Gareth Bale yn targedu Euro 2024 - a Chwpan y Byd 2026?
- Cyhoeddwyd
Mae capten Cymru Gareth Bale yn targedu Euro 2024 - ac efallai Cwpan y Byd 2026 - ar ôl datgan ei fod wedi ymuno â Los Angeles FC am y tymor hir.
Ymunodd y blaenwr 32 oed â LAFC ar drosglwyddiad am ddim o Real Madrid, gydag opsiwn i aros am dymor 2024 hefyd.
Fe wfftiodd Bale - sy'n troi'n 33 oed yn ddiweddarach yn yr wythnos - y syniad ei fod ond wedi arwyddo er mwyn bod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.
"Mae bod yma yn rhoi'r cyfle gorau posib i mi gyrraedd yr Ewros a, wyddoch chi byth, efallai un arall," meddai.
"Mae gen i flynyddoedd lawer i ddod o hyd. Dydw i ddim wedi dod yma dim ond i fod yma ers chwech neu 12 mis. Rwyf wedi dod yma i geisio bod yma mor hir â phosib.
"Mae'n rhoi'r cyfle gorau i mi ddal ati i'r Ewros nesaf, efallai ymhellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022