcharorion yn gallu cael mynediad hawdd at wasanaethau i ddelio â chamddefnyddio sylweddau ond ei bod hi'n anodd cael gwasanaethau gofal iechyd eraill - yn enwedig gwasanaethau deintyddol.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i'w gwneud yn haws gweld meddyg teulu yn y carchar.
Cafodd cynllun newydd ei gyflwyno i garchar Abertawe ym mis Ionawr 2020 gyda thîm o feddygon teulu yn darparu gwasanaethau bum diwrnod yr wythnos i'r carcharorion.
Ond roedd dros hanner y carcharorion gafodd eu holi yn dweud ei bod yn anodd cael apwyntiad.
Dywedodd grŵp o staff y bwrdd iechyd fod y gwasanaeth deintyddol wedi bod ar gael gydol y pandemig ac mai prin oedd yr achosion nad oedd ar gael yn sgil achosion o Covid.
Ond yn ôl staff y carchar dim ond un clinig deintyddol wythnosol gafodd ei gynnal yn y carchar yn ystod y pandemig, ac maen nhw'n dweud bod 80 ar y rhestr aros.
Mae'r adroddiad yn nodi ei bod hi'n "amlwg o'n hadolygiad bod y rhai sy'n gweithio o fewn gwasanaethau gofal iechyd yn y carchar yn ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion yn Ngharchar Ei Mawrhydi Abertawe, yn enwedig o fewn heriau a chyfyngiadau amgylchedd carcharu diogel.
"Er ein bod yn cydnabod yr heriau a wynebwyd gan y bwrdd iechyd a gwasanaeth y carchar yn ystod y pandemig, mae angen gwelliannau i gryfhau'r trefniadau llywodraethu ansawdd gofal iechyd."
Mewn ymateb fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Rydym yn falch o weld bod yr adolygiad yn cydnabod yr adborth positif gan nifer o ddefnyddwyr y gwasanaeth.
"Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud i weithio gyda charcharorion, i ddeall yn well sut y gallwn ni ddarparu gofal, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2014