Annog cwmnïau Cymreig i allforio er y gwaith papur
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Cymreig sy'n cynhyrchu ceir ralïo i'w hallforio yn dweud bod "annibendod" rheolau masnach ers Brexit yn effeithio ar ddyfodol y busnes.
Ers bron i 25 mlynedd mae Meirion Evans wedi creu ceir sydd yn cystadlu ar draws y byd.
Ond dywedodd Mr Evans ei fod wedi "digalonni" erbyn hyn gyda'r gwaith papur sydd ynghlwm ag allforio i'r Undeb Ewropeaidd.
Er hyn mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o fusnesau i allforio, tra bod rhai cwmnïau eraill yn hyderus am y cyfleoedd i werthu dramor.
'Absoliwt annibendod'
Gwerth allforion o Gymru oedd £15.2 biliwn yn 2021.
O gymharu â lefelau cyn-bandemig yn 2019, mae allforion wedi gostwng £2.5 biliwn neu 14.3%.
Ar draws y DU gyfan bu gostyngiad o 8.9% yng ngwerth allforion rhwng 2019 a 2021.
Ger Castell Newydd Emlyn yn Sir Gâr mae Meirion Evans yn adeiladu'r ceir ralïo. Gyda chriw bach o arbenigwyr, mae'r cerbydau wedi'u gwerthu i bedwar ban byd.
Mae Mr Evans yn dweud fod 70% o'r ceir yn mynd i'r farchnad dramor, ond mae hefyd yn gorfod mewnforio sgerbydau'r ceir o Ewrop yn y lle cyntaf.
Felly mae ei fusnes yn un wnaeth ddod i ddibynnu ar y fasnach rydd oedd yn bodoli rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.
"Dwi wedi cael llond bola arno fe, yn llwyr," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
Mae gwraig Mr Evans wedi dechrau gweithio yn rhan amser yn y garej i weinyddu'r allforion i Ewrop, gan rannu ei hamser fel pennaeth Mathemateg mewn ysgol leol.
"Oherwydd bod ni yn gwneud shwt gymaint mas o'r wlad, mae lot o waith papur," meddai Mr Evans.
"Nid yn unig pan rydyn ni'n gwerthu'r car, ond cael y sgerbwd mewn - sef be rydyn ni yn galw'r donor car. Mae'n rhaid i ni gael nhw o Ewrop.
"Felly ry'n ni gorfod mynd trwy'r routine o'r gwaith papur i gael nhw mewn yn iawn. A mae fe'n absoliwt annibendod.
"Ni wedi gorfod tynnu Ann, y wraig, mas o'i swydd fel pennaeth Mathemateg mewn ysgol dda yng Nghymru, rhan amser, jyst i helpu ni mas oherwydd dwi ddim yn gallu gwneud y cwbl."
Amheuon ar ôl Brexit
Bydd ceir o Gastell Newydd Emlyn yn cystadlu yn ralïau yn Ewrop ac mor bell i ffwrdd â Seland Newydd cyn diwedd y flwyddyn.
Ond mae Meirion Evans yn dweud y profiad ers Brexit wedi gwneud iddo ail-feddwl y cwbl.
"Dwi'n 'neud y job yma yn tynnu am 25 mlynedd erbyn nawr. Ers Brexit dwi wedi digalonni tamaid gyda'r gwaith.
"Bydde fe ddim yn cymryd llawer i ddod mas o'r gwaith a gwneud rhywbeth llawer hawsach. Gweithio mewn Tesco, neu rywbeth. Mae fe yn llwyth o annibendod ac mae fe yn digalonni chi."
Does dim dwywaith bod y berthynas newydd gyda'r UE, ynghyd â'r pandemig, wedi creu cyfnod heriol i fusnesau sy'n allforio i Ewrop.
I gwmni fel Asbri Golf yng Nghaerffili, mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn dymhestlog iawn.
Mae dros hanner trosiant y cwmni yn dod o'r farchnad dramor, gyda diddordeb mawr yng Ngogledd America ac Asia.
Ond mae'r rheolwr gyfarwyddwr, Eryl Williams yn hyderus am y dyfodol.
"Mae wedi bod yn anodd, ond mae yn anodd i allforio," meddai Mr Williams.
"Dyw e ddim mor hawdd ag oedd e pan oedden ni dal o fewn yr EU. Faswn i yn bersonol yn hoffi pe bai ni dal i fewn.
"Ond mae'n rhaid i ni ddelio â be sy' gynom ni o'n blaenau ni, ac mae i fyny i ni fel busnesau i weithio yn galed iawn i 'neud iddo fe weithio, ac i wneud yn siŵr bod llwyddiant rhyngwladol yn parhau."
Cyfle i fusnesau Cymreig llwyddo
Mae Llywodraeth Cymru eisiau cynyddu allforion, ond yn cydnabod bod rhai yn amheus am sut i gyrraedd y farchnad sy' ar ein stepen drws.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wrth BBC Cymru fod marchnad fewnol y DU yn arwyddocaol, ond bod "byd ehangach" yn bodoli i fusnesau.
"Rydym eisoes yn gwneud llawer o fasnach gyda gwahanol rannau o'r byd," meddai.
"Gwyddom hefyd fod rhai pobl yn poeni mwy am allforio, gyda'n perthynas newydd ag Ewrop.
"Dyna pam rydyn ni'n gwneud ymdrech fwriadol i annog busnesau i ddal i ystyried hynny. Mae gennym ni amrywiaeth o grwpiau i helpu pobl i rannu gwybodaeth, oherwydd gall hyn fod yn rhan o fod yn fusnes llwyddiannus iawn.
"Mae marchnad y DU yn wirioneddol fawr ac arwyddocaol, ond rydym hefyd yn gwybod bod byd ehangach i fasnachu ag ef.
"Ac rydyn ni eisiau i fusnesau Cymreig fod yn rhan o lwyddiant y dyfodol."
Mae'r athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru yn cydnabod i Brexit greu heriau i fusnesau, ond bod angen manteisio ar gyfleoedd newydd hefyd.
Dywedodd: "Mae lot yn dweud fod Brexit yn broblem. Ond i bob problem mae 'na gyfle, hefyd.
"Ac i lot o gwmnïau mae wedi bod yn gyfle iddyn nhw ail-edrych ar eu strategaethau allforio, ac i edrych lle maen nhw yn medru gwerthu'r nwyddau a'r gwasanaethau i farchnadoedd hollol newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022