Dewis Hanan Issa i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hanan IssaFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hanan Issa fydd y pumed bardd cenedlaethol ers i'r rôl gael ei sefydlu yn 2005

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Hanan Issa fydd yn olynu Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru.

Mae Ms Issa yn dod o gefndir Cymreig ac Iracaidd, ac yn ogystal â barddoniaeth mae hi'n artist ac yn gwneud ffilmiau.

Ms Issa fydd y pumed bardd cenedlaethol ers i'r rôl gael ei sefydlu yn 2005, gan olynu Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis.

Cafodd ei dewis gan banel o arbenigwyr, oedd yn cynnwys cyn-Fardd Plant Cymru Casia Wiliam, a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol Ashok Ahir.

Fe fydd Ms Issa yn y rôl am gyfnod o dair blynedd, fydd yn dechrau'r haf hwn.

'Hyrwyddo Cymru a'r iaith Gymraeg'

"Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad hon," meddai Ms Issa.

"Rydw i eisiau i bobl gydnabod Cymru fel gwlad sy'n llawn dop gyda chreadigrwydd; gwlad beirdd a chantorion sydd â chymaint i'w gynnig i'r celfyddydau.

"Rydw i eisiau parhau â gwaith gwych fy rhagflaenwyr, gan hyrwyddo Cymru a'r iaith Gymraeg tu hwnt i'n ffiniau.

"Yn fwy na dim rydw i eisiau ennyn diddordeb ac ysbrydoliaeth y cyhoedd fel eu bod nhw yn gweld eu hunain mewn barddoniaeth Gymreig ac annog synnwyr llawer ehangach o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn Gymry."

Ychwanegodd, er nad yw'n siarad Cymraeg, ei bod yn dysgu am y gynghanedd, a'i bod yn awyddus i arbrofi gyda'r gynghanedd mewn barddoniaeth Saesneg.

Dywedodd ei bod yn gobeithio y gallai hynny fod yn "bont rhwng y Gymraeg a'r Saesneg" ac "annog mwy i ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg".