Chwilio yn parhau am Gymro ar goll yn Ardal y Llynnoedd

  • Cyhoeddwyd
Richard MilesFfynhonnell y llun, Richard Miles/Heddlu Cumbria
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu Cumbria bod Richard Miles yn heicio ac y gallai fod ger Scafell Pike

Mae'r chwilio yn parhau am ddyn o Gasnewydd sydd wedi mynd ar goll tra'n cerdded yn Cumbria.

Cafodd Richard Miles, 44, ei weld ddiwethaf yn ardal Wasdale yn Ardal y Llynnoedd (Lake District) fore Sadwrn, 2 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Cumbria eu bod yn ymwybodol fod Mr Miles yn heicio ac y gallai fod ger Scafell Pike.

Ond dywedon nhw y gallai hefyd fod yn cerdded mewn mannau eraill yn y rhanbarth.

Yn ôl swyddogion maen nhw'n pryderu am ei les ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Apeliadau cyhoeddus

Fe ddechreuodd nifer o dimau achub mynydd chwilio am Mr Miles fore Llun.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo cap pêl fas llwyd, crys-t llewys byr llwyd a siorts du hir.

Ar Facebook dywedodd Richard Miles ei fod yn gweithio i St Merryn Meats ym Merthyr Tudful.

Mae ei bartner, Nikki Cambell o Gaerffili, wedi diolch i bobl am rannu'r apeliadau cyhoeddus am wybodaeth ac am eu cefnogaeth.

Pynciau cysylltiedig