Sector gyhoeddus Cymru i gyrraedd nod hinsawdd yn 'ansicr'

  • Cyhoeddwyd
Llun o fferm solar yng NghymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywed corff gwarchod gwariant Cymru ei fod yn ansicr a fydd sector gyhoeddus Cymru yn cyrraedd targed newid hinsawdd allweddol.

Nod Llywodraeth Cymru yw cyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Ond dywed Archwilio Cymru mai dim ond dau o'r 48 o gyrff cyhoeddus y siaradodd â nhw sydd wedi cyfrifo faint fydd yn ei gostio'n llawn.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Adrian Crompton bod angen i sefydliadau wneud mwy.

Nid yw'r targed sero net yn golygu dileu allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond yn hytrach eu cydbwyso â faint o nwyon sy'n cael eu tynnu o'r atmosffer.

Siaradodd Archwilio Cymru â 48 o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau a byrddau iechyd.

Dywedodd fod sefydliadau ar "gamau gwahanol iawn" o ran llunio eu cynlluniau i ddatgarboneiddio, gyda dros draean yn dal i gymryd camau cychwynnol o lunio cynigion.

Dim ond dau oedd wedi "asesu'r goblygiadau ariannol yn llawn" o gyrraedd targed 2030, tra bod 31 wedi dweud nad oedden nhw wedi gwneud hynny.

Dywedodd cyrff cyhoeddus wrth archwilwyr y byddai angen buddsoddiad sylweddol, a'u bod yn brin o sgiliau arbenigol o ran lleihau a monitro allyriadau carbon.

'O ddifrif'

Dywedodd Archwilio Cymru y bydd yn rhaid i sefydliadau feddwl sut y gallan nhw ddefnyddio cronfeydd presennol mewn gwahanol ffyrdd a rhannu costau gydag eraill.

Dywedodd sefydliadau hefyd eu bod yn brin o sgiliau arbenigol o ran lleihau a monitro allyriadau carbon.

Dywedodd Mr Crompton: "Does dim dwywaith fod cyrff cyhoeddus yn cymryd newid hinsawdd o ddifrif, ond yn syml, mae angen iddyn nhw wneud mwy.

"O ystyried lefel yr ansicrwydd ynghylch a fydd uchelgais gyfunol 2030 yn cael ei gyflawni, nawr yw'r amser ar gyfer arweinyddiaeth feiddgar.

"Mae angen i sefydliadau fod yn arloesol, rhannu profiadau o'u llwyddiannau a'u methiannau ac mae angen iddyn nhw osod datgarboneiddio wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth yr adroddiad o'r ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae data allyriadau'r sector cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn bwysig er mwyn nodi meysydd ar gyfer cynnydd brys.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector cyhoeddus ehangach i gyflawni ein nodau uchelgeisiol."

Pynciau cysylltiedig