Ateb y Galw: Yws Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Ywain Gwynedd sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Adam Jones. Mae Ywain yn gerddor ac yn gyn brif leisydd i fand Frizbee ac mae wedi dychwelyd i'r llwyfan i berfformio eleni ar ôl seibiant.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae ffwt yn parc Bryn Coed yn Llan Ffestiniog - gôls pren oedd wedi cael eu gwneud gan tad fy ffrind gorau, weithia efo rhwyd, fel arfer ddim. Smalio bod yn Mark Hughes yn neud overheads a volleys.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Wwwww… newid o bryd i bryd mae'n siwr. Nefyn fel pentre' dwi'n meddwl, ond fel un lle penodol, Stiwdio Bing, Cemaes - fan hyn mae'r band wedi sgwennu'r rhan fwyaf o'r caneuon dwytha' i ni ryddhau - 80% o'r albym Anrheoli a pob sengl wedyn heblaw Deryn Du, gafodd ei sgwennu dros Zoom yn ystod y clo mawr.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cymaint i ddewis, ond ma' siŵr y noson oedd Frizbee yn cau'r penwythnos yn Sesiwn Fawr 2006, gyda tua 6,000 o bobl yn maes parcio'r Marian yn Nolgellau. Oedd y diwrnod fel byw mewn breuddwyd, aeth pob dim cystal â fysa' unrhyw un yn gallu ei obeithio ac oedd y gynulleidfa'n anhygoel.
Roedd 'na 'chydig o sylw wedi cael ei wneud os oedd y trefnwyr wedi gwneud camgymeriad yn rhoi band ymlaen oedd yn eu ugeinia' cynnar, oedd ddim ond wedi bod efo'i gilydd ers tair mlynedd, ond roedden ni mor ddiolchgar fod Ywain Myfyr a chriw'r Sesiwn wedi ymddiried ynddon ni. Aethon ni'n syth adra ar ôl y gig a gwylio fo'n ôl yn tŷ mam a dad ar Sky+.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Boring, cariadus, GWBODYLOT.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Oedd Ows Coch, basydd Frizbee yn gallu rhechan on demand. Os oedda' ni'n teimlo bach yn isel fysa fo'n gorwedd ar ei gefn a neud y tric i rhoi gwên ar wyneb pawb.
Oedd 'na un noson lle oedd 'na rhywun yn neud rhaglen ddogfen efo ni yn y fan ar ôl gig yn Clwb Ifor - oedda' ni'n cysgu yn y bit lle ma' pawb yn mynd allan am ffag dyddia' yma, nath Ows neud y tric am tua hanner awr ac oedda' ni'n crio chwerthin. Had to be there.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cofio mynd i Coleg y Bala i aros efo'r Urdd pan o'n i'n blentyn. O'n i 'di cymyd ffansi at ryw ferch ond oedd gen hi ddim diddordeb, so nes i ddeud bo gena fi gariad yn barod beth bynnag. Nath criw o genod ofyn be' oedd enw hi a nes i ddeud "Flora".
Flora! Fel y marjarin oni 'di rhoi ar fy nhôst y bore yna. Siwr fod neb yn cofio heblaw fi, ond dwi dal ddim yn gwbod pam nes i ddeud hynna.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi fy ngwinedd a gadael y gwinedd o gwmpas y tŷ a yfed cwpl o boteli cwrw yn tŷ yn y nos am ddim rheswm penodol.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albwm a pham?
Newydd wylio Everything, Everywhere, All at Once a mae o probs y peth mwya gwreiddiol dwi erioed wedi wylio. Mae pob peth sy'n 'hoff' gena'i yn newid o wythnos i wythnos, ond dwi'n dychwelyd at gerddoriaeth yn amlach na dim byd arall.
Fedrai'm rili gwylio ffilm neu darllen llyfr mwy nag unwaith, gan bo' fi'n gwbod be' sy'n mynd i ddigwydd nesa', ond ma' albyms da yn gallu sortio fi allan yn dibynnu ar pa dymer dwi mewn.
Nostalgia fy ieuenctid fysa Youth & Young Manhood gan Kings of Leon, dwi wedi gwrando ar Modern Times gan Bob Dylan fwy aml na'r un albym arall mwy na thebyg, ond dwi hefyd yn cofio gwrando ar un ochr Fuzzy Logic gan SFA bob nos cyn mynd i gysgu am tua blwyddyn (ar dâp), so dwi 'di gwrando ar honna tua 100 gwaith o leia'.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Marw - Karl Marx. Dwi jyst isio gwbod be' fysa fo'n neud o'r holl fuss. Byw - Bob Dylan. Swni'n lyfio bod yn grympi efo fo a sôn am petha boring fel garddio, teithio a gwaith metal (ma'n weldio giatiau allan o ddeunyddia wedi ailgylchu yn ôl y sôn)
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i'n chwarae gyda Dean Ashton a David Vaughan yn tîm dan 14 Crewe Alexandra. Ges i'n newis i dîm Colegau Cymru yn 18 ond nes i erioed gael cap oherwydd fod foot and mouth wedi digwydd a'r gemau wedi eu canslo.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Garddio probs. Yr unig le dwi'n teimlo'n eitha' ymlaciedig. Tiwns ymlaen, crïo, chwerthin a chwynnu.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
'Di bod drwy eitha' lot yn y ddegawd dwytha', ma' rhain 'di cael fi drwy pob dim. Mor anodd ag ydi bod yn riant, mae o'n rhoi perspectif gwahanol ar fywyd a pwrpas i gario 'mlaen.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dwi'm isio bod yn neb arall ond 'swn i ddim yn meindio bod yn Jacinda Ardern. Mai weld fel y fath o berson sy'n gallu rhoi gwlad cyfa' cyn ei hun a ti angen moesau cryf i wneud hynny.
Hefyd o ddiddordeb: