'Rhaid dangos undod gyda UDA ar ôl colli hawl erthylu'

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr hawliau erthylu ar y Stryd Fawr yng Nghaerdydd yn dal posteri a banerFfynhonnell y llun, Hawliau Erthylu Caerdydd / Tessa Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp o bobl yn gwrthdystio ac ymgyrchu dros hawliau erthylu yng Nghaerdydd yn 2014

Mae menywod o Gymru sydd wedi cael erthyliadau wedi disgrifio penderfyniad yn America i gael gwared ar yr hawl i erthylu fel un "barbaraidd".

Yn 16 oed, cafodd Tessa Marshall o Gaerdydd erthyliad gan ei bod wedi beichiogi'n annisgwyl.

Mae hawl gan bobl yng Nghymru gael erthyliad hyd at 24 wythnos ac os oes risg i'r babi gael ei eni ag anabledd difrifol, mae modd cynyddu'r hyd eto.

Ond yn yr UDA, fe bleidleisiodd y Goruchaf Lys yno dros gael gwared â deddf Roe v Wade, oedd yn caniatáu erthylu hyd at 12 wythnos.

Mae Tessa, sydd bellach yn 26 oed, yn dweud bod y newyddion o America yn "frawychus" a bod angen i bobl yng Nghymru ddangos undod.

Ffynhonnell y llun, Tessa Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tessa'n 16 pan gafodd erthyliad gan iddi feichiogi yn annisgwyl

"Pan o'n i'n 16 yn 'neud arholiadau TGAU fi, o'n i wedi cwympo'n feichiog jyst trwy accident," eglurodd Tessa wrth siarad â BBC Cymru Fyw.

"Roedd angen i fi gael erthyliad, chi'n gw'bod, o'n i'n 16, o'n i ddim yn barod i gael plentyn ac o'n i ddim rili eisiau un chwaith."

Dywedodd ei bod wedi cael cefnogaeth yr ysgol, ei ffrindiau a'i theulu. Ond, heb hynny, yn ariannol ac emosiynol, mae'n dweud y byddai pethau wedi bod yn heriol iawn.

"Ar y pryd, roedd e'n broses rili anodd i fynd trwy.

"Ond os oedden i wedi cael yr erthyliad ar yr NHS, fydda' i wedi aros o pryd es i i'r doctoriaid yn gyntaf - tua chwech wythnos i mewn i'r beichiogrwydd - fydden i wedi gorfod aros rhyw bedair i chwech wythnos arall.

"Os chi o dan tua 10 wythnos dwi'n credu, chi'n gallu cael pill a mae'n eitha' straight forward ond os chi'n mynd dros mae'n fwy o invasive procedure.

"So o'dd rhieni fi wedi talu i fi fynd i'r BPAS clinig yng Nghaerdydd i gael yr erthyliad a dwi'n teimlo'n rili ffodus a privileged am hynny."

'Ofnadwy'

Dywedodd ei bod wedi teimlo "sioc a thristwch enfawr" o glywed am newid deddf yr Unol Daleithiau

"Mae'n rili anodd i feddwl am fenywod a merched a phobl ifanc sydd - ddim trwy fault eu hunain - yn cael yn feichiog ac yn basically cael eu gorfodi i gario beichiogrwydd, mae e jyst yn ofnadwy.

"Ma' rhaid i ni ddangos undod a meddwl am bobl ar draws Ewrop hefyd sydd heb hawliau erthylu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn ymgyrchu yn America dros gadw deddf Roe v Wade ers blynyddoedd

Beth sydd wedi digwydd yn America?

Mae'r Goruchaf Lys wedi rhoi'r caniatâd i daleithiau unigol wahardd neu gyfyngu ar allu menywod beichiog i gael erthyliad.

Yn 1973, fe benderfynodd y llys ar ddeddfwriaeth Roe v Wade, oedd yn galluogi menywod i gael erthyliad yn ystod tri mis cyntaf eu beichiogrwydd.

Nawr, mae'r llys wedi gwrthdroi y ddeddf honno, gan ei gwneud hi'n bosib i daleithiau wahardd erthyliadau.

Beth yw barn y rhai sy'n gwrthwynebu erthylu?

Mae ymgyrchwyr gwrth-erthyliad yn dadlau bod gan bob bod dynol, gan gynnwys embryo neu ffetws, hawl i fyw a chyrraedd eu potensial.

Maen nhw'n ffafrio opsiynau amgen fel mabwysiadu.

Er bod erthylu'n bwnc dadleuol yn UDA, dangosodd arolwg Pew diweddar bod 61% o oedolion y wlad yn dweud y dylai erthylu fod yn gyfreithlon bob amser neu fwyafrif yr amser, tra dywedodd 37% y dylai fod yn anghyfreithlon.

'Stigma anferthol'

Ffynhonnell y llun, Bronwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bronwen - a gafodd dri erthyliad yn ei 20au a 30au - eisiau cefnogi menywod ifanc

Yn ôl Bronwen Davies, 71, o Gaerdydd, a gafodd dri erthyliad pan yn iau, mae'r penderfyniad yn "farbaraidd".

Ychwanegodd nad yw "erioed wedi teimlo cywilydd" am eu phenderfyniadau ac mae ganddi blant sydd bellach yn oedolion.

"Mae 'na stigma anferthol yn dal i fod ynghylch cael erthyliad a siarad amdano.

"Dwi wedi cael tri a dyw hynny ddim yn rhywbeth dwi wedi ei ddweud wrth lawer o bobl oherwydd dwi'n gwybod bod golwg sy'n dal yn gryf fod rhywbeth yn bod arnoch chi os y'ch chi wedi cael tri erthyliad."

Ffynhonnell y llun, Bronwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bronwen Davies wedi disgrifio penderfyniad y Goruchaf Lys yn America fel un "barbaraidd"

Cafodd Bronwen gyngor i beidio cymryd y bilsen atal-cenhedlu pan oedd hi'n ifanc, gan nad oedd mynediad i'r un cyffuriau ag sydd ar gael heddiw yn ei chenhedlaeth hi.

"Fe gwympes i'n feichiog dair gwaith mewn sefyllfaoedd lle doeddwn i ddim eto'n barod i fod yn fam," dywedodd.

Dywedodd i'r meddyg teulu "chwerthin arni" pan ofynnodd am erthyliad.

'O na, dwi ddim yn meddwl, ry'ch chi'n fenyw ifanc ac iach, felly ewch o 'ma gyda'ch babi', oedd geiriau'r meddyg ar y pryd, yn ôl Bronwen.

Yn y pendraw, mynd i glinig elusennol yng Nghaerdydd wnaeth Bronwen, ac yna i Loegr am driniaeth.

'Bydd menywod yn marw'

Erbyn hyn, mae Bronwen yn rhan o Hawliau Erthylu Caerdydd, gafodd ei sefydlu yn 2013 er mwyn protestio'n erbyn grŵp o bobl oedd yn gwrthwynebu erthyliadau.

Dywedodd bod aelodau'r grŵp yn eu dagrau yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys yn yr Unol Daleithiau.

"Mae'n farbaraidd ac mae'n troi'r cloc yn ôl... bydd menywod yn dal i gael erthyliadau ond fyddan nhw ddim yn gyfreithlon, fyddan nhw ddim yn saff a bydd menywod yn marw."

"Dyw e ddim yn ddewis allwch chi wneud i unrhyw un arall, mae'n ddewis sy'n rhaid i chi wneud i'ch hun," dywedodd.

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi anfon llythyr i Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt.

Maen nhw'n galw arni i "gondemnio'n gyhoeddus yr achos erchyll hwn o dorri hawliau dynol" a dweud wrth Lywodraeth y DU y dylai Gogledd Iwerddon gyflwyno'r hawl i erthylu.

Mae'r llythyr hefyd yn galw am gefnogaeth bellach a gwell gofal i bobl sy'n cael erthyliad yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig