5,000 yn gorymdeithio dros annibyniaeth yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Daeth miloedd at ei gilydd yn Wrecsam ddydd Sadwrn wrth orymdeithio dros annibyniaeth i Gymru.
Hon oedd yr orymdaith gyntaf sydd wedi ei chynnal gan fudiad AUOB (All Under One Banner), Yes Cymru a Indy Fest Wrecsam ers dros ddwy flynedd oherwydd y pandemig.
Yn ôl y trefnwyr roedd yr orymdaith yn gyfle i bobl Cymru "ddangos yr awch i Gymru fynd mewn cyfeiriad gwahanol" ac i "fynnu hunanlywodraeth".
Roedd y digwyddiad ar dir Llwyn Isaf yn Wrecsam wedi bod yn destun dadlau gyda Chyngor y sir gynt yn dweud bod yr orymdaith ar y tir yn torri rheolau'r cyngor.
Ond mewn tro pedol dywedodd llefarydd ar ran y cyngor na fyddan nhw'n rhwystro'r brotest.
Mae mudiad AUOB wedi honni bod rhwng 6-8,000 o bobl wedi dod i Wrecsam ar gyfer yr orymdaith.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd ddydd Llun bod o leiaf 5,000 yn bresennol.
'Mor gryf ag erioed'
Yn ôl un o'r trefnwyr, y Cynghorydd Marc Jones, roedd yr orymdaith yn gyfle i ddangos "bod y mudiad dal mor gryf ag erioed".
"Da ni 'di bod yn disgwyl dros ddwy flynedd i gynnal yr orymdaith yma," meddai.
"Mae Covid wedi cadw rhai pobl draw, 'da ni'n gwybod hynny, ond mae miloedd yma heddiw.
"Os rhywbeth mae pobl yn teimlo'n gryfach nag erioed, mae llanast San Steffan yn waeth nag erioed ac mae gennym ni ddewis sylfaenol, unai 'da ni am fod yn rhan o Loegr fwy neu Cymru annibynnol, does dim lle canol erbyn hyn."
Yn ôl Marc Jones mae dyhead Llywodraeth yr Alban i gynnal ail refferendwm am annibyniaeth yn cryfhau y ddadl a'r drafodaeth am hunanlywodraeth i Gymru.
Tra bod yr orymdaith wedi bod yn swnllyd a chadarnhaol ar y cyfan, mae'r mudiad annibyniaeth wedi wynebu heriau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae trefnwyr wedi cydnabod bod y pandemig a'r diffyg gallu i ddod ynghyd wedi gwneud hi'n anodd ar brydiau cynnal momentwm.
Mae mudiad Yes Cymru hefyd wedi wynebu heriau sylweddol gydag adroddiad o gecru a dadlau mewnol dros gyfeiriad y mudiad.
Yn ôl adroddiadau ym mis Rhagfyr 2021 fe ostyngodd nifer yr aelodau o 17,000 i 8,000.
Y gred yw bod rhai aelodau o'r gweithgor wedi bod yn anhapus gyda chyfeiriad polisi y mudiad gyda rhwyg amlwg medd ffynonellau ar y pryd.
Ond yn ôl y trefnwyr ddydd Sadwrn roedd hi'n glir fod yna undod yn Wrecsam.
Cefnogwyr o bell ac agos
Daeth y gorymdeithwyr o bob cwr o Gymru. Doedd ddim yn rhaid i David ac Ela Jones deithio yn bell iawn o Sir Ddinbych.
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig ail gynnal trafodaeth - ma'n bwysig, o weld faint o bethau sy'n dirywio yn San Steffan da ni yma i drafod, cyfarfod efo bobl a gorymdeithio," meddai David.
"Dwi'n teimlo bod y [momentwm] dal yna, o weld y bobl 'ma gyd heddiw, i weld pawb yma, dwi'n teimlo fel person ifanc bod o'n bwysig imi fod yma i bobl clywed fy llais i," meddai Ela.
Fe ddaeth eraill o bell a Paul Morris wedi teithio o Abertawe ar gyfer yr orymdaith.
"Ma'n wych yma - ma'n dechrau fo off eto yndi ac i Gymru ddod at ei gilydd eto," meddai.
"Man rili bwysig- dwi'n rhan o Yes Cymru Abertawe, ni'n trio lawr 'na, ma t'm bach yn gryfach yn y gogledd ond ni'n dechrau dod!"
O Nefyn daeth Ieuan Evans heddiw i gefnogi gyda'i ffrind Stan o'r Fflint.
"'Da ni yma i gefnogi Cymru ydyn - a lle Cymru yn y byd ac inni beidio a bod yn eilradd," meddai Ieuan.
"Es i i'r orymdaith ym Merthyr ac ma'n anodd cymharu y nifer ond ma'n galonogol."
Yn ôl ei gyfaill Stan mae annibyniaeth "nôl ar yr agenda" wedi helynt y misoedd diwethaf.
Yn ôl AUOB fe fydd yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth yng Nghaerdydd ym mis Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2021