Rhieni Cwm Tawe i herio penderfyniad i gau tair ysgol
- Cyhoeddwyd
Fe fydd penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol Saesneg yn cael ei herio yn y llysoedd
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi llwyddo i sicrhau adolygiad barnwrol oherwydd pryderon am effaith codi un ysgol Saesneg newydd sbon yn ardal Pontardawe yn eu lle.
Dywedon nhw wrth Newyddion S4C nad yw'r broses ymgynghorol wedi ystyried yr effaith ar y Gymraeg.
Dywedodd y cyngor y byddai'n adolygu'r penderfyniad, ond nid oedd am wneud sylw pellach.
Bwriad y cyngor ydy cau tair ysgol Saesneg yn ardal Pontardawe - Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg - er mwyn sefydlu un ysgol Saesneg fawr ar safle Parc Ynysderw.
Poeni mae RhAG y byddai codi ysgol Saesneg ym Mhontardawe yn amharu ar ddefnydd o'r Gymraeg yn y cylch.
Gydag ysgol Saesneg newydd sbon yn yr ardal, maen nhw'n amau y gallai rhieni ddewis anfon eu plant yno yn hytrach nag i'r ysgol Gymraeg leol.
Mewn datganiad, dywedodd Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gweithredol RhAG, "nad ar chwarae bach y penderfynodd RhAG ymgymryd â chais am adolygiad barnwrol yn yr achos hwn".
"Rydym yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu inni fwrw ymlaen hefo'r adolygiad barnwrol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn penderfyniad terfynol y Llys.
"Mae'r sefyllfa wedi achosi cryn ofid inni fel mudiad, ac yn ehangach yn y gymuned ym Mhontardawe, yn arbennig gan fod y Cyngor eu hunain yn cydnabod fod yr ardal yn un o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol."
'Adolygu'r penderfyniad'
Fe gollodd y Blaid Lafur rym ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, a bellach clymblaid rhwng carfanau annibynnol a Phlaid Cymru sy'n ei reoli.
Mae'r cyngor newydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n adolygu'r penderfyniad i gau'r tair ysgol yng Nghwm Tawe, ond mewn ymateb ddydd Mawrth fe ddywedon nhw na fyddai hi'n briodol i wneud sylw pellach tra bod y broses gyfreithiol yn mynd rhagddi.
Mae RhAG yn dweud y bydd gwrandawiad yr adolygiad barnwrol yn cael ei gynnal ar 18 ac 19 Gorffennaf yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd, ac y byddan nhw'n cael eu cynrychioli gan Gwion Lewis QC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021