Brexit yn dal yn ergyd 'syfrdanol' i fusnesau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffatri Hiut Denim Co.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cwmni jîns Hiut Denim Co. yn Aberteifi, mae sgil effeithiau Brexit ar fusnesau bach yng ngorllewin Cymru yn heriol

Dros flwyddyn wedi Brexit, mae busnesau o Gymru'n dweud eu bod nhw'n dal i deimlo'r ergyd, gyda llai o werthiant yn Ewrop.

Yn ôl Hiut Denim Co. yn Aberteifi, mae'r gwerthiant ar y cyfandir wedi disgyn 36% tra bod costau tanwydd wedi cynyddu 30%.

Dywedodd Cwmni Bwydydd Pero ym Metws-y-coed wrth raglen Newyddion S4C fod dirywiad o 86% wedi bod yn eu gwerthiant yn Ewrop.

Ond mae'r gweinidog dros gyfleon Brexit yn dweud mai ychydig o dystiolaeth sydd yna i ddangos yr effaith negyddol ar fasnach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Hieatt o gwmni Hiut Denim Co. bod yn rhaid gweithio'n fwy caled oherwydd sgil effeithiau Brexit

Mae'n 20 mlynedd bellach ers i ffatri jîns Dewhirst gau yn nhref Aberteifi, arweiniodd at golli bron i 400 o swyddi.

Erbyn hyn, mae cwmni Hiut Denim Co. yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd y gweithlu'n lleol i greu jîns unwaith eto.

Ond mae cyd-sylfaenydd y cwmni, David Hieatt yn dweud bod rhaid gweithio'n galetach nawr yn sgil effeithiau heriol Brexit.

"Mae'n siomedig gan fod busnes yn anodd ar y gorau," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae'n rhaid ennill cwsmer, yna'i gadw, ond yn sydyn, dyw'r cwsmer ddim yn gwybod beth fydd y gost a chi'n mynd i golli'r cwsmer oherwydd diffyg eglurder.

"Felly yn anffodus dyw Brexit ddim o gymorth i fusnes bach yng ngorllewin Cymru."

'Yn bendant yn anoddach'

Fe adawodd y Deyrnas Unedig system fasnach yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2021, gyda'i masnach bellach yn cael ei weinyddu gan gytundeb ôl-Brexit.

Ers hynny, mae busnesau wedi wynebu gwaith papur ychwanegol a mwy o waith gwirio ar y ffiniau wrth i ddeunyddiau gael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd.

Proses, yn ôl Mr Hieatt, sydd yn cael effaith ddinistriol ar fusnes.

"Mae Ewrop wedi bod yn bwysig iawn i ni, ond ers Brexit, mae gwerthiant wedi disgyn o 36%. Mae costau cynhyrchu yn sgil prisiau tanwydd wedi codi 30% felly mae bendant yn anoddach," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jonathan Rees, cyfarwyddwr Bwydydd Pero, mae Brexit wedi cael effaith "syfrdanol" ar y cwmni bwyd ci

Mae Bwydydd Pero yn dweud iddyn nhw golli gwerth tua £750,000 o fusnes i gwsmeriaid o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cyfarwyddwr y cwmni bwyd ci, Jonathan Rees, yn dweud fod yr agwedd o San Steffan wedi bod rhywfaint yn ddiystyriol, ac nad oes ganddo ffydd y bydd pethau'n gwella.

"Mae Brexit yn cael effaith syfrdanol arnom ni fel cwmni," meddai.

"Ni 'di gweld dirywiad o 86% yn ein trosiant mewn i Ewrop. Wedd Gweriniaeth Iwerddon yn gwsmer mowr a ni 'di colli popeth sy'n mynd draw i'r Weriniaeth.

"Ydy, mae'r ochr gwaith papur a gweinyddol yn un peth, ond achos ein bod ni'n gwmni bychain, dy' ni ddim yn gallu llenwi lorïau llawn, felly ni'n gorfod bod yn rhan o lwyth arall ac mae lot o'r cwmnïau trafnidiaeth yn gwrthod cyfuno llwythi bach gyda llwythi eraill rhag ofn bod 'na broblem gyda'r gwaith papur gydag un cwmni sydd yn rhwystro gweddill y nwyddau rhag croesi'r ffin."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith papur a phroblemau gyda llwytho lorïau yn rhai o'r heriau sy'n wynebu cwmnïoedd fel Bwydydd Pero

Fel gweinidog yn Swyddfa Cymru, mae David TC Davies AS yn mynnu bod 'na ragor o gyfleon erbyn hyn i fusnesau, gyda marchnadoedd wedi agor i gwmnïau mewn llefydd fel Asia ac Awstralia.

"'Dan ni wedi cael blwyddyn anodd iawn oherwydd Covid, ac mae cwmnïau ledled y byd yn dioddef ar hyn o bryd" meddai.

"Ond mae'r sefyllfa nawr wrth edrych ymlaen yn dda iawn.

"Y ffaith yw ein bod ni'n gallu parhau i allforio i'r UE, a hefyd yn cael y posibilrwydd o gael cytundebau masnach gyda gwledydd eraill ledled y byd."

Mae adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud fod trefniadau newydd ar gyfer y ffin rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd wedi ychwanegu at gostau allforio.

Yn ôl pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol, mae masnach wedi'i llethu ers i'r Deyrnas Unedig dorri cysylltiadau masnach ffurfiol ym mis Ionawr 2021, a hynny yn sgil cyfuniad o Brexit, Covid a phroblemau ariannol byd-eang.

Mae'r cyfuniad hwn wedi arwain at ostyngiad yn allforion cig coch o Gymru.

Yn 2021, roedd yna 11% yn llai o allforion cig eidion o'r Deyrnas Unedig, gydag 20% yn llai o gig oen.

Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith papur yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r rheiny sy'n allforio cig, yn ôl John Richards

Yn ôl rheolwr datblygu diwydiant Hybu Cig Cymru, John Richards, does dim gwadu fod y pandemig wedi cael effaith, ond mae Brexit yn her o hyd.

"Yr her fwyaf i ni dros y flwyddyn ddiwethaf yw'r gwaith papur ychwanegol sydd ei angen er mwyn allforio cynnyrch," meddai.

"Mae'r gwaith papur ychwanegol hynny yn gofyn am fwy o adnoddau, mwy o amser, ac mae hyn oll yn costio mwy i'r bobl sy'n allforio."

Mae'n dweud bod allforio cig coch i'r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol.

"Ni'n allforio un rhan o dair o'r hyn ni'n ei gynhyrchu yma yng Nghymru, ac mae tua 95% o'r hyn ni'n allforio yn mynd i Ewrop."

Pynciau cysylltiedig