Cwm Tawe: Oedi cynlluniau i godi ysgol Saesneg newydd

  • Cyhoeddwyd
Cae

Mae'r Gweinidog Addysg wedi oedi cynlluniau i godi ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i dros 750 o blant ym Mhontardawe.

Mae pryderon am ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Nghwm Tawe yn sgil bwriad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol Saesneg ac adeiladu safle newydd erbyn mis Medi 2024.

Y cynllun yw cau ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn Alltwen, Llangiwg yn Ynysmeudwy a Godre'r Graig, a chodi ysgol fawr ym Mhontardawe yn eu lle.

Yn ôl y cynlluniau, fe fydd lle yn yr ysgol newydd ar gyfer 630 o ddisgyblion llawn amser, a 140 o blant meithrin rhan-amser.

Fe fydd canolfan arbenigol newydd hefyd ar gyfer plant sydd ag awtistiaeth, a phwll nofio newydd.

Ond dywedodd Jeremy Miles wrth raglen Newyddion S4C nos Fawrth: "Ma' swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd gyda'r cyngor wythnos nesa i drafod hyn.

"Ac mae'r cynnig o ran ariannu wedi ei oedi tan bod y trafodaethau hynny yn digwydd er mwyn edrych yn fwy manwl ar y cynlluniau a'r impact ar yr iaith."

Roedd dros 600 o bobl wedi ymateb yn erbyn y cynlluniau yn ystod cyfnod o ymgynghori dros y gaeaf, a 21 o bobl o blaid y cynnig.

Mae gan drigolion yr ardal tan 14 Gorffennaf i fynegi barn ar y cynlluniau cyn bod y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol.

"Dydyn ni ddim yn gallu gwneud unrhyw sylwadau pellach tra bod yr ymgynghoriad yn parhau," meddai'r cyngor yn gynharach ddydd Mawrth.

'Diffyg ystyriaeth am yr iaith'

Cludiant, lles y plant ac effaith cau ysgolion ar gymunedau lleol yw rhai o'r prif bryderon sydd wedi codi.

Ond mae cwestiynau hefyd ynglŷn ag effaith ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar iaith ac addysg Gymraeg yr ardal.

Mae Rebecca Phillips yn fam i ddau o blant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Phillips, sy'n fam i ddau o blant, bod y cynllun i agor ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn yr ardal yn ei "phryderu"

Dywedodd Ms Phillips: "Fel rhywun sydd wedi dewis addysg Gymraeg i fy mhlant, mae fe yn pryderu fi - y neges mae fe'n rhoi i'r gymuned.

"Mae'n pryderu fi bod nhw'n agor ac yn rhoi buddsoddiad mawr i addysg cyfrwng Saesneg yng Nghwm Tawe pryd mae canran uchel o blant ac o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

"Fi'n credu gyda'r cynnig o bwll nofio newydd a chyfleusterau newydd sbon bydd e'n tynnu pobl mewn i addysg cyfrwng Saesneg lle fallai bydden nhw, cyn i'r ysgol gael ei hadeiladu, yn dewis ysgolion Cymraeg fel Pontardawe neu Trebanws, felly bydd hwnna yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg yn ardal Cwm Tawe."

Ychwanegodd Ms Phillips bod pryder ymysg nifer am y "diffyg ystyriaeth am yr iaith yn y cynllun ac yn yr ymgynghoriad yn gyffredinol".

'Chwalu gobaith am adfywiad'

Mewn datganiad ar ran Dyfodol yr Iaith, fe ddywedodd Heini Gruffudd: "Byddai codi ysgol gynradd enfawr ym Mhontardawe yn chwalu unrhyw obaith i adfywio'r Gymraeg yn y cwm.

"Ar hyn o bryd mae tua 500 o blant mewn tair ysgol Saesneg leol. Byddai modd anelu at Gymreigio'r ysgolion hyn, gan eu bod yn ysgolion cymunedol.

"Ond byddai cau'r rhain a'u huno mewn ysgol i 700 yn debygol o wneud y Saesneg yn brif gyfrwng addysg yng Nghwm Tawe.

"Mae'n dristwch meddwl bod ardal â thraddodiad Cymraeg hir yn mynd i gael ei Seisnigo i'r fath raddau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Williams, Aelod o'r Senedd dros De Orllewin Cymru, bod y mwyafrif helaeth o bobl yn y gymuned yn erbyn y cynlluniau

Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, a ddigwyddodd rhwng mis Tachwedd 2020 a Ionawr eleni, fe ddywedodd adroddiad y cyngor nad oes tystiolaeth mewn ardaloedd eraill o Gastell-nedd Port Talbot bod agor ysgolion cyfrwng Saesneg newydd wedi effeithio ar niferoedd ysgolion Cymraeg yr ardal.

Mae adroddiad y cyngor hefyd yn pwysleisio'r buddsoddiad yn Ysgol Uwchradd Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur. Agorwyd adeiladau newydd ar y safle yn 2017.

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros De Orllewin Cymru, Sioned Williams: "Mae'r gymuned yn anghrediniol.

"Fe gynhaliwyd yr ymgynghoriad yn ystod y pandemig ac yn erbyn cefndir o gyhuddiadau yn erbyn cyn-arweinydd y cyngor oedd yn honedig wedi datgan bod e o blaid y cynllun cyn bod y cynllun wedi cael ei ymgynghori arno.

"Mae'r ymgynghoriad wedi dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl yn y gymuned yn erbyn y cynlluniau yma, ac felly fy nghwestiwn i yw sut gallwch chi weithredu cynllun sy'n mynd i gael newid pellgyrhaeddol am genedlaethau ar y gymuned yma, heb fod yna unrhyw gefnogaeth ar gyfer y cynlluniau o fewn y gymuned."

Pynciau cysylltiedig