Paratoi ar gyfer y Sioe Frenhinol 'fwyaf heriol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Steve Hughson
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig a'r costau cynyddol wedi cael effaith ar y paratoadau yn ôl y prif weithredwr, Steve Hughson

Fe fydd y dyddiau nesaf yn rhai prysur a phwysig i drefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Hon fydd y sioe gyntaf ers dechrau'r pandemig yn 2019.

Yn ôl prif weithredwr y Sioe, mae cost rhedeg y digwyddiad wedi cynyddu o dros £500,000 ers cyn y pandemig.

Dywedodd Steve Hughson mai sioe 2022 fydd y "fwyaf heriol" iddo yn y 10 mlynedd ers iddo ddechrau ar ei swydd.

'Heriol ond llwyddiannus'

"Mae popeth wedi newid eleni ac ar ôl y pandemig, ma' popeth yn wahanol," dywedodd.

"Eleni fydd y sioe fwya' heriol yn y 10 mlynedd d'wetha fi'n credu. Ond ry'n ni yn cadw yn bositif iawn.

"Ry'n ni'n deall bod costau popeth yn mynd lan ac mae cost rhedeg y Sioe ei hun wedi codi dros £500,000 yn fwy o gymharu â beth oedd e yn 2019.

"Ar yr un pryd, ry'n ni'n gweithio gyda chontractwyr i 'neud yn siŵr fod popeth yn dda. Mae'n heriol ond ni'n gallu 'neud e, a bydd y Sioe eleni yn llwyddiannus iawn."

Mae'r Sioe yn gwybod eisoes faint o anifeiliaid fydd yn cystadlu ac yn cael eu dangos, ac maen nhw'n dweud bod niferoedd "yn gryf".

Maen nhw'n hapus iawn â faint o geffylau, defaid, geifr a moch fydd ar y maes.

Mae nifer y gwartheg "'chydig bach yn isel", dywedon, ond yn ôl y trefnwyr roedden nhw'n disgwyl hynny gan ei bod hi'n ddrud i ddangos y gwartheg ac "wrth gwrs, mae y sefyllfa gyda y diciau dal yn bryderus".

Y disgwyl yw y bydd y cylch yn "llawn anifeiliaid yn ystod y Sioe" yn ôl Mr Hughson.

Er rhai newidiadau eleni, bwriad y trefnwyr yw sicrhau fod atyniadau traddodiadol dal yn y prif gylch.

"Ry' ni'n symud gyda'r amseroedd yn sicr a chreu lot o bethe' gwahanol", meddai Mr Hughson.

"Mae hon yn sioe amaethyddol ac mae'r da byw yn y cylch mawr a'r peiriannau amaethyddol i gyd yn bwysig iawn yn Llanelwedd ac mae calon y Sioe, fel sioe amaethyddol fawr, yn dal i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Sioe'n bwysig ar gyfer iechyd meddwl ffermwyr, medd Mared Rand Jones

I lawer o bobl, mae ymweld â'r Sioe yn gyfle i gael gwyliau, ac mae Mared Rand Jones, y pennaeth gweithrediadau, yn dweud ei fod yn gyffrous cael y Sioe yn ôl.

"Dyma'r sioe fwya' amaethyddol yn Ewrop", dywedodd.

"Mae'n bwysig i'r arddangoswyr, i gefn gwlad a'r economi yng Nghymru.

"Mae hefyd yn bwysig i iechyd meddwl pobl. Mynd i'r Sioe yw gwyliau'r flwyddyn i'r ffermwyr.

"Mae'n holl bwysig nawr fod pawb yn dod 'nôl yma ac yn gallu mwynhau, dod at ei gilydd, a siarad wrth gwrs.

"Mae nifer o faterion pwysig ynglŷn â'r diwydiant sydd angen eu trafod a dyma yw y llwyfan, fan hyn yn Llanelwedd, i wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Sioe yn gyfle i Bethan Roberts a'r teulu gwrdd â ffermwyr eraill

Un o'r teuluoedd sy' bwriadu ymweld â'r Sioe eleni yw John a Bethan Roberts a'u plant sy'n ffermio yn Tal y Fan Fach, Pontarddulais.

"Mae pawb yn edrych ymlaen yn enwedig y plant gyda ni", dywedodd Bethan.

"Mae'n gyfle gwych iddyn nhw i weld, cwrdd a siarad â theuluoedd eraill lle mae Mam a Dad yn ffermio yn llawn amser, a chael cyfle i brofi y diwydiant.

"Ac wrth gwrs mae gweld y tractors yn atyniad mawr!"

Mae disgwyl tywydd twym iawn ddechrau'r Sioe, ond mae trefniadau yn eu lle i ddelio â hynny, yn ôl y trefnwyr.

Mae'r Sioe wedi buddsoddi £50,000 mewn system awyru newydd yn y sied ddefaid a bydd digonedd o ddŵr ar gael ar hyd a lled y maes.

Mae cyngor hefyd i ddod ag eli haul a hetiau, ac yn ôl y trefnwyr mae yna gysgod naturiol a choed o gwmpas y safle lle gall pobl gysgodi o wres yr haul.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Williams yn rhan o Bwyllgor Clwyd a bydd yn gwirfoddoli yn ystod y Sioe

Ardal Clwyd yw'r sir sy'n noddi'r Sioe eleni, ac maen nhw wedi bod yn disgwyl eu tro yn eiddgar ers 2019 oherwydd y pandemig.

Ar stondin y sir ger y Neuadd Fwyd mae Nia Williams yn gwirfoddoli.

Mae hi'n aelod o Bwyllgor Clwyd ar gyfer y Sioe ac yn helpu i drefnu'r stondin ar gyfer yr ymwelwyr, gan osod nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu'n lleol fel dillad, wyau, cynnyrch y gwinllannoedd a jin.

"Rydyn ni 'di bod yn gweithio am hwn ers 2018, a hwn rŵan yw y penllanw", dywedodd Nia.

"Dwi'n dod i'r Sioe i gyfarfod â phobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

"Be' sy'n bwysig am y Sioe i fi yw'r ffaith bod y gwirfoddolwyr wedi cadw'r Sioe i fynd a dwi yn siŵr y bydd y gwirfoddolwyr hynny yn cadw'r Sioe i fynd am flynyddoedd lawer i ddod eto."