Galw ar fusnesau i ysgwyddo mwy o faich costau byw

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn siopaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r costau cynyddol yn amlwg pan yn siopa neu lenwi'r car yn yr orsaf betrol

Mae'n rhaid i gwmnïau preifat leddfu costau byw cynyddol, yn ôl y 'Tsar' newydd fydd yn ceisio taclo'r argyfwng.

Wrth i brisiau nwyddau barhau i godi, mae'r Cymro sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth y DU wedi galw ar fusnesau i ostwng prisiau.

David Buttress, cyd-sylfaenydd y cwmni Just Eat, fydd yn cynghori Boris Johnson ar y pwnc er iddo fod yn feirniad llym o'i lywodraeth yn y gorffennol.

Dywedodd wrth y BBC mai ei dri mesur llwyddiant fyddai darbwyllo siopau bwyd, cyfleustodau a busnesau hamdden i dorri eu costau i ddefnyddwyr.

Ond yn ôl perchennog cwmni hufen iâ ar Ynys Môn, mae'r costau byw cynyddol yn effeithio ar fusnesau bach yn yr un ffordd.

'Mae'n rhaid iddyn nhw ddod i'r parti a helpu'

Yn gefnogwr amlwg o annibyniaeth i Gymru ac yn gadeirydd ar glwb rygbi'r Dreigiau, mae David Buttress wedi bod yn feirniad llym o record y llywodraeth Geidwadol wrth fynd i'r afael â thlodi - gan hefyd alw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo yn sgil 'partygate.'

Ffynhonnell y llun, Just Eat
Disgrifiad o’r llun,

David Buttress, cyd-sylfaenydd y cwmni Just Eat, fydd yn cynghori Boris Johnson

Ond yn dilyn ei benodiad i'r swydd ddi-dâl, dywedodd, "Os ydych chi'n meddwl am yr holl arian sy'n cael ei wario ar farchnata a sicrhau bargeinion i hyrwyddo rhai o'r gweithgareddau hamdden mawr y mae pobl Prydain yn eu mwynhau - gadewch i ni gymryd peth o'r arian hwnnw.

"Gadewch i ni ganolbwyntio o'r newydd ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl sef gwneud eu prisiau'n fwy cystadleuol fel bod eu harian yn mynd ymhellach a gallant barhau i fwynhau diwrnod allan da fel teulu."

Yn un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus y DU, ymddiswyddodd fel prif weithredwr Just Eat yn 2017.

Bydd ganddo chwe mis yn y rôl, ond dim cyllideb i gynyddu gwariant na phwerau gweinidogol i dorri trethi.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i brisiau bwyd barhau i godi yn y misoedd i ddod

Yn ei gyfweliad cyntaf, dywedodd Mr Buttress wrth y BBC: "[Yn sgil] cost bwyd a nwyddau rwyf eisoes yn dechrau cael sgyrsiau yn y maes hwnnw ac yn siarad â phobl i weld beth allwn ni wneud ynghylch gostwng prisiau a gwneud bargeinion yn well ac arian fynd ymhellach."

Gyda biliau cyfleustodau ac ynni ar fin codi eto yn yr Hydref, ychwanegodd ei fod am weithio gyda'r diwydiant i "lacio'r ergyd a gwneud i arian [defnyddwyr] fynd ymhellach gyda'r cwmnïau hyn. Rwy'n meddwl y dylen nhw helpu - dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw."

'Ystyried o ddifri beth mae wedi'i ddweud'

Ond dywedodd un perchennog busnes wrth y BBC bod maint elw yn gallu bod yn dynn iawn eisoes i gwmnïau cynhyrchu bwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Helen Holland: 'Allwch chi ddim cyffredinoli'

Yn ôl Helen Holland o gwmni Môn ar Lwy, sy'n darparu Hufen Iâ: "Mae'r argyfwng costau byw 'ma yn effeithio ar bob un ohonon ni ond mae'r sgil effaith ar fusnes yn erchyll.

"Mae cost hufen wedi codi bedair neu bump gwaith yn y flwyddyn ddiwetha' a dwi'n cystadlu efo cwmnïau enfawr, i mi sef cynhyrchydd bach yng nghefn gwlad mae'n rhoi fi mewn sefyllfa ofnadwy o anodd.

"Mae'r holl gynhwysion 'da ni'n ddefnyddio i gyd wedi codi [mewn pris], da ni'n gorfod hefyd survivio felly de a mae honno'n lein eitha' tenau i barhau.

"Os ti'n fusnes llewyrchus iawn ar y stryd fawr efallai fod nhw'n gallu gwneud rwbath. ond i gynhyrchwyr bwyd sy'n rhai sylfaenol, hefo'r margin, mae'n rhaid iddo gymryd cam yn ôl ac ystyried o ddifri beth mae wedi'i ddweud.

"Allwch chi ddim cyffredinoli."