Cost achosion Covid £15,000 yn is na dechrau'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ward Covid

Mae'r gost i gymdeithas o bob achos o Covid-19 wedi gostwng o fwy na £15,000 ers brig ail don y pandemig yn Rhagfyr 2020, yn ôl ymchwilwyr.

Grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru (TAC) sydd wedi rhyddhau'r data, sy'n awgrymu mai cost cyfartalog achos o Covid-19 i gymdeithas ar y pryd oedd £21,100.

Yn ystod ton amrywiolyn Delta yng Ngorffennaf 2021, y gost ar gyfer pob achos oedd £8,300.

Erbyn Ionawr 2022, yn ystod ton amrywiolyn Omicron, y gost oedd £5,800.

Ond mae TAC yn awgrymu y gallai'r gost erbyn dechrau eleni fod yn is eto, yn dilyn lleihad yn nefnydd profion PCR a'r cynnydd mewn profion llif unffordd.

Mae'r gost i gymdeithas wedi ei gyfrifo drwy ystyried cost Covid yn nhermau derbyniadau ysbytai ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill sy'n dilyn ac yn cael effaith ar ansawdd bywyd claf, gan gynnwys effeithiau Covid hir.

Mewn cymhariaeth, cost cymdeithasol achos o'r ffliw yn Lloegr oedd £6,700 rhwng 2017 a 2018.

Dywedodd TAC y gallai'r wybodaeth ar y gost i bob achos fod yn ddefnyddiol wrth ystyried "effeithlonrwydd ariannol" polisïau fel brechu.

Mae'r grŵp yn amcangyfrif bod brchu wedi atal 4,700 o farwolaethau yng Nghymru erbyn 6 Awst 2021.

Mae'r ymchwil yn dweud bod dadansoddiad blaenorol o brofi torfol yn awgrymu ei fod yn ddefnyddiol pan oedd niferoedd Covid yn uchel, cyn bod brechiad ar gael, ond "efallai na fyddai'n gost effeithiol nawr bod llai o achosion difrifol o heintiadau Covid-19".

Er hynny, dim ond un elfen yw'r ochr ariannol wrth i weinidogion ystyried polisïau Covid.

Mae'r adroddiad yn dadlau bod polisïau fel brechu, cyfnodau clo a gwisgo mygydau a wnaeth ohirio achos yn Rhagfyr 2020, wedi gallu cynnig cryn arbedion ariannol.

Hynny yw, petai achos o Ragfyr 2020 wedi'i ohirio nes Gorffennaf 2021, byddai'r gost i gymdeithas cyn lleied a 40% o beth fyddai'r gost wedi bod saith mis yn gynharach.

Gwrthgyrff gan 99%

Mae gan tua 99% o oedolion wrthgyrff Covid-19, un ai o frechiad neu o gael eu heintio.

Ond mae TAC yn awgrymu nad yw'n golygu na fydd pobl yn cael eu heintio, gan ddweud bod nifer o'r heintiadau yma wedi dod ar ôl i'r rhaglen frechu ddechrau.

Dywed TAC y gallai'r ffigyrau fod yn ddefnyddiol wrth benderfynu ar bolisïau'r dyfodol, yn cynnwys os yw'n fwy cost effeithiol i wario arian ar leihau lefelau Covid-19 o'i gymharu â gwario mewn mannau eraill fel clefyd cardio fasgwlar neu ganser.