Cymhariaeth Bryn Terfel yn 'glod a phwysau' i ganwr ifanc
- Cyhoeddwyd
"Anrhydedd enfawr" oedd ennill cystadleuaeth canwr ifanc gorau'r byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni, medd Emyr Lloyd Jones.
Wedi ei berfformiad nos Sadwrn cyfeiriwyd at y bariton, 25 ac o Bontnewydd ger Caernarfon, fel y Bryn Terfel newydd wrth iddo ennill gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol ar ben-blwydd yr eisteddfod yn 75.
Yn ôl y beirniaid roedd hi'n gystadleuaeth agos rhyngddo ef a'r soprano Oksana Lepska o Latfia.
Roedd 20 wedi cystadlu am y wobr - fe wnaeth chwech gyrraedd y rownd gyn-derfynol ac roedd dau yn perfformio ar y llwyfan.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd ei bod yn "brofiad anrhydeddus iawn derbyn gwobr fel hyn".
"Mae'r profiad o gystadlu yn bwysig iawn ac yn datblygu ni fel cantorion," meddai.
"O'dd hi'n hyfryd cael bod 'nôl wedi tair blynedd o seibiant yn sgil y pandemig.
"Dydi petha' ddim cweit yr un fath ond mae'n braf clywed y corau a chael dawnswyr dros y byd i gyd dal yn dod 'nôl i Langollen - mae'n ŵyl ac eisteddfod mor unigryw.
"O'dd hi'n fraint cael canu ar y llwyfan eto ac yn unigol am y tro cyntaf hefyd."
Fe gafodd Emyr Lloyd Jones glod anhygoel gan y beirniaid wedi iddo berfformio Y Cymro gan Meirion Williams, Hai gia vinta la causa o The Marriage of Figaro, Mozart a The Cloths of Heaven - perfformiad o eiriau gan WB Yeats.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, Camilla King, bod ei lais yn ei hatgoffa o lais y canwr byd-enwog Syr Bryn Terfel yn ei flynyddoedd cynnar.
"Nid dim ond canu y mae ond mae ei lais yn mynd â chi ar daith," meddai.
"Dwi'n credu bod gan Emyr y gallu i fod yn seren y dyfodol ar yr un raddfa â Bryn Terfel.
"Roedd y ddau a wnaeth gyrraedd y rownd derfynol eleni yn eithriadol ac fe fyddwn yn gweld y ddau yn perfformio yn y blynyddoedd sydd i ddod."
Ychwanegodd Mr Lloyd Jones: "Dwi'n ddiolchgar iawn am y clod o gael fy nghymharu i Bryn Terfel, ond mae'n lot o bwysau hefyd."
Mae'r bariton wedi bod yn astudio yng Ngholeg Brenhinol y Gogledd ym Manceinion am chwe blynedd, ac fe fydd yn treulio'r ddwy flynedd nesaf yn astudio opera yn y Guildhall yn Llundain.
Roedd hefyd yn derbyn £3,000 a dywedodd y byddai'r arian yn ei gynorthwyo i fyw yn Llundain ar gyfnod lle mae costau byw yn uchel.
Doedd yna fawr o amser i ddathlu gan ei fod bellach yn Llundain yn ymarfer ar gyfer sioe y British Youth Opera ym mis Awst.
Yn ystod y misoedd nesaf mae'n gobeithio canu ym Mhatagonia gan bod ei ddyweddi yn treulio blwyddyn a hanner yno yn dysgu cerddoriaeth yn Ysgol yr Hendre, Trelew.
Enillwyd cystadleuaeth Côr y Byd eleni gan gôr CF1 o Gaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022