Carnifal o liw: Croeso cynnes i'r Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsedd Llanddewi-Brefi, a oes heddwch?Ffynhonnell y llun, Enfys Hatcher Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gorsedd Llanddewi-Brefi, a oes heddwch?

Mae cymunedau yng Ngheredigion wedi rhoi eu sgiliau creadigol ar waith drwy greu casgliad o arddangosfeydd ar hyd a lled y sir i hyrwyddo'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mi fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron eleni, o 30 Gorffennaf- 6 Awst.

Gyda llai nag 20 diwrnod i fynd, mae'r sir wedi ei llenwi â lliw, gydag arddangosfeydd, baneri ac arwyddion i'w gweld ar draws Ceredigion.

Un lle sydd wedi derbyn "ymateb anhygoel" am eu harddangosfa yw pentref Lledrod, lle mae draig goch wedi ei gwneud o deiars yn dal sylw ar ochr y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Elen James
Disgrifiad o’r llun,

Y ddraig goch yn Lledrod

"Er bod Lledrod yn bentref bach, roedden ni'n gwybod bod gwagle mawr wrth fynd allan o'r pentref, felly roedd yn rhaid i ni feddwl yn fawr," meddai Elen James, cadeirydd pwyllgor apêl Lledrod, Llanilar a Thrawscoed.

"Fe drefnon ni gyfarfod ac fe awgrymodd un o'r merched y syniad o greu draig."

Gyda'r ddraig yn derbyn sêl bendith yn y cyfarfod cymunedol, aeth y gymuned ati i roi'r syniad ar waith, gyda phawb yn cynnig eu cymorth a'u creadigrwydd, yn ôl Ms James.

"Roedd y person ieuengaf yn ddwy flwydd a'r henaf yn ei 80au, mae wedi bod yn fendigedig i weld teuluoedd, plant yn eu harddegau, pobl ifanc deunaw oed, aelodau'r ffermwyr ifanc ac aelodau'r capel yn dod ynghyd.

"Mae creu'r arddangosfa wedi bod yn gyfle ar ôl Covid i griw ddod at ei gilydd i gydweithio. Ry'n ni wedi cael lot o sbri sydd wedi bod yr un mor bwysig â'r creu."

Ond nid Lledrod yw'r unig bentref i dorchi llewys, mae'r carnifal o liw i'w weld o un pen i'r sir i'r llall.

Gorsedd Llanddewi-Brefi

Bydd gan fro'r Eisteddfod ddwy orsedd eleni ... gorsedd yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn Nhregaron a gorsedd o fwganod brain yn Nhregaron hefyd!

Meddai Enfys Hatcher Davies o Landdewi-Brefi: "Daeth y gymuned at ei gilydd i greu gorsedd o Fwganod Brain. Mae'r Orsedd yng nghanol y pentref wedi'u gwisgo yn eu lliwiau gwyrdd, glas a gwyn.

Ffynhonnell y llun, Enfys Hatcher Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gorsedd Llanddewi-Brefi

"O gwmpas aelodau'r Orsedd, mae saith o ddyfyniadau gan feirdd o Landdewi. Mae'r dyfyniadau'n ddetholiadau bach o gerddi, gyda nifer yn sôn am yr ardal ei hun. Mae bach o bawb wedi cyfrannu at y prosiect.

Ffynhonnell y llun, Enfys
Disgrifiad o’r llun,

Gorsedd Llanddewi-Brefi gydag un o gerddi D.J Jones o Frynawel

"Y Cyngor Cymuned oedd yn gyrru'r syniad ac annog, ond daeth y bwganod brain o bobman yn y gymuned. Fe gwrddon ni yn y pentref ryw nos Wener i beintio'r arwyddion ac i wisgo'r aelodau. Mae enw gorseddol gan bob un aelod hefyd.

Ffynhonnell y llun, Enfys
Disgrifiad o’r llun,

Meistri a Meistresau'r gwisgoedd - trigolion Llanddewi-Brefi yn gwisgo Gorsedd Llanddewi-Brefi

"Dyma nhw; Gwilym ap Prydderch o'r Llwyn, Pugh o'r Prysg, Gwyneth o'r Fflur, Maureen o'r Bont, Eirwen Sarn Helen, Cyril Sgoldy, Emyr Fychan o'r Brefi, Eilir Siôn, Efan ap Dafydd o Lanio, Pant, Defi o'r Llan, Mair Tanllan, Rhys o'r Pistyll. Mae Myrddin ap Dafydd yr Archdderwydd yn arwain y cyfan, wrth gwrs."

Ffynhonnell y llun, Enfys Hatcher Davies
Disgrifiad o’r llun,

Efan ap Dafydd o Lanio

Rhagor o groeso

Yng ngogledd y sir yn Aberystwyth, mae trigolion yn Bow Street wedi ail-greu cadair yr Eisteddfod gyda phaledi pren.

Disgrifiad o’r llun,

Eistedded y bardd yn hedd cadair Bow Street!

Y llythrennau 'EISTEDDFOD' sy'n dal sylw yn Aberaeron gyda'r tai lliwgar, amryliw fel cefndir.

Disgrifiad o’r llun,

Aberaeron yn croesawu'r Eisteddfod

Yn Nhregaron, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gwau sydd wedi bod ar y gweill gan ddisgyblion yr Ysgol Uwchradd, gyda'r coed wedi eu gorchuddio â gwlân.

Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi ei haddurno gan blant Ysgol Uwchradd Tregaron

Wrth yrru i dde'r sir, fe ddowch o hyd i frenin y bêls gwellt, neu archdderwydd tref Llambed a'r cymeriad o deledu plant, Cyw, yn cadw cwmni iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Fel Archdderwydd Llambed, fydd Cyw yn cadw cwmni i Myrddin ap Dafydd yn y prif seremonïau eleni tybed?

Mae'r croeso yr un mor gynnes mewn pentrefi fel Llangybi, Rhydyfelin a Chroeslan hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Croesawu ymwelwyr tu allan i Langybi i fro'r Eisteddfod

Disgrifiad o’r llun,

Croeso lliwgar yn Rhydyfelin

Disgrifiad o’r llun,

Croeslan - dim ond 28 milltir o'r maes! Rydych chi bron â chyrraedd yr Eisteddfod!

Ymateb lleol

Bro360 oedd ynghlwm â'r ymgyrch eleni ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dweud bod yr ymateb i'r dasg yn lleol wedi bod yn wych.

"Mae hi wedi bod mor braf teithio ar hyd rhewlydd Ceredigion dros yr wythnosau diwethaf - mae wedi bod gered 'ma gyda chymaint o bobol yn cyd-dynnu i harddu eu hardaloedd," meddai adroddiad ar y wefan.

"Mae'r effaith weledol yn amlwg - cymaint o liw, a chymaint o greadigrwydd. Ond yr effaith dan yr wyneb sydd bwysicaf, a'r gwaddol mae'r gweithredu yma'n ei adael. O feddwl ble'r oedden ni rhyw 6 mis yn ôl, mae'n rhyfeddol sut mae cymunedau'r sir wedi deffro o Covid, a dod ynghyd yn lleol er mwyn rhoi croeso cynnes i bawb i Geredigion."

O ba bynnag gyfeiriad y byddwch chi'n teithio, o'r gogledd neu o'r de, mi fydd y cymeriadau yn siŵr o godi gwên ar eich taith i Geredigion.

Hefyd o ddiddordeb: