Hedfan person i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae hofrennydd wedi cludo person i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Fabian yn Abertawe.
Mae'r claf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi i'r gwasanaeth ambiwlans gael eu galw tua 14:25 ddydd Sadwrn.
Cafodd cerbyd ymateb cyflym ac ambiwlans eu hanfon i'r ardal, ger Gwesty'r Village, yn ogystal â'r ambiwlans awyr.
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad ac fe wnaeth Heddlu De Cymru apelio ar yrwyr i osgoi'r ardal.