Dim cyflog llawn yn 'ergyd' i weithwyr â Covid hir
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n dal i fethu dychwelyd i'r gwaith oherwydd effeithiau Covid hir yn poeni am ddyfodol ansicr, yn dilyn newid i'r taliadau arbennig i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.
Ar 1 Gorffennaf, daeth y drefn o dalu cyflog llawn i bobl oedd yn dioddef o symptomau'r salwch i ben, gyda threfn newydd yn ei le yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol.
I'r rhai sydd wedi methu â dychwelyd i'w gwaith am dros flwyddyn, bydd y mwyafrif yn derbyn hanner eu cyflog statudol, yn unol â faint y buon nhw'n gweithio cyn dal Covid.
Yn ôl un oedd yn gweithio fel nyrs yn 2020 ac sydd wedi profi effeithiau Covid hir ers hynny, mae'r newid yn mynd i fod yn "ergyd" iddi a'i theulu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod trefniadau mewn lle i alluogi pobl sy'n sâl â Covid hir i ddychwelyd i'r gwaith dan amodau absenoldeb arferol.
Roedd Leanne Lewis yn gweithio fel nyrs pan gafodd hi Covid yn ystod ail don yr haint yn Hydref 2020.
Bu'n sâl iawn ac roedd yn rhaid iddi gael triniaeth ysbyty am geulad gwaed. Sylweddolodd yn fuan wedyn fod Covid hir arni.
"O'n i just ddim yn gwella, o'n i dal methu anadlu'n iawn, oedd poen drwy nghorff i. Oedd calon fi'n curo'n anghyson, o'n i'n symptomatig drwy'r amser."
Erbyn hyn mae Covid hir yn effeithio ar ei chymalau.
"Mae gen i boen yn fy nwylo a fy nhraed, weithiau dwi methu symud fy mysedd a weithiau dwi methu codi yn y bore."
'Ergyd'
Ar ôl blwyddyn i ffwrdd yn sâl dychwelodd Leanne i weithio mewn swydd arall o fewn y gwasanaeth iechyd ond ymhen tri mis roedd hi'n sâl eto.
Mae hi'n poeni bod y gwasanaeth iechyd newydd roi'r gorau i dalu cyflog llawn i weithwyr gyda Covid hir.
Ymhen tri mis, bydd ei chyflog yn haneru.
"Mae cost of living crisis, mab 'da fi, teulu, mae'n mynd i fod yn real hit i fod yn onest..."
"Dwi yn gobeithio mynd 'nôl ond hefyd fi'n becso bydda' i yn yr un sefyllfa chwe mis, flwyddyn ar ôl mynd 'nôl i'r gwaith.
"Ai dyma fydd y patrwm yn y dyfodol achos 'sneb yn gw'bod digon am Covid hir?"
Beth yw Covid hir?
Covid hir yw pan mae nifer o symptomau'r haint gwreiddiol yn parhau am wythnosau neu fisoedd.
Mae nifer fawr o symptomau gwahanol yn gallu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae blinder, colli blas a thrafferth yn canolbwyntio neu brain fog.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd ddydd Iau, mae yna amcangyfrif bod 96,000 o bobl yng Nghymru yn parhau i ddioddef o symptomau Covid hir.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai blinder mawr yw'r symptom mwyaf cyffredin, gyda 56% o'r nifer yn dweud eu bod yn dioddef o hyn.
Y symptomau cyffredin eraill yw diffyg anadl (31%), colli arogl (22%) a chyhyrau poenus.
Beth sydd wedi newid?
Roedd y taliadau argyfwng, ddaeth i fodolaeth ym mis Mawrth 2020 yn golygu na fyddai salwch oherwydd Covid yn cael ei gyfrif fel rhan o gyfanswm absenoldeb blynyddol gweithwyr.
Roedd hynny'n golygu y byddai cyflog llawn yn cael ei dalu.
O 1 Rhagfyr 2020, pan ddaeth hi'n amlwg fod Covid hir yn salwch oedd yn effeithio ar nifer fawr o bobl, cyflwynwyd trefn o dalu cyflog llawn am hyd at flwyddyn gyda phosibilrwydd o'i ymestyn pe bai rhaid.
Ond nawr bod cyfraddau Covid yn gostwng, y taliadau hynny sydd wedi newid ar 1 Gorffennaf.
Mae gwyddonydd blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor yn dweud bod y cyflwr yn mynd i gael effaith hir-dymor "sylweddol" ar y GIG ac ar wasanaethau eraill.
"Mae rhwng 10% a 25% o bobl sy'n cael Covid yn mynd ymlaen i ddatblygu Covid hir, felly mae o yn rhywbeth sy'n mynd i gael effaith sylweddol ar y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau eraill," dywedodd Dr Dylan Jones.
"Mae'r cwestiwn o ddod i fyw gyda Covid hir fel cymdeithas yn un anodd.
"Mae'r effaith mae'n ei gael ar unigolion yn sylweddol, mae'r effaith mae'n mynd i gael ar wasanaethau yn mynd i fod yn sylweddol felly mae unrhyw beth allwn ni 'neud i leihau faint o bobl sy'n cael Covid yn y lle cynta'n mynd i fod yn help ond mae'n anodd dros ben lleihau heintiadau Covid."
Edrych ar achosion unigol
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod hawl gan sefydliadau edrych ar achosion yn unigol a phenderfynu ar daliadau gwahanol.
"Fe wnaeth GIG Cymru a'r undebau llafur gytuno ar y trefniadau newydd o 1 Gorffennaf," meddai llefarydd, "i helpu'r symud 'nôl i'r termau ac amodau cenedlaethol presennol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020