Ffermwyr yn rhybuddio bod chwyddiant yn bygwth busnesau
- Cyhoeddwyd
Mae costau cynyddol yn golygu y gallai rhai busnesau cynhyrchu bwyd fynd i'r wal, yn ôl ffermwyr.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae chwyddiant yn cyfateb i 9.1% yn y flwyddyn hyd at fis Mai - y lefel uchaf ers 40 mlynedd.
Dywedodd un ffermwr wyau, Llyr Jones, bod costau bwydo'i ieir wedi cynyddu £20,000 y mis.
Yn ôl pennaeth un archfarchnad, mae cwsmeriaid bellach yn prynu llai o fwyd wrth i brisiau godi.
'Rhaid i ni fenthyg pres'
Prisiau tanwydd a bwyd sydd yn effeithio ar gyllidebau aelwydydd, ond mae'r un pwysau yn wynebu ffermwyr wrth iddyn nhw gynhyrchu bwyd.
Costau cynyddol ar gyfer gwrtaith, bwyd anifeiliaid a disel sy'n creu cur pen i ffermwyr wrth drio talu eu biliau.
Mae gan Llyr Jones 32,000 o ieir ar ei fferm, Derwydd, ger Llanfihangel Glyn Myfyr yng Nghonwy.
Bob dydd mae dros 30,000 o wyau yn cael eu cynhyrchu ar gyfer silffoedd Tesco.
Costau bwyd yr ieir sydd wedi gweld cynnydd mawr ers y rhyfel yn Wcráin, gyda'r gost fisol yn codi o £32,000 i £52,000.
Ar ôl i'r rhyfel ddechrau "fe wnaeth pris ŷd godi yn ofnadwy," meddai Mr Jones. "70% o'u bwyd nhw ydy ŷd."
Ynghyd â chostau eraill, mi fydd y fferm yn gorfod dibynnu ar gefnogaeth y banc nes y bydd y sefyllfa'n gwella.
"Fydd rhaid i ni fenthyg pres tan fyddwn ni yn dod allan, bydd angen writeio eleni i ffwrdd," meddai.
Straen ofnadwy ar y farchnad
Tra bod Llyr Jones yn bwriadu dal ati, mae rhai ffermwyr eraill wedi mynd i'r wal.
Mae'r diwydiant wyau yn crebachu, gyda llai ohonynt yn debygol o ddod i'r farchnad yn y misoedd nesaf.
Dywedodd Mr Jones: "Dwi yn ffyddiog mae'r pris yn mynd i godi, oherwydd fel mae'n mynd rŵan, mae dros chwe miliwn yn llai o ieir wedi cael eu rhoi fewn i ddodwy.
"Felly mae hwnna yn mynd i roi straen ofnadwy ar y farchnad yn y tri mis nesaf 'ma, ac mi fydd y niferoedd o wyau yn dod yn llai."
Ar fferm yn Llanllechid ger Bethesda mae'r tyfwr llysiau, Chris Jones, hefyd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Ei rieni brynodd y fferm yn yr 1950au ac mae wedi adeiladu busnes yn tyfu llysiau a'u gwerthu i bobl leol - busnes wnaeth dyfu'n gyflym yn ystod y pandemig.
Mae Mr Jones wedi gorfod codi £1 yn ychwanegol am focs o lysiau, a hynny ar ôl dim ond codi'r pris £3 yn y 10 mlynedd ddiwethaf.
"Mae gwrtaith wedi codi 300%. Mae cost disel i'r faniau yn erchyll," meddai.
Mae wedi dyblu'r cyflog y mae'n ei dalu i'w unig aelod o staff, a bydd yn ceisio amsugno tua hanner y costau uwch y mae ei fferm yn eu hwynebu.
"Roedd rhaid i ni wneud rhywbeth eleni i oroesi. 'Da ni wedi adeiladu'r busnes, heb ddim cymorth grantiau ag ati, i gyd ar ein pennau ein hunain. Felly dydyn ni ddim am ei golli," meddai.
Mae prisiau eisoes yn codi mewn archfarchnadoedd, ond nid digon i dalu'r costau sy'n wynebu'r cynhyrchwyr.
Yn siop Filco yn Llanilltud Fawr mae pris llaeth yn cael ei adolygu pob pedair wythnos, wrth i'r cwmni orfod cefnogi ei gyflenwyr tra'n ceisio cadw prisiau'n isel i gwsmeriaid.
"Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd a pharhaus am godiadau costau gan gyflenwyr, felly mae'n ddigwyddiad dyddiol nawr. Bydd rhai pethau'n codi o wythnos i wythnos," meddai cyfarwyddwr Filco, Matthew Hunt.
Dywedodd Mr Hunt ei bod yn "anochel" bod rhai o'r costau uwch yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid.
Mae patrymau gwariant y cwsmeriaid wedi newid hefyd.
"Rydyn ni'n addasu ein nwyddau i gwrdd â'r galw gan ein cwsmeriaid," ychwanegodd Mr Hunt.
Mae'r cwmni'n cadw golwg ar y gost ar gyfartaledd mae cwsmeriaid yn talu am fasged o fwyd.
"Mae'r gost hynny wedi bod yn weddol gyson, sy'n awgrymu bod yna ostyngiad mewn gwirionedd yn nifer yr eitemau yn y fasged oherwydd, fel y gwyddom, mae prisiau wedi codi," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022