America'n rhanedig ar ôl gwrthdroi hawliau erthylu Roe v Wade

  • Cyhoeddwyd
maxine

Roedd pawb yn America yn gwybod bod penderfyniad y Goruchaf Lys ar ei ffordd. Roedd Politico wedi rhyddhau'r wybodaeth ym mis Mai. Ond roedd yn dal yn sioc pan ddigwyddodd.

I'r rhai oedd wedi bod yn ymgyrchu ers bron i hanner canrif i ddod a Roe v Wade i ben, dathliad oedd hi. Ac roedd cymaint o bobl eraill wedi'u difrodi.

Mae'r gyfraith [i ganiatâu erthyliad] yn dyddio o 1973, pan ddaeth menyw sengl feichiog (Roe) ag achos yn herio pa mor gyfansoddiadol oedd deddfau erthyliad Texas.

Yn dilyn hyn fe ddaeth erthyliad yn gyfreithlon ledled America. Mae'r penderfyniad gan y Goruchaf Lys ar 24 Mehefin yn gwrthdroi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i wrthdroi Roe v Wade wedi arwain at brotestiadau mewn dinasoedd ledled yr Unol Daleithiau.

Y tri oedd yn gwneud hyn yn bosib oedd y barnwyr, Neil Gorsuch, Brett Kavanaugh ac Amy Coney Barrett... tri a benodwyd i'r Goruchaf Lys gan Donald Trump.

Roeddwn i yn North Dakota pan ddaeth y newyddion - un o'r 13 trigger states a oedd eisoes wedi pasio deddfau yn erbyn erthyliad a fyddai'n dod i rym yn syth wedi penderfyniad y Goruchaf Lys.

'Croesi i Ganada'

Yn North Dakota roeddent yn barod i lofnodi deddf yn gwneud erthyliad yn gwbl anghyfreithlon heblaw os yw bywyd y fenyw mewn perygl. Mae'n dalaith goch, gyda chymdogion coch, ac roedd llawer o bobl siaradais i gyda nhw yno yn hapus.

Ond dywedodd menyw ifanc oedd yn eistedd wrthaf yn y maes awyr fod pobl yng North Dakota gyda un opsiwn rwan, "croesi drosodd i Ganada".

Mae'n deimlad rhyfedd i mi feddwl bod rhaid i fenywod deithio i wlad arall i dderbyn triniaeth. Mae llawer sy'n byw ger y ffin eisoes yn mynd oherwydd y costau gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau.

Yn nhaleithiau'r de nid yw croesi i Ganada yn mynd i fod yn opsiwn i rywun sydd heb y modd na'r arian i deithio.

Bron i 20 awr mewn car i ffwrdd o North Dakota mae Doctor Willie Parker yn feddyg yn Little Rock, Arkansas. Mae Dr. Parker yn cael ei weld fel un o'r ychydig yn y dalaith sy'n barod i ymladd yn erbyn yr hyn sy'n digwydd yn ei dalaith.

'Mae bellach yn drosedd i mi wneud fy swydd'

Mae Dr. Parker wedi bod yn siarad yn gyhoeddus ar y mater ers misoedd ond roedd gen i ddiddordeb clywed sut roedd o'n teimlo yn dilyn y digwyddiadau diweddar.

"Roedd gen i wythnos lawn o ofal, ond mae'n rhaid canslo popeth. Mae bellach yn drosedd i mi wneud fy swydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dr. Willie Parker sy'n feddyg yn nhalaith geidwadol Arkansas

"Byddaf yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd i helpu menywod. Byddaf yn ymladd yn erbyn hyn drwy ymgyrchu'n wleidyddol. Mae 70% o Americanwyr yn credu y dylai erthyliad fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon," meddai Dr. Parker.

Fe deithiais i Efrog Newydd gan feddwl am beth ddywedodd y meddyg wrthaf - bod mwyafrif y boblogaeth yn anghytuno â phenderfyniad y Goruchaf Lys. Ond dyma'r Unol Daleithiau, lle gall penderfyniadau gan gyn-arlywydd, a llais 'yr ychydig', siapio a newid bywyd yma.

Efrog Newydd yn amddiffyn hawliau i erthylu

Yn Efrog Newydd ni allai pethau fod yn fwy gwahanol i North Dakota - roedd y llywodraeth yno wedi pasio deddfwriaeth i amddiffyn Roe v Wade.

Yn ddiweddar mae Efrog Newydd wedi bod yng nghanol dyfarniad Goruchaf Lys arall. Tua wythnos yn ôl cafodd deddf gynnau Efrog Newydd ei tharo lawr gan y Goruchaf Lys ynghylch cario gwn tu allan i'r cartref. Dyma'r ehangiad mwyaf yn ymwneud â hawliau gynnau mewn degawd.

Pan gyrhaeddais Efrog Newydd roedd pobl ar y strydoedd yn barod.

Mae Lulu Fogarty yn actifydd ac yn ymgyrchydd a threuliodd y penwythnos yn protestio. Mae hi'n dweud bod 'na argyfwng yn America, a'r bobl fydd yn dioddef fwyaf yw lleiafrifoedd tlawd.

"Rwyf wedi cael fy ngeni a 'magu yn Ninas Efrog Newydd ac rwy'n teimlo rhyddhad fy mod yn byw mewn talaith lle mae 'na ddeddf i amddiffyn erthyliad.

"Ond mae gen i ofn y gallai gwaharddiad ffederal ddigwydd nawr, oherwydd dyna be mae'r Gweriniaethwyr eisiau."

Mae polisïau erthyliad bellach yn nwylo pob dalaith ar wahân am y tro. Ond mae miliynau yn rhannu pryder Lulu, oherwydd bod y Gyngres yn gallu newid pethau i amddiffyn neu ymestyn gwaharddiad erthyliad.

Y ffaith yw, mae erthyliad yn fater gwleidyddol yn America, ac dyma'r realiti ers y dechrau. Mae'r mater yn cael ei defnyddio i ennill pleidleisiau yn ystod ymgyrchu etholiadol.

Mae gwleidyddion ym mhob talaith wedi ymateb i'r newyddion. Yn Texas, dywedodd deddfwyr y dylai diwrnod y penderfyniad fod yn wyliau cyhoeddus.

"Nawr mae pobl America yn cael eu llais yn ôl," meddai Arweinydd Lleiafrifol y Senedd, Mitch McConnell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mitch McConnell, sy'n cynrychioli talaith Alabama yn Senedd America.

Mae'r wlad yma wedi ei pholareiddio yn fwy nac erioed gyda mudiad MAGA Trump yn cynrychioli'r mwyafrif ar y dde. Maen nhw'n geidwadol iawn, yn 'Ultra MAGA', yn cefnogi hawliau gynnau ac yn gwrthwynebu pethau fel rheolau iechyd ar gyfer Covid-19.

'Y dde a'r chwith eithafol'

Ac wrth i MAGA dyfu, tyfodd y chwith eithafol hefyd - mae'r ddwy ochr bellach yn cymryd rhan mewn rhyfel diwylliannol, sy'n aml yn arwain at ymladd treisgar ar strydoedd y dinasoedd mawr.

Mae Americanwyr bellach wedi dod i gasgliadau gwahanol iawn ynglŷn â sut y dylai gymdeithas fod.

Mae'r cyn-arlywydd yn cael ei weld fel y person sydd yn gyfrifol am benderfyniad y Goruchaf Lys, ond "Duw wnaeth y penderfyniad" yn ôl Trump.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Protestiadau ger y Tŷ Gwyn yn Washington ar 4 Gorffennaf.

Pan gyrhaeddais adref i Washington DC es i fyny i'r Goruchaf Lys i siarad gyda phobl a oedd yn protestio.

Roedd o'n diddorol fod y brotest y diwrnod hwnnw yn erbyn y blaid ddemocrataidd; 'Spineless gutless Democrats' gwaeddodd y protestwyr.

"Mae 'na un blaid sy'n dweud bod nhw'n mynd i amddiffyn ni, ond 'di nhw ddim yn gwneud dim byd," meddai Nicky Enfield, sy'n trefnu'r protestiadau yn Washington.

Disgrifiad o’r llun,

Nicky Enfield, un o drefnwyr y protestiadau yn Washington

"Nid dim ond yn America mae pethau 'ma'n digwydd," meddai Nicky.

"Fe ddechreuodd gyda Brexit, mae democratiaethau'r gorllewin yn cwympo ym mhobman, nid problem Americanaidd yn unig yw hon".

Roedd gen i ddiddordeb mewn cael ymateb rhywun a oedd, fel fi, wedi dewis America fel eu cartref.

'Mae gen i ofn rwan'

Mae Nest Wyn Jones yn byw yn Fflorida gyda'i gŵr a dau o blant: "Mae gen i ofn rŵan, maen nhw'n torri hawliau pobl."

"Dwi'n byw yn America, a mae'r wlad wedi newid ers yr 1980au - dwi ddim yn meddwl fyswn i wedi setlo yma petai pethau wedi bod fel hyn".

Mae Nest yn perthyn i gapel yn Boca Raton, sydd ddim yn bell o Mar a Lago, cartref Donald Trump. Mae ei Eglwys hi'n cynnal digwyddiadau i ddathlu balchder LHDT, ac mae na bolisi 'drws agored i bawb'.

"Nid yw bod yn grefyddol yn golygu bod gen i yr hawl i ddweud wrth bobl eraill sut i fyw eu bywydau a pha ddewisiadau i'w gwneud," meddai Nest.

Disgrifiad o’r llun,

Nest Wyn Jones, Cymraes sy'n byw yn yr Unol Daleithiau ers yr 1980au

Mae'r Unol Daleithiau yn genedl sy'n llawn gwrthgyferbyniadau. Nid oes unrhywbeth ar ôl sydd ddim wedi dod yn rhan o ryfel gwleidyddol.

A gyda'r etholiadau canol tymor ar y gorwel mae'r ffordd y mae Americanwyr yn byw, a'r dewisiadau personol maen nhw'n eu gwneud, yn mynd i benderfynu pwy sy'n ennill ac yn colli yr etholiadau. Mae hyn yn wahanol iawn i adref gan fod y materion yma bellach ddim yn cael eu trafod gan y Llywodraeth yng Nghymru.

Mae'r protestiwr yn Washington DC, Nicky Enfield, yn ofni beth all fod ar y gorwel.

"Ym mis Tachwedd 'mi fydd Roe ar y balot' meddai'r Arlywydd, Joe Biden - ac mae e'n iawn. O dan arlywyddiaeth Trump roedd 'na aflonyddwch sifil ar strydoedd America - gall hyd yn oed mwy o drais ddod o dan yr arlywydd presennol.

"Dim cyfiawnder i ni, dim heddwch iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Roe v Wade yn un o'r prif bynciau trafod yn ystod etholiadau'r 'mid-terms' yn hwyrach eleni.

Hefyd o ddiddordeb: