Bangor yn 'edwino fesul mis' wrth i'r unig siop lyfrau gau
- Cyhoeddwyd
Mae stryd fawr Bangor yn "edwino fesul mis" wrth i siopau gau, yn ôl un sy'n byw yn lleol.
Fe drodd yr awdur, actor a chyfarwyddwr artistig, Cefin Roberts, at y cyfryngau cymdeithasol i fynegi ei bryder fod unig siop lyfrau'r ddinas ar werth.
Siop WHSmith yw'r unig siop lyfrau swyddogol sydd ar ôl yn y ddinas, sydd â phrifysgol a sawl ysgol uwchradd.
Cadarnhaodd y cwmni bydd eu prif siop yn cau fis Hydref eleni, er y bwriad i barhau i werthu detholiad o lyfrau o'u siop llai, sydd hefyd ar y stryd fawr.
Dywedodd Cefin Roberts bod angen mwy o ddychymyg ar y ddinas er mwyn cynnal dyfodol siopau llyfrau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae'n drist iawn dwi'n meddwl, pan 'nes i basio Smiths diwrnod o'r blaen a gweld arwydd 'ar werth' ar hen, hen adeilad arall yma ym Mangor, yn gwacáu unwaith eto," dywedodd wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.
"Mae'r stryd fawr ym Mangor yn drist fel y mae hi, siopau coffi a siopau elusen sydd 'na fwyaf.
"Dwi'n credu bod 'na rai siopau elusen yn dal i werthu llyfrau, ond wrth gwrs, dydy hynny ddim byd i gymharu â siop lyfrau arbenigol neu siop lyfrau lle gewch chi ddewis y llyfrau diweddara' - ail law ydy'r rheiny.
"Mae'n gwagio yn y ddinas yma ym Mangor... i feddwl ei bod hi hefyd yn ddinas brifysgol, mae hynny'n drist iawn i weld."
Gyda ffigyrau'r siopwyr yn gostwng 20% ers cyn y pandemig, mae sawl stryd fawr yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd bywiogi adeiladau gwag.
Mae'r stryd fawr ym Mangor wedi cael sawl ergyd yn y blynyddoedd diweddar.
Bu'r farchnad ar gau yn ystod y pandemig ac fe gaeodd siop Debenhams, fel yn sawl lleoliad arall ar hyd y wlad.
Ychwanegodd Mr Roberts fod ganddo atgofion o'r dref yn llawn siopau llyfrau yn y gorffennol, ond fod pethau wedi newid dros y blynyddoedd.
"Mae gen i go' plentyn pan o'n i'n dwad i Fangor ac y siopau llyfrau oedd yn denu i Fangor Ucha' ac yn y stryd fawr.
"Nifer o siopau arbenigol ac ail-law oedd yn bleser i fynd yno."
Dywedodd ei fod yn siomedig nad oes siop lyfrau wedi agor yng nghanolfan Pontio yn y ddinas, fel sydd yn Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.
"[Mae'r ganolfan yn Aberystwyth] wastad yn le grêt i fynd i fela ymysg y silffoedd.
"Ond na, ddaeth 'na ddim byd, gofod gwag sydd yn fan 'na [Pontio] hefyd."
Ychwanegodd: "Tref prifysgol 'efo lot o ysgolion uwchradd yma, lot o bobl ifanc yn ymwneud â byd addysg, ysbytai, fyddech chi'n feddwl fod 'na gwsmeriaid yn heidio i brynu llyfra', ond dim un bellach."
Dydy'r pryder am ddyfodol siopau llyfrau ddim yn unigryw i Fangor chwaith.
Dywedodd perchennog Siop y Pethe yn Aberystwyth wrth BBC Cymru Fyw ei bod yn "gyfnod torcalonnus" wedi'r pandemig ac nad oedd dewis ond ystyried dyfodol y busnes.
Yn Llandudno, dywedodd perchennog Siop Lyfrau Lewis ei bod yn "unfed-awr-ar-ddeg" ar siopau llyfrau a nwyddau Cymraeg.
Tra bod eraill, fel perchnogion Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, wedi ehangu'r busnes yn ystod y pandemig ac agor siop arall yn Llanelli.
'Angen mwy o ddychymyg?'
Mae perchnogion siopau yn dweud bod yr arfer o brynu ar y we yn ystod y pandemig wedi newid sut mae pobl yn siopa.
Awgrymodd Cefin Roberts bod angen meddwl yn fwy creadigol er mwyn sicrhau dyfodol i siopau llyfrau.
"Dydw i ddim yn un o'r bobl 'na sy'n prynu rhyw lawer ar y we... falla' 'mod i'n ddeinasor yn hynny o beth... ond mae'n siŵr bod hynny wedi bod yn rheswm cystadleuol," ychwanegodd.
"Ond wedyn pan 'dach chi'n gweld siopau llyfrau bach weithia' mewn dinasoedd, mae 'na un yn y Bae yng Nghaerdydd lle allwch chi brynu coffi a ista' i lawr hefo'ch plant, mae 'na gornel ddarllen i blant a ballu.
"Falla' mai ni i fyny'n fa'ma sydd ddim wedi cael y weledigaeth yna i drio denu pobl i fewn, fel ma tafarndai yn gorfod gwneud.
"Nid gwerthu diod yn unig 'dach chi mewn tafarndai dyddia' yma, mae'n rhaid iddi fod yn hwb cymdeithasol lle gewch chi fwyd, gewch chi sgwrs, gewch chi gwis.
"Efallai bod angen mwy o ddychymyg yn hytrach na un siop lyfrau i ddenu'r cwsmeriaid 'na i fewn fel gwenyn at bot jam.
"Mae o'n drist, dyna pam es i ar y cyfryngau cymdeithasol i fynegi fy nhristwch.
"Mae stryd fawr Bangor fel petai'n yn edwino fesul mis rŵan bellach."
'Ni allwn barhau i fasnachu'n hyfyw'
Mewn datganiad dywedodd WHSmith fod y cwmni wedi penderfynu cau'r siop ym Mangor unwaith y bydd y brydles yn dod i ben.
O ganlyniad mi fydd y brif siop yn cau ei drysau fis Hydref eleni, gan adael uned llai - hefyd ar y stryd fawr - mae'r cwmni yn ei rannu gyda Swyddfa'r Post.
Dywedodd llefarydd: "Yn anffodus, ni allwn barhau i fasnachu'n hyfyw o'r lleoliad hwn ac mae'r penderfyniad wedi'i wneud i gau'r siop o ganlyniad i'r brydles sydd i ddod i ben.
"Rydym yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad ein staff a byddwn yn eu cefnogi drwy'r trawsnewid hwn ac yn eu hadleoli i siopau cyfagos, lle bo modd.
"Gall cwsmeriaid ym Mangor barhau i siopa gyda ni yn ein siop WHSmith arall ar y stryd fawr, a fydd yn cynnwys yr arlwy llyfrau, newyddion a chylchgronau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020