Cynhyrchu siocled yn chwerwfelys wrth i gostau barhau i godi
- Cyhoeddwyd
Mae creu cynnyrch fforddiadwy yn "anodd iawn" medd cynhyrchydd siocled o Gymru, oherwydd y cynnydd diweddar mewn costau.
Yn ôl cwmni siocled o Hwlffordd yn Sir Benfro, chwerwfelys yw creu siocled ar hyn o bryd oherwydd y costau cynyddol sy'n eu hwynebu.
Dywedodd Karen Owen, cyd-gyfarwyddwr Wickedly Welsh Chocolate Company, bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "frawychus".
Gyda'u bariau siocled moethus yn arfer costio £3.99, mae'r cwmni bellach wedi codi'r pris i £4.25, cynnydd o ryw 5%.
'Trydan, cyflogau, cynhwysion, popeth'
Yn ôl Ms Owen, sy'n rhedeg ei busnes ers wyth mlynedd, doedd y penderfyniad i godi'r pris ddim yn un hawdd.
"Y trydan, cyflogau, cynhwysion, popeth fel 'na, maen nhw i gyd wedi cynyddu ac mae wedi bod yn anodd iawn", meddai.
"Dy'n ni wedi bod yma am wyth mlynedd a dy'n ni ddim wedi codi'r prisiau o gwbl ond gyda'r holl godiadau gyda phopeth, doedd dim dewis gyda ni ond i wneud hynny.
"Roedd yn rhaid i ni godi'r prisiau ychydig bach."
"Mae pethau i ni wedi codi 20-30% ac ry'n ni'n gweld hi'n anodd iawn i gadw'r prisiau lawr i'n cwsmeriaid ni.
"Dy'n ni wedi gwneud pethau o fewn y ffatri i gael efficiencies i helpu'r prisiau i'r cwsmeriaid.
"Mae'r prisiau wedi codi i ni ond dy'n ni ddim ar hyn o bryd yn pasio'r prisiau yna i'n cwsmeriaid ni."
Fis Mawrth eleni, fe gyhoeddodd perchnogion cwmni siocled Cadbury eu bod yn lleihau maint un o'u bariau o 200g i 180g, gostyngiad o 10%, ond bod pris y siocled yn aros yr un peth.
Mewn datganiad, fe ddywedon nhw wrth BBC Cymru eu bod wedi gorfod gwneud newidiadau oherwydd bod y cynnyrch yn costio llawer fwy i'w gynhyrchu erbyn hyn.
Yn ôl Kevin White, newyddiadurwr gyda'r cylchgrawn bwyd The Grocer, nid cynhyrchwyr siocled yn unig sy'n cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn costau.
"Dwi'n meddwl bod o'n reit gyffredin dros y diwydiant bwyd i gyd," meddai.
"Os 'dach chi angen rhyw fath o ingredient, fel arfer, mae'r gost yn mynd i fyny.
"Yn enwedig, os ydy'r rheiny yn cael eu mewnforio, er enghraifft siocled, mae'n rhaid i chi gael coco o rywle. Mae'r costau wedi tyfu lot a dim just costau tyfu ond costau mewnforio hefyd."
Fydd cwmnïau'n goroesi?
Er bod Mr White yn cydnabod bod llai o arian gan gwmnïau bach i ddelio â'r sefyllfa, mae'n dweud bod y cwmnïau mawr yn ei gweld hi'r un mor anodd, gyda dyfodol nifer yn y fantol.
"Os 'di pethau ddim yn newid yn y flwyddyn nesaf, a mae lot o rybuddion bod hyn yn mynd i ddigwydd, bydd cwmnïau yn mynd allan o fusnes", meddai.
"Mae'n siŵr eu bod nhw [cynhyrchwyr siocled] yn colli lot o gwsg ynglŷn â sut maen nhw'n mynd i dorri costau a pharhau i gynhyrchu.
"Mae'n bryderus iawn i lot o gynhyrchwyr ar y funud oherwydd y sefyllfa yma."
Er gwaethaf y blas cas sy'n gysylltiedig â'r gost o gynhyrchu siocled, mae'r cwmni o Hwlffordd yn benderfynol o barhau i greu siocled moethus am bris fforddiadwy, a'n ffyddiog bydd cefnogaeth eu cwsmeriaid yn parhau, beth bynnag bo'r pris.
"Mae'n cwsmeriaid ni yn ein hadnabod am wneud siocled moethus a hynny sy'n bwysig i ni nawr ac yn y dyfodol.
"Yn fy marn i, mae pobl eisiau treats, maen nhw'n hoffi siocled, felly dwi'n gobeithio bydd pobl yn dal i brynu siocled."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022